Mae eich mynediad a’ch defnydd o’r safle hwn yn ddibynnol ar y telerau ac amodau canlynol a phob cyfraith berthnasol. Trwy gael mynediad a defnyddio’r safle hon, ystyrir eich bod yn cytuno â’r telerau a’r amodau canlynol.
Mae’r holl wybodaeth a’r deunydd a ddarperir ar y wefan hon at ddibenion enghreifftiol yn unig. Nid yw’n bwriadu nac yn creu unrhyw berthynas cytundebol neu gyflogedig gyda’r Academi Sgiliau Cendlaethol i Fwyd a Diod (“NSAFD”) nag unrhyw gwmni grŵp cysylltiedig.
Mae’r holl wybodaeth, cynnwys, testun, delweddau, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i god ffynhonnell, ffotograffiaeth a botymau yn eiddo i NSAFD neu ei riant-gwmni, Improve Cyf, ac ni ellir copïo, atgynhyrchu, ail-gyhoeddi, postio, darlledu na dosbarthu mewn unrhyw fodd heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.
Mae pob nod masnach a ddefnyddir neu a gyfeirir ato ar y safle hwn yn eiddo i’w perchnogion priodol.
Darperir yr wybodaeth ar y safle hwn yn rhad ac am ddim ac at ddibenion hysbysiadol. Nid yw’n creu perthynas fusnes, cyflogaeth na wasanaethau proffesiynol rhyngoch chi a’r NSAFD neu unrhyw gwmni grŵp cysylltiedig. Nid yw’r wybodaeth na’r deunyddiau eraill a roddir ar ein safle yn bwriadu cyfrif fel cyngor y dylid dibynnu arno. Rydym felly yn ymwrthod unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb a ddaw gyda dibyniaeth unrhyw ymwelydd i’r safle neu unrhyw un sy’n derbyn gwybodaeth yn deillio o’i gynnwys.
Os ydych yn dymuno gwneud defnydd o ddeunydd ar ein gwefan ar wahân i’r hyn a nodir uchod, cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at info@nsafd.co.uk
Gall dolenni ar y safle hwn arwain at wasanaethau neu safleoedd nad ydynt yn cael eu gweithredu gan NSAFD. Nid wneir unrhyw feirniadaeth na gwarant yng nghyd-destun unrhyw wasanaethau neu safleoedd eraill, ac nid yw NSAFD yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw safleoedd neu wasanaethau o’r fath. Nid yw dolen i unrhyw safle arall yn gymeradwyaeth o’r safle na’r gwasanaeth.
Gallwch roi dolen i’n tudalen hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn modd teg a chyfreithiol sydd ddim yn niweidio ein henw da nac yn manteisio arno. Yn benodol, ni ddylech sefydlu dolen mewn modd sy’n awgrymu unrhyw gyswllt, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan pan nad yw’n bodoli. Ni ddylid fframio ein safle ar unrhyw safle arall, nac ychwaith sefydlu dolen i unrhyw ran o’n safle ac eithrio’r dudalen hafan. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd i gysylltu yn ddirybudd.
Darperir y safle hwn “fal ag y mae” ac mae’r NSAFD yn ymwrthod yn llwyr unrhyw warant o unrhyw fath, boed yn hysbys neu’n oblygedig gan gynnwys gwarantau marchnadwyedd ac addasrwydd i bwrpas penodol.
Ni fydd NSAFD nag unrhyw gwmni grŵp nag unrhyw aelodau o’u staff neu gontractwyr o dan unrhyw amgylchiadau ymatebol am unrhyw iawndal o gwbl parthed yr wybodaeth neu’r deunydd ar y wefan hon, gan gynnwys ond heb gyfyngiadau, iawndal gwirioneddol, canlyniadol, uniongyrchol, rhybuddiol, damweiniol, anuniongyrchol, cosbedigaethol neu arbennig.
Bydd gan Lysoedd Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw hawliad sy’n deillio neu’n gysylltiedig ag ymweliad â’r wefan hon. Bydd Cyfraith Lloegr yn berthnasol i’r telerau ac amodau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon am y deunydd sy’n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch â info@nsafd.co.uk
Mae’r Academi Sgiliau Cenedlaethol i Fwyd a Diod yn gwmni cyfyngedig trwy warant, wedi’i gofrestru yn Lloegr a Chymru. Rhif cofrestru 4768495 Swyddfa Gofrestredig: The Catalyst, Baird Lane, Heslington, Efrog YO10 5GA