MYFYRWYR
Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod?
Dyma’r adnodd gorau i’ch helpu i ganfod Gyrfa Flasus yn y Diwydiant Bwyd a Diod.
Os hoffech chi ganfod mwy am yrfa benodol o fewn y diwydiant neu glywed gan bobl sydd eisoes yn y diwydiant neu hyd yn oed os ydych yn gweld chwilio am waith yn ddi-flas, does dim rhaid i chi fynd gam ymhellach - gallwn ni eich helpu!
ATHRAWON
Ydy eich myfyrwyr erioed wedi ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod?
Mae Gyrfaoedd Blasus yn lle gwych i ddechrau am ei fod yn helpu pobl ifanc i ganfod cyfleoedd am swyddi gwych sy’n talu’n dda a gyrfaoedd hir dymor.
Bydd y wefan hon yn eich helpu i wneud y mwyaf o weithgaredd Gyrfaoedd Blasus ac yn dangos i chi sut y gallai fod o fudd i’ch myfyrwyr a rhoi blas iddyn nhw o’r diwydiant.
RHIENI
Ydy eich plentyn yn edrych am yrfa yn y diwydiant bwyd a diod?
Bydd Gyrfaoedd Blasus yn symleiddio’r cyfleoedd i ddysgu a derbyn hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc yn y diwydiant bwyd a diod.
Mae popeth rydych chi ei angen yma. P’un ai ydych chi eisiau deall prentisiaethau, edrych ar astudiaethau achos go iawn, helpu rhywun rydych chi’n ei adnabod i chwilio am swydd neu’n edrych am ychydig o ysbrydoliaeth.
MAP GYRFAOEDD RHYNGWEITHIOL
Ewch i’n Map Gyrfaoedd Rhyngweithiol i weld y Byd Blasus o bosibiliadau sydd ar flaenau eich bysedd.
Ewch am daith o amgylch ein Map Gyrfaoedd Rhyngweithiol i ddarganfod yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd yn y diwydiant bwyd a diod.
EISIAU DWEUD HELO? CLICIWCH YMA I GYSYLLTU Â NI
PARTH PRENTISIAETH
Beth yw prentisiaeth?
Swydd gyflogedig go iawn yw prentisiaeth lle byddwch yn dysgu’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad sydd ei angen i wneud eich swydd. Byddwch yn gweithio drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gweithle gyda’ch cyflogwr, ac astudiaethau rhan amser y tu allan i’r gweithle gyda’ch darparwr hyfforddiant.
Mae prentisiaethau yn amrywio o lefel sylfaen (lefel 2) hyd at radd meistr (lefel 7).
Am fwy o wybodaeth ewch i’n Parth Prentisiaeth.
ADDYSG
Beth am ddatblygu ambell sgìl newydd cyn dechrau eich gyrfa?
Mae ein cyfres o gyrsiau sy’n benodol ar gyfer bwyd a diod yn cael eu cynnal gan rai o Golegau, Prifysgolion a Darparwyr Hyfforddiant gorau’r wlad.