English en

Os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac nad ydych yn malio gwneud gwaith corfforol, gallai swydd fel gweithiwr warws mewn cwmni bwyd fod yn ddewis da i chi.
Byddwch yn gyfrifol am ymdrin â’r holl ddeunyddiau a ddaw i mewn i warws y cwmni. Gallai’r rhain fod yn ddeunydd crai, pecynnau neu ddeunyddiau eraill angenrheidiol ar gyfer y busnes neu yn ystod y broses gynhyrchu.

Categori: Cadwyn Gyflenwi a Logisteg
Mwy
Fel gwyddonydd Amaethyddol, byddwch yn cynnal ymchwil ar gnydau ac anifeiliaid sydd wedi’i anelu at wella technegau ffermio er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau fferm.

Categori: Amaethyddiaeth
Mwy
Fel peiriannydd cynnal a chadw byddwch yn dod yn gwbl gyfrifol am ran arbennig o offer eich safle i sicrhau ei fod yn parhau i berfformio’n ddi-dor, ac ymestyn ei oes weithredol.

Categori: Llaeth
Mwy
Fel peiriannydd shifft, byddwch chi ar y rheng flaen yn sicrhau bod offer yn gweithio’n esmwyth er mwyn osgoi unrhyw doriad neu oedi yn y gwaith.

Categori: Llaeth
Mwy
Fel rheolwr shifft, byddwch yn gyfrifol am weithgareddau cynhyrchu o ddydd i ddydd yn y man gweithredu, p’un a ydy hynny mewn gwaith cynhyrchu, pacio neu’r warws.

Categori: Llaeth
Mwy
Fel swyddog iechyd a diogelwch/amgylcheddol, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r rheolwr iechyd a diogelwch i ddarparu cyfeiriad a chefnogaeth i safleoedd ym meysydd iechyd a diogelwch, diogeledd a materion amgylcheddol.

Categori: Llaeth
Mwy
Fel technolegydd cynhyrchion newydd byddwch yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu deunydd pacio, cynhyrchion, offer a phrosesau – ac yn darparu prosiectau i gyfateb â safonau Dairy Crest mewn gwahanol gategorïau sy’n ymwneud â dylunio cynhyrchion newydd ac arloesi.

Categori: Llaeth
Mwy
Yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, bydd maethegydd fel arfer yn gweithio o fewn adran datblygu cynnyrch newydd y cwmni.
Mae’r rôl yn ymwneud â chynghori ynglŷn â chynnwys maethol y cynnyrch sydd un ai’n gwbl newydd, neu’n cael eu haddasu ymhellach i ychwanegu gwerth neu’n unol â newidiadau i’r gyfraith.
Byddwch yn sicrhau bod labeli’r cynnyrch a honiadau maeth yn addas bob amser a byddwch hefyd yn ymwneud yn aml â gwaith hyrwyddo ar ran eich cwmni - sy’n golygu cyfrannu at lenyddiaeth sy’n arddangos gwerth maeth y cynnyrch.

Categori: Datblygu Cynnyrch Newydd
Mwy