English en
Llaeth: Technolegydd Cynhyrchion Newydd

Beth ydy’r gwaith yma?

Fel technolegydd cynhyrchion newydd byddwch yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu deunydd pacio, cynhyrchion, offer a phrosesau – ac yn darparu prosiectau i gyfateb â safonau Dairy Crest mewn gwahanol gategorïau sy’n ymwneud â dylunio cynhyrchion newydd ac arloesi.

Pa fath o bethau fydda i’n eu gwneud?

Mae gan dechnolegwyr cynhyrchion newydd gylch gwaith amrywiol am eu bod yn creu cynhyrchion bwyd newydd sy’n ddiogel ac yn ddeniadol i gwsmeriaid – ac yn broffidiol i fusnesau. Gallai’r swyddi gynnwys:

  • Addasu’r cynhyrchion a phrosesau cyfredol a datblygu rhai newydd
  • Ymchwilio marchnadoedd a thechnolegau’n barhaus i ddatblygu syniadau am gynhyrchion newydd
  • Dewis deunyddiau crai a chynhwysion eraill gan gyflenwyr
  • Paratoi costiad at gyfer cynhyrchion i sicrhau eu bod yn broffidiol
  • Archwilio cyflenwyr neu reoli archwiliadau mewnol gan gwsmeriaid
  • Cydlynu lansiad cynhyrchion newydd neu gynnal treialon
  • Ymdrin ag unrhyw ymchwiliadau i gwynion cwsmeriaid neu broblemau gyda chynhyrchion
  • Llunio manylebau cynhyrchion a sicrhau bod modd i gynhyrchion newydd gael eu cynhyrchu’n broffidiol ac yn ddiogel
  • Gweithio gydag amrediad o gydweithwyr o fewn y cwmni i roi lansiad llwyddiannus ac oes hir o weithgynhyrchu i’ch cynhyrchion
  • Datblygu’r gallu i ailadrodd prosesau er mwyn sicrhau cysondeb a diogelwch
  • Gweithio gydag asiantaethau hylendid ac archwiliadau bwyd swyddogol
  • Gweithio gyda pheirianneg/cynhyrchion i ddatblygu atebion i broblemau cynhyrchu gan hefyd gadw’n ddiogel

Beth fydd pobl yn ei ddisgwyl gen i?

Wrth gwrs, bydd angen i chi fod â diddordeb mewn cemeg bwyd a gwyddoniaeth paratoi bwyd, a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio yn y broses ddatblygu bwyd.

Mae’r swydd yn gofyn talu llawer o sylw i’r manylion a byddwch hefyd angen bod â sgiliau ysgrifennu a llafar da i baratoi adroddiadau a chyflwyno syniadau’n fewnol ac i gwsmeriaid.

Byddwch yn frwdfrydig am fwyd ac yn gwybod llawer am yr hyn sy’n digwydd ym marchnadoedd eich cwmni.

Fel technolegydd cynhyrchion newydd, bydd disgwyl i chi wybod am yr holl newidiadau yn y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a’u heffeithiau posibl ar eich cwmni – a dylech hefyd fod yn un cyndyn am ddiogelwch a hylendid bwyd.

Beth allaf i ei ddisgwyl?

Byddwch yn ymdrin â llawer o bobl yn y rôl yma, felly bydd raid i chi fod y math o berson sy’n mwynhau cyfarfod pobl eraill a thrafod syniadau newydd.

Bydd angen i chi weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o bob rhan o’r busnes, yn cynnwys marchnata, gwerthiannau, gweithrediadau a pheirianneg.

Beth am y cyflog?

Mae hon yn rôl hwyliog a heriol, ac mae’r cyflog yn reit dda hefyd. Gallwch ddisgwyl derbyn £22K ar y dechrau ac os oes gennych y cymwysterau a phrofiad cywir, gallai hyn gynyddu’n gyflym i oddeutu £35K. Ond, am fod prinder sgiliau yn niwydiant bwyd a diod y Deyrnas Unedig, gallwch ddisgwyl i’r cyflogau cychwynnol fod yn uwch nag ydynt mewn diwydiannau eraill. Gyda’r profiad cywir, mae eich posibiliadau gyrfaol yn enfawr.

Pa gymwysterau ydw i eu hangen i gael swydd fel yma?

Yn aml iawn y cymhwyster mynediad mwyaf manteisiol ar gyfer swydd y technolegydd datblygu cynhyrchion yw gradd yn ymwneud â bwyd.

Wrth gwrs, bydd pynciau gwyddoniaeth perthnasol megis cemeg a microbioleg yn helpu hefyd.

Gallech hefyd godi drwy’r rhengoedd – efallai wedi i chi gychwyn fel cynorthwyydd datblygiad sy’n golygu eich bod wedi cychwyn ar ôl cwblhau lefelau A neu gwrs addysg bellach.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae graddau ôl-raddedig ar gael mewn nifer o wahanol feysydd a fydd yn cyd-fynd yn dda gyda’ch rôl ac yn gwella eich datblygiad gyrfaol.

Gallech hefyd ystyried dod yn aelod o sefydliad proffesiynol megis y Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd, a bydd hyn yn ddefnyddiol mewn nifer o ffyrdd yn cynnwys rhoi’r cyfle i chi rwydweithio, rhoi newyddion i chi am ddatblygiadau newydd a bydd hefyd yn dangos eich ymrwymiad i’ch gyrfa drwy barhau eich datblygiad proffesiynol.

Unrhyw beth arall y bydd angen i mi ei wybod?

Mae’n beth cyffredin i dechnolegwyr bwyd symud i feysydd busnes eraill lle mae eu gwybodaeth arbenigol yn fanteisiol iawn.

Hefyd, tra bo cwmnïau mawrion yn cynnig mwy o gyfleoedd i symud ar draws y gwahanol swyddogaethau, mae cwmnïau bach a chanolig eu maint yn cynnig mwy o gyfrifoldeb yn gynharach ynghyd â’r cyfle i ddysgu sgiliau a chael profiad ar draws yr ystod o feysydd busnes yn gyflym.