English en

Cynnwys

Mae’r datganiad preifatrwydd yma’n cynnwys y wefan www.tastycareerswales.org.uk (y "Wefan"). Nid yw’r polisi yma’n cynnwys gwefannau trydydd parti sydd â dolenni o’r wefan hon.

I bwrpasau’r Datganiad Preifatrwydd yma mae, "ni ", "ein " neu "ninnau" yn cyfeirio at yr Academi Sgiliau Cenedlaethol i Fwyd a Diod (“NSAFD”) yn The Catalyst, Baird Lane, Heslington, Efrog YO10 5GA sydd â’r rhif cofrestredig 4768495 ac mae "ti", “chi” neu "dy" neu “eich” yn golygu’r sawl sy’n defnyddio’r Wefan hon. Mae "data" yn golygu gwybodaeth y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod yn bersonol megis eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, enw defnyddiwr a chyfrinair. Gallai’r Wefan hon gasglu rhywfaint o’r math yma o wybodaeth, neu’r holl wybodaeth o’r math yma. Trwy roi’r data yma i ni rydych wedi rhoi eich caniatâd yn ymhlyg i ni ei ddefnyddio i’r pwrpasau sydd wedi eu nodi isod ac fel y byddwn yn eu hesbonio ymhellach pan fyddwn yn casglu’r Data gennych.

Cofrestru

Mae gofyn i chi ddarparu eich Data er mwyn cofrestru ar gyfer derbyn ein taflenni newyddion neu os ydych wedi gofyn i ni anfon rhagor o wybodaeth atoch.

Sut rydym yn defnyddio eich Data

Byddwn yn defnyddio eich Data yn gyfan gwbl i’r pwrpas sydd wedi’i ddisgrifio ar amser y casglu ac heblaw ei fod wedi’i nodi isod, ni fyddwn yn ei basio neu’n ei werthu i unrhyw drydydd parti heblaw eich bod wedi nodi eich caniatâd i hynny ar amser eich cofrestriad neu yn dilyn rhagor o gyfathrebiad gennym. Gallech gysylltu unrhyw bryd â’r sawl sydd wedi’u restru wrth y pennawd “Dad-danysgrifio” isod i gael tynnu neu addasu eich manylion cofrestru.

Ni fyddwn yn gofyn i chi  am ragor o wybodaeth nag sydd ei hangen a byddwn ond yn casglu Data gennych sy’n ofynnol i’r pwrpas y gofynnwyd amdano gennych, neu a fydd yn ein helpu i roi gwasanaeth mwy gwerthfawr i chi. Yn arbennig, gallem ddefnyddio eich Data i’r pwrpasau a ganlyn:  

  • i gyflawni eich ceisiadau am wasanaethau penodol;
  • i bersonoli eich profiad  ar y Wefan;
  • i roi’r diweddaraf i chi am y datganiadau gwasanaeth diweddaraf neu wybodaeth arall yr ydym yn teimlo y byddech yn hoffi clywed amdano gennym;
  • i ddeall eich anghenion ac i roi gwasanaethau gwell i chi;
  • i olrhain eich defnydd o’r Wefan hon;
  • i helpu gyda Rheoleiddio’r NSA gan yr Asiantaeth Cyllido Sgiliau ac asiantaethau perthnasol eraill y Llywodraeth ac unrhyw gyrff olynol.

Mewn rhai achosion efallai y bydd hi’n angenrheidiol i ni roi eich data i’n hasiantaethau dan gontract i ddadansoddi neu ddiweddaru data neu gronfa ddata, neu i dŷ postio trydydd parti i bwrpas cyflawni eich archebion.

Ni all y Data a ddarparwch gael ei ddefnyddio heblaw gan y bobl hynny sydd wedi’u disgrifio uchod. Bydd eich data wedi’i gadw am hyd at saith mlynedd. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Gallech gael gafael ar yr wybodaeth a gedwir amdanoch gan y Tîm Brand, yr Academi Sgiliau Cenedlaethol i Fwyd a Diod, The Catalyst, Baird Lane, Heslington, Efrog YO10 5GA neu drwy e-bostio info@nsafd.co.uk 

Plant a Phreifatrwydd

Nid yw eich Gwefan yn targedu, ac nid yw wedi’i bwriadu, i ddenu plant o dan 14 oed. Nid ydym yn fwriadol gymryd gwybodaeth bersonol gan blant o dan 14 oed nac yn anfon ceisiadau atynt am wybodaeth bersonol.

Mae cwci yn linyn testun-yn-unig o wybodaeth y mae gwefan yn ei throsglwyddo i ffeil cwci’r porwr ar ddisgen galed eich cyfrifiadur fel bod y wefan yn gallu cofio pwy ydych. Bydd cwci’n cynnwys enw’r parth y mae’r cwci wedi dod ohono, “hyd oes” y cwci, a gwerth, sydd fel arfer yn rhif unigryw a gynhyrchir ar hap.

Rydym yn defnyddio cwcis yn y ffyrdd a ganlyn:

(i) i’n helpu i’ch adnabod chi fel ymwelydd unigryw (dim ond rhif) pan fyddwch yn dychwelyd i’n Gwefan ac i adael i ni deilwra cynnwys neu hysbysebion i gyfateb â’ch diddordebau dewisedig; ac

(ii) olrhain patrymau traffig y defnyddwyr i weld pa mor effeithiol yw ein strwythur llywio o ran helpu defnyddwyr i gyrraedd yr wybodaeth honno ac i’n helpu i sicrhau bod ei strwythur yn gweithio; a

(iii) chasglu ystadegau dienw, wedi eu tynnu at ei gilydd, sy’n gadael i ni ganfod pa mor ddefnyddiol yw ein gwybodaeth ar y Wefan.

Nid oes modd eich adnabod yn bersonol o gwci. Nid yw cwcis yn gallu darllen data oddi ar eich disgen galed na darllen ffeiliau cwcis sydd wedi eu creu gan safleoedd eraill.

Mae gennych y gallu i dderbyn neu wrthod cwcis drwy addasu’r gosodiadau yn eich porwr pan mae’n rhoi gwybod i chi ei fod yn bresennol. I newid gosodiadau eich cwcis yn eich Internet Explorer neu i wrthod neu ofyn caniatâd ar gyfer cwcis, cliciwch ar Offer/Opsiynau Rhyngrwyd/Preifatrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar AboutCookies.org am gwcis, gan gynnwys sut i’w rhwystro a/neu eu dileu nhw.

Does dim angen i chi droi cwcis ymlaen i ddefnyddio neu lywio drwy nifer o rannau ein Gwefan, ond gallai hyn gyfyngu ar rai o’r swyddogaethau sydd ar gael ar y Wefan ac efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r holl nodweddion rhyngweithiol.

Dad-danysgrifio

Gall unrhyw un sy’n tanysgrifio i dderbyn gwybodaeth gennym ddad-danysgrifio rhag derbyn gwybodaeth o’r fath unrhyw bryd naill ai drwy ddilyn y ddolen dad-danysgrifio a anfonir gyda’r holl gyfathrebiadau electronig, neu drwy e-bostio info@nsafd.co.uk

Diogelu Data

Y rheolwr data sy’n gofrestredig gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn ymwneud â’r data a gesglir ac a ddefnyddir gan yr NSA yw ei endid gwreiddiol, Improve Limited.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ein casgliad, am ddefnydd neu am ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch at y Tîm Marchnata, yr Academi Sgiliau Cenedlaethol i Fwyd a Diod, The Catalyst, Baird Lane, Heslington, Efrog YO10 5GA neu drwy e-bostio info@nsafd.co.uk

Ymwadiad

Rydym yn defnyddio ein hymdrechion rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir ac wedi’i diweddaru’n rheolaidd ond, cyn i chi ddibynnu ar unrhyw beth, cysylltwch â ni neu gwiriwch yr wybodaeth mewn ffynhonnell arall.

Mae’r Wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni at wefannau Rhyngrwyd allanol. Rydym wedi cynnwys dolenni o’r fath er mwyn i chi allu cyfeirio atynt yn hawdd ond nodwch os gwelwch yn dda nad oes rheolaeth gennym dros gynnwys y gwefannau hyn ac nid ydym yn cefnogi eu cynnwys ac ni allwn dderbyn cyfrifoldeb amdanynt. Rydych yn mynd i mewn i wefannau o’r fath ar eich cyfrifoldeb eich hun.