Beth yw’r swydd?
Fel gwyddonydd Amaethyddol, byddwch yn cynnal ymchwil ar gnydau ac anifeiliaid sydd wedi’i anelu at wella technegau ffermio er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau fferm.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn cynnal profion, casglu a dadansoddi samplau, ac yn llunio adroddiadau ar nifer o’r ffactorau sy’n effeithio cynhyrchiad amaethyddol; yna, gallwch ddefnyddio’r adroddiadau hyn i hysbysu ffermwyr, cyflenwyr hadau ayb o welliannau posib y gellid eu gwneud.
Byddwch hefyd yn astudio effeithiau gwahanol dechnegau ffermio, plâu a ffactorau amgylcheddol amrywiol sydd hefyd yn effeithio allbynnau.
Bydd y Gwyddonydd Amaethyddol yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng gofidion economaidd y ffermwr a materion cadwraeth eraill.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Mae yna nifer o feysydd arbenigol sy’n arwain at amrywiaeth eang yn rhywfaint o waith y Gwyddonydd Amaethyddol, ond mae’r tasgau canlynol yn debygol:
- Llunio a gweithredu arbrofion maes er mwyn datrys problemau
- Gweithio’n annibynnol mewn dull trefnus er mwyn cynhyrchu data i’w ddefnyddio
- Cynnal profion, casglu samplau a dadansoddi’r canlyniad
- Ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ymchwil maes a chyfathrebu’r canlyniadau
- Cydweithio gydag eraill er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib ar gyfer yr ymchwil
- Cadw meddwl annibynnol a chynhyrchu datrysiadau arloesol i broblemau
- Ysgrifennu ceisiadau grant at ddibenion ymchwil
- Sicrhau fod yr holl waith yn cwrdd â gofynion deddfwriaethol
- Cydweithredu â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill
- Goruchwylio gwaith labordy a gwaith maes pobl eraill
Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?
Bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a’r amgylchedd, sydd yn benodol yn seiliedig o amgylch bioleg a chemeg, a byddwch yn mwynhau gwaith ymchwil yn fawr iawn.
Bydd angen i chi fedru cyfathrebu’n wych er mwyn cynhyrchu adroddiadau sydd wedi’u hysgrifennu’n dda cyn cyfathrebu’r canlyniadau i ystod ehangach o randdeiliaid.
Dylech chi fod yn arloesol er mwyn canfod datrysiadau i broblemau sydd wedi cael eu cyflwyno i chi i’w harchwilio; mae deall egwyddorion busnes hefyd yn bwysig er mwyn i’ch syniadau fod yn rhai call o safbwynt ariannol.
Bydd y swydd hefyd yn gofyn i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus oherwydd bydd angen i chi fod yn fanwl gywir dros gyfnodau hir gan ddibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud ar unrhyw adeg.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Byddwch yn gweithio 39 awr yr wythnos ac wedi eich lleoli mewn labordy am ran o’r amser a’r rhan arall yn y maes gan ddibynnu ar y llwyth gwaith - gallai’r oriau hyn gynnwys nosweithiau a phenwythnosau.
Mae cyflogwyr posib ar gyfer Gwyddonwyr Amaethyddol yn cynnwys adrannau’r Llywodraeth a chyrff perthnasol, sefydliadau ymchwil a chynhyrchwyr cynnyrch a ddefnyddir yn y sector amaethyddol.
Wrth i chi ddatblygu profiad a safle uwch efallai cewch eich gofyn i fod ar wahanol bwyllgorau sy’n mynd i’r afael â materion polisi.
Beth am y cyflog?
Bydd eich cyflog yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel y lleoliad a’r cyflogwr.
Gallwch ddisgwyl ennill rhwng £17000 a £22000 ar y dechrau a gyda phrofiad gallwch fod yn ennill rhwng £28000 a £35000.
Byddwch yn ennill llawer mwy wrth i’ch gyrfa ddatblygu a chithau’n derbyn swyddi uwch.
Cofiwch mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau hyn.
Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?
Bydd angen o leiaf gradd mewn pwnc perthnasol fel bioleg, cemeg, priddeg, maetheg anifeiliaid neu amaethyddiaeth a.y.b.
Efallai bydd angen cymhwyster ôl-raddedig fel gradd Meistr neu hyd yn oed Ddoethuriaeth arnoch, gan ddibynnu ar y math o waith; bydd gwaith ôl-raddedig yn golygu eich bod wedi arbenigo mewn maes penodol o fewn gwyddoniaeth amaethyddol, er enghraifft, priddeg, gwyddor anifeiliaid a thechnoleg cnydau.
Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?
Mae’r math hwn o gymwysterau ar gael yn eang mewn Prifysgolion ac edrychwch o dan benawdau pynciau am fanylion am ble gallwch astudio ar gyfer eich cymwysterau.
Beth am hyfforddiant pellach?
Efallai y byddwch wedi dechrau gweithio yn syth ar ôl cwblhau eich gradd israddedig, felly, fel y soniwyd uchod, mae yna ystod eang o arbenigedd ôl-raddedig ar gael i chi.
Ar ôl ennill mwy o brofiad gallwch hefyd ystyried aelodaeth gyda chorff proffesiynol a chyflawni statws Siartredig a fydd yn eich darparu gyda chydnabyddiaeth ryngwladol.
Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?
Oes, mae hon yn swydd foddhaol iawn ar gyfer rhywun sy’n mwynhau cyfuniad o waith ymarferol a gwaith ymchwil academaidd.
Mae’n addas iawn ar gyfer rhywun sy’n hoff o fywyd gwyllt a’r awyr agored.
Serch hynny, byddwch yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau gymryd amser hir cyn dwyn ffrwyth felly bydd angen i chi fod â phersonoliaeth amyneddgar.