RHIENI
Bydd Gyrfaoedd Blasus yn symleiddio’r cyfleoedd i ddysgu a derbyn hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc yn y diwydiant bwyd a diod.
Mae popeth rydych chi ei angen yma. P’un ai ydych chi eisiau deall prentisiaethau, edrych ar astudiaethau achos go iawn, helpu rhywun rydych chi’n ei adnabod i chwilio am swydd neu’n edrych am ychydig o ysbrydoliaeth.
Y DIWYDIANT BWYD A DIOD
Mae’r diwydiant bwyd a diod yn adnabyddus am ei gynnyrch o ansawdd sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae digon o le i ddatblygu gyda’r galw cynyddol am gynnyrch newydd a dewisiadau sy’n fwy iach sy’n ei wneud yn sector gyffrous ac arloesol i fod yn rhan ohono.
CEFNOGAETH AC ARWEINIAD
Mae cynorthwyo pobl ifanc i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u dyfodol yn medru ymddangos yn fwy o her nag erioed. Ond peidiwch â phoeni, mae help wrth law. Rydych chi wedi dod i’r lle iawn!
PRENTISIAETHAU YN Y DIWYDIANT BWYD
Mae yna nifer o opsiynau ar gael i bobl ifanc ar ôl iddynt adael yr ysgol, rydym ni’n amlinellu gwybodaeth a manteision prentisiaethau fel un o’r prif lwybrau ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
CWRDD Â LLYSGENHADON GYRFAOEDD BLASUS
Mae Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus yn bobl ifanc sydd wedi cael eu dewis gan eu cyflogwyr i gynrychioli eu cwmnïau a’r diwydiant bwyd a diod.