English en

BETH YW PRENTISIAETH?

Swydd gyflogedig go iawn yw prentisiaeth ble byddwch yn dysgu’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad sydd ei angen i wneud eich swydd. Byddwch yn gweithio drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith gyda’ch cyflogwr, ac astudiaethau rhan amser y tu allan i’r gwaith gyda’ch darparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaethau yn amrywio o lefel sylfaen (lefel 2) hyd at radd meistr (lefel 7).

BETH AM Y CYFLOG?

Yn eich blwyddyn gyntaf, y lleiafswm fyddwch yn cael eich talu yw’r isafswm cyflog ar gyfer prentisiaid. Isafswm yw hyn yn unig a gallai cyflogwyr dalu mwy na hyn i chi.

Ar ôl blwyddyn, bydd eich cyflog yn cynyddu i’r isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran.

Cliciwch yma i weld yr isafswm cyflog ar hyn o bryd

Am beth rydych chi’n cael eich talu: 

  • Eich oriau gweithio arferol (lleiafswm o 30 yr wythnos)
  • Unrhyw hyfforddiant sy’n rhan o’ch cymhwyster prentisiaeth
  • Lleiafswm o 20 diwrnod o dâl gwyliau y flwyddyn a gwyliau banc ar ben hynny

BETH YW’R MANTEISION I CHI?

  • Cymhwyster sy’n uchel ei barch ac yn gydnabyddedig o fewn y diwydiant
  • Addysg a hyfforddiant na fydd yn costio’r un geiniog i chi. Hyd yn oed y gradd-brentisiaethau!
  • 1-6 mlynedd o brofiad yn y diwydiant
  • Cyflog llawn amser
  • Cymwysterau sgiliau ymarferol mewn Mathemateg a Saesneg
  • Disgownt myfyriwr prentisiaeth

BLE GALLAI PRENTISIAETH FYND Â CHI?

  • Gallwch ddefnyddio’r cymwysterau i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod.
  • Gallwch ddefnyddio’r profiad, y cymwysterau a’r sgiliau trosglwyddadwy i ymgeisio am gyfleoedd newydd.
  • Gallwch barhau gyda’ch addysg trwy astudiaethau llawn amser, rhan amser neu astudiaethau yn seiliedig ar waith.

SUT I WNEUD CAIS AM BRENTISIAETH?

Rydym ni yn Gyrfaoedd Blasus, yn ei wneud yn hawdd iawn i chi weld pa brentisiaethau sydd ar gael.

  • Ewch i’n tudalen swyddi gwag i weld y prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd
  • Ewch i’r dudalen cyrsiau i ganfod coleg/prifysgol/darparwr hyfforddiant fydd yn medru darparu prentisiaeth
  • Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook am ddiweddariadau ar swyddi gwag, cyrsiau, cyngor gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd a llawer mwy
  • Ewch i wefan prentisiaethau’r llywodraeth gov.uk/apply-apprenticeship 

PRENTISIAETHAU SYLFAEN A PHRENTISIAETHAU

Mae’r prentisiaethau sylfaen (lefel 2) yn cael eu hystyried yn gyfystyr â 5 TGAU gyda gradd 4-9/A-C. Bydd y rhain gan amlaf yn cymryd blwyddyn i’w cwblhau.

Mae’r prentisiaethau (lefel 3) yn cael eu hystyried yn gyfystyr â 2 lefel A ac yn cymryd 12-18 mis i’w cwblhau fel arfer.

Beth sydd arnoch ei angen?

Yn gyffredinol, nid oes gan brentisiaethau sylfaen a phrentisiaethau ofynion gorfodol o ran cymwysterau; serch hynny, mae gofyn i gyflogwyr osod eu gofynion eu hunain a gallai hyn gynnwys lefel mynediad o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg.

PRENTISIAETHAU UWCH

Mae prentisiaethau lefel uwch (lefel 4 neu 5) yn gyfystyr â Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu radd sylfaen. Bydd y prentisiaethau uwch fel arfer yn cymryd 18-36 mis i’w cwblhau.

Beth sydd arnoch ei angen?

Mae’r gofynion ar gyfer prentisiaethau uwch yn amrywio, ond gan amlaf, bydd angen o leiaf 5 TGAU gyda gradd C neu’n uwch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a Mathemateg. Efallai bydd hefyd angen profiad perthnasol yn y diwydiant arnoch a/neu gymwysterau perthnasol.

GRADD-BRENTISIAETH

Gallai gradd-brentisiaeth fod yn radd Baglor (lefel 6) neu radd meistr (lefel 7) sydd fel arfer yn cymryd 4-6 blynedd i’w gwblhau.

Beth sydd arnoch ei angen?

Fel arfer byddwch angen 3 lefel A (gradd A-C) neu gymhwyster cyfwerth ac yn gydnabyddedig o fewn y diwydiant, ond bydd y gofynion yn amrywio llawer gan ddibynnu ar y rhaglen rydych yn ei ddewis. Bydd rhai, fel peirianneg, yn gofyn i chi ddatblygu eich profiad galwedigaethol trwy brentisiaethau ar lefel berthnasol.

DOD O HYD I BRENTISIAETH

DOD O HYD I GWRS PRENTISIAETH