English en

What are tasty ambassadors?

Mae Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus yn bobl ifanc sydd wedi cael eu dewis gan eu cyflogwyr i gynrychioli eu cwmnïau a’r diwydiant bwyd a diod. Rhaglen estyn allan strwythuredig yw hon ar gyfer ysgolion a cholegau, sydd wedi’i rheoli gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod Cymru (NSAFD). Mae Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus wedi cael eu hyfforddi i wneud cyflwyniadau mewn ysgolion sy’n lleol i’w busnesau gan gynrychioli eu cyflogwyr yn ogystal â’r sector cyfan. Bydd y Llysgenhadon yn derbyn yr holl adnoddau a gwybodaeth sydd arnynt eu hangen i wneud hyn yn ystod eu hyfforddiant.

Mae astudiaethau achos gan Lysgenhadon y Diwydiant yn cael eu gosod ar wefan Gyrfaoedd Blasus ac yn ffynhonnell ddefnyddiol i athrawon a myfyrwyr sydd eisiau canfod beth mae gyrfa mewn cynhyrchu bwyd a diod yn ei gynnwys yn ogystal â’r ystod eang o swyddi sydd ar gael mewn unrhyw fusnes bwyd a diod.

About the training programme

Dechreuodd rhaglen Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus o ganlyniad i ymchwil yn 2009 oedd yn cynnwys ysgolion uwchradd y DU. Dangosodd yr ymchwil nad oedd myfyrwyr yn deall yn iawn beth oedd busnesau bwyd a diod lleol yn ei wneud - roedden nhw’n gwybod fod y bwyd yn cyrraedd silffoedd yr archfarchnadoedd o gaeau ffermwyr ond ddim yn deall beth oedd yn digwydd yn y canol. O ganlyniad i hyn, mae ymwybyddiaeth o’r ystod eang o swyddi sydd ar gael neu’r amrywiaeth mewn cyfleoedd gyrfa yn isel iawn. Nid yw bwyd a diod yn cael ei ystyried.

How an ambassador can help you

Gallwch archebu Llysgennad Gyrfaoedd Blasus i ymweld â’ch ysgol gyda’r nod o annog myfyrwyr i feddwl am ddewisiadau gyrfa ac astudio yn y dyfodol a meddwl am ddewis y math o gyrsiau y mae busnesau bwyd a diod yn chwilio amdanynt. Rydym ni am iddynt fod yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael ac ystyried y dewisiadau astudio a’r nifer o gymwysterau a chyrsiau galwedigaethol sydd ar gael mewn addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch sy’n agor y drysau at yrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Efallai bod rhai myfyrwyr yn barod i feddwl am yrfa bwyd a diod yn syth ar ôl ysgol- efallai bod eraill yn edrych yn bellach i’r dyfodol. Ond, gyda’ch mewnbwn chi yn unig y bydd gyrfa bwyd a diod ar y rhestr.