English en

SUT FEDRWN NI EICH HELPU

Dyma’r adnodd gorau i’ch helpu i ganfod Gyrfa Flasus yn y Diwydiant Bwyd a Diod.. Os hoffech chi ganfod mwy am yrfa benodol o fewn y diwydiant neu glywed gan bobl sydd eisoes yn y diwydiant neu hyd yn oed os ydych yn gweld chwilio am waith yn ddi-flas, does dim rhaid i chi fynd gam ymhellach - gallwn ni eich helpu!

PAM DEWIS GYRFA YN Y DIWYDIANT BWYD A DIOD?

Mae’r diwydiant bwyd a diod yn adnabyddus am ei gynnyrch o’r ansawdd sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae digon o le i ddatblygu gyda’r galw cynyddol am gynnyrch newydd a dewisiadau sy’n fwy iach sy’n ei wneud yn sector cyffrous ac arloesol i fod yn rhan ohono.

DISGRIFIADAU SWYDD

Mae gennym dros 100 o ddisgrifiadau swyddi blasus ar ein gwefan sy’n eich galluogi i ddeall beth fyddai diwrnod mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant bwyd a diod yn ei gynnwys.

Mae gennym ni bopeth o agronomegydd a chiper i swyddi peirianneg bwyd a dylunio pecynnau!

CYRSIAU HYFFORDDIANT

Beth am ddatblygu ambell sgìl newydd cyn dechrau eich gyrfa?

Mae ein cyfres o gyrsiau sy’n benodol ar gyfer bwyd a diod yn cael eu cynnal gan rai o Golegau, Prifysgolion a Darparwyr Hyfforddiant gorau’r wlad.

PRENTISIAETHAU BLASUS

Swydd gyflogedig go iawn yw prentisiaeth lle byddwch yn dysgu’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad sydd ei angen i wneud eich swydd. Byddwch yn gweithio drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gweithle gyda’ch cyflogwr, ac astudiaethau rhan amser y tu allan i’r gweithle gyda’ch darparwr hyfforddiant.

CWRDD Â LLYSGENNAD GYRFAOEDD BLASUS

Mae’r rhain yn unigolion llwyddiannus o wahanol gwmnïau bwyd a diod sy’n rhannu profiad personol o ddechrau eu gyrfa a beth maen nhw wedi ei ddysgu ar hyd y ffordd..

Mae eu cyngor yn amhrisiadwy gan eu bod wedi bod yn eich esgidiau chi a bellach mewn Gyrfaoedd Blasus o fewn diwydiant bwyd a diod!  

CHWILIO AM SWYDD FLASUS

Ydych chi’n barod i ddechrau eich Gyrfa Flasus? Gallai ein porth swyddi eich helpu i ganfod eich gyrfa! 

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i fodloni anghenion ac uchelgeisiau pawb gyda diweddariadau swyddi wythnosol gan rai o frandiau mwyaf adnabyddus y DU!

Map Llawn