BETH SYDD MOR DDA AM Y DIWYDIANT BWYD A DIOD?
Beth bynnag yw eich diddordebau, mae yna yrfaoedd ym maes amaethyddiaeth, cynhyrchiant, datblygu cynnyrch, logisteg, gwerthu, marchnata, cyllid a llawer mwy, ac mae angen lefelau gwahanol o sgiliau ar gyfer bob un.
Tra bod angen i’r boblogaeth gynyddol fwyta ac yfed, bydd yna alw byd eang a bydd angen i ni barhau i wella ein technoleg. Mae hynny’n yn golygu mwy o beirianwyr, gwyddonwyr a mathemategwyr hefyd.
PAM DEWIS GYRFA YN Y DIWYDIANT BWYD A DIOD?
- Cyfleoedd ar gyfer unigolion â chymwysterau ar bob lefel
- Gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad a dilyniant gyrfa cyflym
- Cyflog cyfartalog uchel o’i gymharu â diwydiannau eraill
- Gweithio mewn amgylchedd cyflym sy’n tyfu’n barhaus er mwyn cyflawni galw’r cwsmeriaid
Mae’r diwydiant bwyd a diod wedi’i wneud o ystod eang o yrfaoedd, a phob un angen gwahanol sgiliau a diddordebau. Mae’n debyg y bydd y diwydiant yn tyfu’n gyflym wrth i’r galw am ein cynnyrch gynyddu.
Er mwyn goresgyn heriau diogelwch bwyd a newid hinsawdd yn y dyfodol, byddwn yn defnyddio technolegau sy’n fwy arloesol ac wedi’u hawtomeiddio. Bydd hyn yn cynyddu’r galw am beirianwyr, gwyddonwyr a mathemategwyr – bydd angen unigolion medrus iawn i’n helpu i oresgyn yr heriau hyn.