English en

DECHRAU EU GYRFAOEDD BLASUS

Ydy eich myfyrwyr erioed wedi ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod?

Mae Gyrfaoedd Blasus yn lle gwych i ddechrau am ei fod yn helpu pobl ifanc i ganfod cyfleoedd am swyddi gwych sy’n talu’n dda a gyrfaoedd hir dymor. Bydd y wefan hon yn eich helpu i wneud y mwyaf o weithgaredd Gyrfaoedd Blasus ac yn dangos i chi sut y gallai fod o fudd i’ch myfyrwyr a rhoi blas iddyn nhw o’r diwydiant.

Mae yna nifer o lwybrau cyffrous i’w dilyn o fewn y diwydiant hwn sy’n datblygu’n barhaus. Hefyd, mae datblygiad gyrfa a chyflog cyfartalog yn uwch yn y diwydiant bwyd a diod na nifer o sectorau eraill.

LLYSGENHADON GYRFAOEDD BLASUS

Mae Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus yn bobl ifanc sydd wedi cael eu dewis gan eu cyflogwyr i gynrychioli eu cwmnïau a’r diwydiant bwyd a diod.

TEITHIAU BLASUS

Rydym ni’n credu ei bod hi’n bwysig fod myfyrwyr yn deall sut mae eu bwyd yn cael ei goginio, y broses gynhyrchu a’r daith o’r cae i’r bwrdd.

Training courses

Bwriad Gyrfaoedd Blasus yw sicrhau gyrfa i bobl yn y diwydiant bwyd a diod, felly, dim ond rolau sy’n cynnig hyfforddiant neu ddatblygiad rydym ni’n eu hyrwyddo, er enghraifft, prentisiaethau, interniaethau, lleoliadau haf, cynlluniau i raddedigion, rolau gyda mynediad uniongyrchol ar lefel isel a rolau rheoli cynnar. 

Jobs Portal

Rydym ni’n hysbysebu swyddi ar gyfer busnesau bwyd a diod yn ogystal â chyrsiau a phrentisiaethau gan ddarparwyr hyfforddiant ledled y DU. 

ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON

Yn yr adran hon mae yna lawer iawn o lenyddiaeth ar gael i’w lawr lwytho am ddim ac i’w rhoi i’ch myfyrwyr neu eu harddangos yn eich ystafell ddosbarth.

TASTY CHALLENGE

The competition aims to provide learners with an exciting way of completing the Enterprise and Employability Challenge and if short-listed for the final, an opportunity to showcase their ideas.