English en

What are Tasty Tours?

Rydym ni’n credu ei bod hi’n bwysig fod myfyrwyr yn deall sut mae eu bwyd yn cael ei goginio, y broses gynhyrchu a’r daith o’r cae i’r bwrdd.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym ni’n rhoi cyfle i grwpiau o blant ysgol gael taith y tu ôl i’r llenni yn rhai o’r busnesau cynhyrchu bwyd Cymreig gorau.

Beth yw Taith Flasus?

Hanner diwrnod yn llawn dysgu, prosiectau a heriau yw Taith Flasus.

Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad gan Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod a fydd yn rhoi trosolwg o’r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Yn dilyn hyn, bydd y busnes yn estyn croeso ac yn darparu gwybodaeth ar beth ddylai’r myfyrwyr ddisgwyl trwy gydol y dydd.

Yna, bydd y grŵp yn cael eu tywys ar daith o amgylch ffatri/ ardal gynhyrchu bwyd neu ddiod y busnes, lle byddant yn gweld cynnyrch yn cael ei gynhyrchu a’r camau sy’n arwain at yr eitem orffenedig.

Bydd y prynhawn yn cael ei gynnal mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, ll bydd y myfyrwyr yn derbyn prosiect neu weithdy yn seiliedig ar yr hyn a welwyd yn ystod y daith yn y bore.