English en
Gweithiwr Warws

Felly am beth mae hyn i gyd?

Os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac nad ydych yn malio gwneud gwaith corfforol, gallai swydd fel gweithiwr warws mewn cwmni bwyd fod yn ddewis da i chi.

Byddwch yn gyfrifol am ymdrin â’r holl ddeunyddiau a ddaw i mewn i warws y cwmni. Gallai’r rhain fod yn ddeunydd crai, pecynnau neu ddeunyddiau eraill angenrheidiol ar gyfer y busnes neu yn ystod y broses gynhyrchu.

Golyga hynny ddadlwytho llwythi ar balet a nwyddau eraill a’u storio a’u cofnodi’n gywir. Mae angen i chi fod o gwmpas eich pethau ac yn sylwgar – cadw golwg am unrhyw nwyddau sydd wedi cael eu difrodi neu gyfanswm anghywir ar anfonebau ac ati.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Gallai union natur y swydd amrywio ychydig gan fod gan gwmnïau fannau gwahanol ar gyfer derbyn deunyddiau crai sydd yn aml angen dulliau gwahanol o drin a thrafod a storio:

Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn cwblhau rhai neu bob un o’r tasgau canlynol:

  • Derbyn stoc, nwyddau a deunyddiau
  • Dadlwytho nwyddau sy’n dod i mewn (bydd angen trwydded yrru cerbyd fforch godi)
  • Cadw llygad am eitemau wedi’u difrodi neu eitemau coll
  • Storio nwyddau yn y mannau cywir yn y warws
  • Symud stoc o gwmpas â llaw, defnyddio offer codi neu gerbyd fforch godi
  • Pigo a phecynnu archebion at ddibenion cynhyrchu
  • Cadw cofnodion cywir o’r stoc
  • Cadw gwaith papur yn gyfredol
  • Cadw mannau gwaith yn daclus ac yn lân

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Er eich bod yn rhan o dîm, mae’n bosibl y bydd angen gweithio ar eich pen eich hun o dro i dro. Bydd disgwyl i chi allu cwblhau eich gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol bob amser a chydymffurfio i reolau Iechyd a Diogelwch y cwmni bob amser.

Dylech feddu ar sgiliau mathemateg ac ysgrifennu Saesneg da a dylech allu defnyddio cyfrifiadur a bysellfwrdd gan fod angen bob un o’r rhain yn y swydd hon. Dylech fod yn iach yn gorfforol oherwydd natur gweithgynhyrchu bwyd a thrin a thrafod deunyddiau darfodus gyda dyddiadau defnyddio byr, bydd disgwyl i chi weithio’n sydyn a dylech allu ymdrin ag ymholiadau’n sydyn ac mewn modd broffesiynol.

Yn ogystal â bod mewn cyflwr corfforol da, byddwch hefyd yn berson didwyll, dibynadwy a phrydlon.

Beth alla i ddisgwyl?

Bydd eich wythnos waith nodweddiadol yn 40 awr ond gallai hynny olygu gweithio ar adegau gwahanol o’r dydd ar wahanol sifftiau neu ar benwythnosau os bydd y cwmni angen hynny.

Wrth gwrs, golyga hynny eich bod yn osgoi traffig ar adegau prysur ac yn debryn taliadau bonws sift yn ogystal â chyfle posibl ar gyfer gweithio goramser o dro i dro.

Mewn ambell gwmni bwyd, gallech fod yn gweithio mewn amgylchedd oer, sy’n golygu bod angen i chi wisgo dillad cynnes, fodd bynnag, ni fydd bydd gofyn i chi weithio yn rhywle oni bai eich bod wedi derbyn y dillad diogelwch cywir.

Beth am y cyflog?

Mae’n debyg y byddwch yn dechrau ar gyflog oddeutu £12,500 y flwyddyn a dylai hyn gynyddu wrth i chi ennill profiad a derbyn mwy o gyfrifoldeb. Gall gweithwyr warws profiadol ennill hyd at £18,000 y flwyddyn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol er mwyn bod yn weithiwr warws, ond bydd nifer o gwmnïau bwyd yn gofyn am rai cymwysterau mewn Saesneg a Mathemateg.

Byddai cymhwyster mewn TG hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y swydd hon – yn ogystal â thrwydded cerbyd fforch godi, ond mae’n bosibl y byddai hynny’n rhan o’r cynllun hyfforddi a datblygu yn y gweithle.

Mae’n bosibl y byddech yn gallu dechrau yn y swydd hon fel rhan o raglen Prentisiaeth.

Ym mha bynnag achos, byddwch yn derbyn hyfforddiant anwytho ac iechyd a diogelwch pan fyddwch yn dechrau gweithio a byddwch hefyd yn dysgu am weithdrefnau storio ac anfon a’r ffordd gywir o fewnbynnu cofnodion cyfrifiadurol a chreu adroddiadau.

Beth am hyfforddiant pellach?

Bydd eich cyflogwr yn awyddus i’ch gweld yn datblygu ac yn dod yn arbenigwr yn eich swydd, a byddwch yn derbyn cefnogaeth os byddwch yn dymuno cwblhau hyfforddiant pellach.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes – er bod hon yn swydd gorfforol, byddwch yn cael digon o gyfle i ddefnyddio eich ymennydd ac i gael eich cydnabod am y rhesymau iawn – gall agweddau fel rheoli ansawdd a gwirio anfonebau arbed llawer iawn o arian a thrafferth i’ch cwmni!

Mae’n le da i ddechrau ar gyfer gyrfa yn y sector gweithgynhyrchu bwyd.