English en

BETH YW PRENTISIAETH?

Mae prentisiaethau wedi cael eu llunio i ddarparu’’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar unigolion er mwyn cyflawni eu rôl o fewn sefydliad trwy gyfuniad o hyfforddiant ymarferol yn y gweithle a dysgu i ffwrdd o’r gwaith.

Mae prentisiaethau ar gael o lefel TGAU hyd at lefel Gradd.

 

Prentisiaethau Canolradd (Lloegr) / Prentisiaethau Sylfaen (Cymru)

  • Lefel: 2
  • Cyfystyr â 5 TGAU

Prentisiaethau Uwch (Lloegr) / Prentisiaeth (Cymru)

  • Lefel: 3
  • Cyfystyr â 2 Lefel A

Uwch Brentisiaethau (Lloegr) / Prentisiaethau Uwch (Cymru)

  • Lefel: 4 a 5
  • Cyfystyr â Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) 

Gradd-brentisiaeth

  • Lefel: 6 a 7
  • Cyfystyr â gradd Baglor neu radd Meistr

BETH YW’R MANTEISION O WNEUD PRENTISIAETH?

  • Cymhwyster sy’n uchel ei barch ac yn gydnabyddedig o fewn y diwydiant
  • Addysg a hyfforddiant na fydd yn costio’r un geiniog i chi. Hyd yn oed y radd-brentisiaeth!
  • 1-6 mlynedd o brofiad yn y diwydiant
  • Cyflog llawn amser
  • Cymwysterau sgiliau ymarferol ym Mathemateg a Saesneg
  • Disgownt myfyriwr prentisiaeth

SUT MAE PRENTISIAETHAU’N GWEITHIO?

Gan amlaf, bydd prentis yn union yr un peth ag unrhyw aelod arall o’r tîm - yn gweithio ac yn dysgu wrth weithio. Ond bydd o leiaf 20% o’r amser taladwy yn mynd tuag at ddysgu i ffwrdd o’r gwaith - yn ehangu gwybodaeth ac yn darparu sgiliau y gellid eu defnyddio yn y gweithle.

Beth yw dysgu i ffwrdd o’r gwaith?

Mae hyn yn golygu unrhyw beth sy’n digwydd y tu allan i’r gweithle ac yn gallu cynnwys:

  • Dysgu o bell – astudiaethau ar-lein sy’n cael eu cynnal trwy ddarlithoedd mewn fideo, dysgu ar-lein ayb
  • Dysgu cyfunol – cyfuno gwahanol ddulliau dysgu fel wyneb yn wyneb ac ar-lein
  • Cyfnod estynedig o astudiaeth, naill ai ar ddechrau’r hyfforddiant neu hanner ffordd drwyddo.

Mae’r ffordd benodol y bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn dibynnu ar drafodaeth rhwng y prentis, y cyflogwr a’r darparwr hyfforddiant - sy’n ei wneud yn hyblyg iawn. 

Bydd y prentis yn treulio gweddill yr amser yn y gwaith yn dysgu’r swydd ac yn rhoi’r hyn mae wedi’i ddysgu ar waith – wedi’i gefnogi a’i feithrin gan y mentor yn y gweithle.

GWYBODAETH YCHWANEGOL

STATWS CYFLOGAETH

Gan fod prentisiaeth yn swydd gyflogedig go iawn a bod yn rhaid i’r unigolyn weithio o leiaf 30 awr yr wythnos, ac mae’n cael ei ystyried yn weithwyr cyflogedig llawn amser.

Mae’n rhaid bod gan yr unigolyn gontract cyflogaeth ac mae’n rhaid iddo arwyddo cytundeb prentisiaeth. Mae’r cytundeb prentisiaeth yn amlinellu amodau’r rhaglen, natur yr hyfforddiant y bydd y prentis yn ei dderbyn, yr amodau gwaith a’r cymwysterau y mae’r prentis yn anelu atynt.

CYFLOGAU

Os yw’r prentis o dan 19 neu dros 19 ond ym mlwyddyn gyntaf ei brentisiaeth, mae ganddo hawl i ‘Gyflog Prentisiaeth’.

Os yw’r Prentis dros 19 ac wedi cwblhau blwyddyn gyntaf ei Brentisiaeth, nid yw’n gymwys am ‘Gyflog Prentisiaeth’ bellach, felly mae’n rhaid iddo dderbyn yr isafswm cyflog am y grŵp oedran perthnasol.

Cliciwch yma i weld yr isafswm cyflog ar hyn o bryd https://www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

HAWL GWYLIAU

Mae gan Brentis hawl i leiafswm o 20 diwrnod o wyliau gyda thâl bob blwyddyn a gwyliau banc ar ben hynny.

PRENTISIAETHAU BWYD A DIOD (LLOEGR)

Dyma’r prentisiaethau yn benodol ar gyfer bwyd a diod sydd ar gael yn Lloegr ar bob lefel

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y prentisiaethau hyn

Prentisiaethau Canolradd

  • Gweithiwr Lladd-dy
  • Pobydd
  • Cigydd
  • Gwerthwr Pysgod
  • Gweithredwr Proses Bwyd a Diod
  • Gweithiwr Dofednod

Prentisiaethau Uwch

  • Uwch Bobydd
  • Uwch Gigydd
  • Uwch Weithredwr Proses Bwyd a Diod
  • Peiriannydd Cynnal a Chadw Bwyd a Diod
  • Technolegydd Bwyd
  • Technegydd Dofednod

Uwch Brentisiaethau

  • Bragwr
  • Uwch Dechnolegydd Llaeth

Gradd-brentisiaethau

  • Uwch Beiriannydd Bwyd a Diod
  • Gweithiwr Proffesiynol Technegol Bwyd a Diod
  • Gweithiwr Proffesiynol Pecynnu

PRENTISIAETHAU BWYD A DIOD (CYMRU)

Dyma’r prentisiaethau yn benodol ar gyfer bwyd a diod sydd ar gael yng Nghymru ar bob lefel.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y prentisiaethau hyn

Lefel Sylfaen

  • Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod
  • Sgiliau’r Diwydiant Pobi
  • Sgiliau’r Diwydiant Bwyd
  • Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd
  • Sgiliau’r Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn
  • Sgiliau’r Diwydiant Bragu
  • Sgiliau’r Diwydiant Llaeth
  • Sgiliau’r Diwydiant Cynnyrch Ffres
  • Arwain Tîm yn y Diwydiant Bwyd

Lefel Prentisiaeth

  • Cig a Dofednod
  • Pobi
  • Peirianneg Cynnal a Chadw Bwyd a Diod
  • Sgiliau’r Diwydiant Bwyd a Rheolaeth Dechnegol
  • Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd
  • Cynnyrch Ffres
  • Pysgod a Physgod Cregyn

Prentisiaeth uwch

  • Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd