ARDAL ATHRAWON
Ydy eich myfyrwyr erioed wedi ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod?
Bydd Gyrfaoedd Blasus yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y diwydiant bwyd a diod sy’n tyfu’n gyflym, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd ar gael i’ch myfyrwyr, beth bynnag yw eu cymwysterau.
GYRFAOEDD YN Y DIWYDIANT BWYD
Mae’r diwydiant bwyd a diod yn adnabyddus am ei gynnyrch o’r ansawdd sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae digon o le i ddatblygu gyda’r galw cynyddol am gynnyrch newydd a dewisiadau sy’n fwy iach sy’n ei wneud yn sector gyffrous ac arloesol i fod yn rhan ohono.
SUT FEDRWN NI EICH HELPU
Bydd Gyrfaoedd Blasus yn eich helpu i ymgysylltu â’ch myfyrwyr am y cyfleoedd gyrfa yn y Diwydiant Bwyd a Diod. Mae yna nifer o lwybrau cyffrous i’w dilyn o fewn y diwydiant hwn sy’n datblygu’n barhaus.
DISGRIFIADAU SWYDD
Mae gennym dros 100 o ddisgrifiadau swyddi blasus ar ein gwefan sy’n galluogi eich myfyrwyr i ddeall beth fyddai diwrnod mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant bwyd a diod yn ei gynnwys.
PRENTISIAETHAU YN Y DIWYDIANT BWYD
Mae yna nifer o opsiynau ar gael i bobl ifanc ar ôl iddynt adael yr ysgol, rydym ni’n amlinellu’r wybodaeth a manteision prentisiaethau fel un o’r prif lwybrau ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
LLYSGENHADON GYRFAOEDD BLASUS
Mae Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus yn bobl ifanc sydd wedi cael eu dewis gan eu cyflogwyr i gynrychioli eu cwmnïau a’r diwydiant bwyd a diod.
ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON
Yn yr adran hon mae yna amrywiaeth o adnoddau ar gael i’w lawr lwytho am ddim ac i’w rhoi i’ch myfyrwyr neu eu harddangos yn eich ystafell ddosbarth.