English en

BETH SYDD MOR DDA AM Y DIWYDIANT BWYD A DIOD?

Mae’r diwydiant bwyd a diod yn adnabyddus am ei gynnyrch o’r ansawdd sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae digon o le i ddatblygu gyda’r galw cynyddol am gynnyrch newydd a dewisiadau sy’n fwy iach sy’n ei wneud yn sector gyffrous ac arloesol i fod yn rhan ohono.

Mae’r diwydiant bwyd a diod yn ymdrin â’r broses sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel ‘fferm i’r fforc’ neu ‘gât i’r plât’, o dyfu a chynhyrchu bwyd (cynhyrchu cynradd) hyd at weithgynhyrchu, prosesu a manwerthu.

O ddylunio robotau technoleg uwch, i ddatblygu cynnyrch newydd ac unrhyw beth yn y canol- mae yna nifer fawr o yrfaoedd cyffrous i’w dewis o fewn bwyd a diod.

Beth bynnag yw diddordebau eich plant, mae yna yrfaoedd ym maes amaethyddiaeth, cynhyrchiant, datblygu cynnyrch, logisteg, gwerthu, marchnata, cyllid a llawer mwy, ac mae angen sgiliau ar wahanol lefelau ar gyfer bob un.

Tra bod angen i’r boblogaeth gynyddol fwyta ac yfed, bydd yna alw ar draws y byd a bydd angen i ni barhau i wella ein technoleg. Mae hynny’n golygu mwy o beirianwyr, gwyddonwyr a mathemategwyr hefyd.

PAM DEWIS GYRFA YN Y DIWYDIANT BWYD A DIOD?

  • Cyfleoedd ar gyfer unigolion â chymwysterau ar bob lefel
  • Gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad a dilyniant gyrfa cyflym
  • Cyflog cyfartalog uchel o’i gymharu â diwydiannau eraill
  • Gweithio mewn amgylchedd cyflym sy’n tyfu’n barhaus er mwyn cyflawni galw’r cwsmeriaid

Mae’r diwydiant bwyd a diod wedi’i wneud  o ystod eang o yrfaoedd, a phob un angen gwahanol sgiliau a diddordebau. Mae’n debyg y bydd y diwydiant yn tyfu’n gyflym wrth i’r galw am ein cynnyrch gynyddu.

Er mwyn goresgyn heriau diogelwch bwyd a newid hinsawdd yn y dyfodol, byddwn yn defnyddio technolegau sy’n fwy arloesol ac wedi’u hawtomeiddio. Bydd hyn yn cynyddu’r galw am beirianwyr, gwyddonwyr a mathemategwyr – bydd angen unigolion medrus iawn i’n helpu i oresgyn yr heriau hyn.