YMUNWCH Â’R HER FLASUS
Mae Gyrfaoedd Blasus Cymru yn lansio Cystadleuaeth Her Menter a Chyflogadwyedd ar gyfer ysgolion sy’n darparu Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Genedlaethol a Sylfaenol yng Nghyfnod Allweddol 4.
Mae’r gystadleuaeth, sy’n seiliedig ar frîff a luniwyd gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod ac wedi’i gymeradwyo gan CBAC, yn anelu at ddarparu cyfle cyffous i ddysgwyr gwblhau’r Her Menter a Chyflogadwyedd, yn ogystal ag arddangos eu syniadau os byddant yn derbyn lle ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol.
Yn ystod yr Her Flasus, bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio gydag eraill trwy weithgareddau adeiladu tîm, a datblygu eu sgiliau a’u hymwybyddiaeth o’r diwydiant bwyd a diod.
Bydd hefydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau Creadigrwydd ac Arloesedd, Effeithiolrwydd Personol a Llythrennedd Digidol a’u rhoi ar waith yn yr her.
Mae’r brîff ar gael yn yr adran Bagloriaeth Cymru ar wefan CBAC: www.cbac.co.uk