English en
Maethegydd

Felly am beth mae hyn i gyd?

Yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, bydd maethegydd fel arfer yn gweithio o fewn adran datblygu cynnyrch newydd y cwmni.

Mae’r rôl yn ymwneud â chynghori ynglŷn â chynnwys maethol y cynnyrch sydd un ai’n gwbl newydd, neu’n cael eu haddasu ymhellach i ychwanegu gwerth neu’n unol â newidiadau i’r gyfraith.

Byddwch yn sicrhau bod labeli’r cynnyrch a honiadau maeth yn addas bob amser a byddwch hefyd yn ymwneud yn aml â gwaith hyrwyddo ar ran eich cwmni - sy’n golygu cyfrannu at lenyddiaeth sy’n arddangos gwerth maeth y cynnyrch. Fel arbenigwr mewn maeth, mae’n bosib y byddwch yn gyfrifol am siarad â’r cyfryngau am faterion amrywiol yn ymwneud ag iechyd wrth iddynt godi.

Gyda chynnydd ym mhwysigrwydd manteision iechyd y cynnyrch a mwy o ddiddordeb gan gwsmeriaid mewn cynhwysion, mae rôl y maethegydd yn parhau i ehangu i gynnwys cyfathrebu negeseuon iechyd pwysig am y cwmni a’i gynnyrch.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae’r gwaith yn amrywiol ond mae’n debygol o gynnwys y canlynol:

  • Cyfrannu at ddatblygu cynnyrch newydd, cynghori ynglŷn â chynnwys maeth cynnyrch a sicrhau bod honiadau maeth yn gywir
  • Paratoi deunyddiau marchnata maeth ynglŷn â chynnyrch y cwmni
  • Cyfathrebu negeseuon y cwmni ynglŷn â maeth i gwsmeriaid trwy gyfrwng ymgyrchoedd yn y cyfryngau, rhannu gwybodaeth ac ati
  • Cadw gwybodaeth gyfredol am newidiadau i reoliadau a gwaith ymchwil newydd a chynrychioli’r cwmni ar bwyllgorau arbenigol a chyrff eraill
  • Siarad mewn digwyddiadau a rhannu negeseuon y cwmni ynglŷn â bwyta’n iach
  • Dehongli deddfwriaeth newydd a sicrhau bod pob person perthnasol o fewn y cwmni’n cael gwybodaeth am unrhyw newidiadau i sicrhau bod yr holl gynnyrch yn cydymffurfio ac yn gyfreithiol
  • Annog staff i fabwysiadu polisïau bwyta’n iach
  • Cynnal ymchwil maeth yn ôl y galw
  • Cynorthwyo gyda drafftio manylebau cynnyrch a rheoliadau sicrhau ansawdd
  • Cadw gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth fel bod unrhyw effaith posib ar gynnyrch neu brosesau’r cwmni’n cael eu canfod yn gynnar

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd angen i chi fod yn berson sydd â diddordeb brwd yn y wyddoniaeth tu ôl i fwyd ac sy’n mwynhau rhannu’r neges am faetheg mewn modd cadarnhaol heb farnu.

Byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ac yn aml, nifer o bobl o du allan i’r cwmni – felly bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr da a pheidio â bod ofn siarad o flaen cannoedd o bobl.

Wrth i chi siarad â phobl, bydd disgwyl i chi eu hysbrydoli i wrando ar eich neges ynglŷn â maeth.

Yn eich rôl ym maes datblygu cynnyrch newydd, bydd angen i chi fod â llygad craff am fanylder a gallu ymchwilio a dadansoddi data dwys i fformatau haws i’w defnyddio.

Byddwch hefyd yn dda am ysgrifennu adroddiadau sy’n ddarllenadwy ac yn ddiddorol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd targed.

Beth alla i ddisgwyl?

Mae hyn yn ddibynnol ar faint eich cwmni. Mewn busnes llai o faint, mae’n bosib y bydd gennych rôl ychydig ehangach na maeth yn unig, megis cydymffurfiaeth a sicrhau ansawdd.

Mewn cwmni mwy o faint, mae’n debyg y byddwch yn canolbwyntio ar rôl ganolog maethegydd – ond mae’n eithaf amrywiol beth bynnag.

Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn y swyddfa – ond gallwch ddisgwyl teithio tipyn wrth i chi fynychu digwyddiadau a rhannu neges y cwmni.

Beth am y cyflog?

Mae hyn yn ddibynnol ar brofiad a chyfrifoldeb - er gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol heb fod yn llai na £20,000 fel hyfforddai graddedig. Bydd hyn yn codi’n sydyn gyda  phrofiad a gwaith caled ac nid yw’n anghyffredin i weld cyflogau dros £50,000.

Byddwch yn ymwybodol mai canllawiau’n unig yw’r ffigyrau hyn – bydd rhai swyddi a chwmnïau’n talu mwy a rhai’n talu llai.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Er mwyn cael swydd fel maethegydd, bydd angen cymhwyster arbenigol iawn mewn maetheg ddynol neu astudiaethau dietegol.

Yn aml, bydd angen gradd mewn maes sy’n ymwneud â bwyd fel cymhwyster mynediad cychwynnol yn ogystal â sawl blwyddyn o brofiad a hanes o lwyddiant cyn ystyried swydd fel rheolwr datblygu cynnyrch newydd. Neu, efallai eich bod wedi dechrau fel hyfforddai graddedig gyda phynciau gwyddonol megis cemeg neu ficrobioleg mewn rôl dechnegol ac wedi symud draw at ddatblygu cynnyrch newydd yn ystod eich gyrfa.

Mewn rhai achosion, efallai y byddech wedi cychwyn fel cynorthwyydd datblygu ar ôl cael eich cyflogi yn dilyn cwblhau cymwysterau Lefel A neu astudiaethau Addysg Bellach - gweler y dudalen Cynorthwyydd Datblygu ar wahân am fanylion cymwysterau.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae graddau ôl-raddedig ar gael gyda nifer o feysydd gwahanol a fydd yn ategu at eich rôl ac yn cynyddu eich cyfleoedd datblygu gyrfa.

Gallech hefyd ystyried aelodau o un o nifer o gyrff gan gynnwys British Dietetic Association, Association for Nutrition neu’r Nutrition Society. Mae pob un o’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae’r gweithgareddau yma’n angenrheidiol er mwyn cadw eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn gyfredol.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae rôl maethegydd arbenigol yn cael ei werthfawrogi mwy a mwy gan gwmnïau gweithgynhyrchu bwyd sy’n dymuno hyrwyddo nodweddion iechyd eu cynnyrch – bydd gyrfa yn y maes hwn yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer twf.