English en
Llaeth: Rheolwr Shifft

Beth ydy’r gwaith yma?

Fel rheolwr shifft, byddwch yn gyfrifol am weithgareddau cynhyrchu o ddydd i ddydd yn y man gweithredu, p’un a ydy hynny mewn gwaith cynhyrchu, pacio neu’r warws.

Byddwch yn gyfrifol am y perfformiad pob dydd a’r amserlen, gan gynnwys yr ansawdd, y cynhyrchiant, bod yn effeithlon, gwasanaethu’r offer ac effeithiolrwydd yr offer, ac hefyd yn cadw’r safonau uchaf o iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd a diogelwch amgylcheddol.

Bydd gennych lawer o gyfrifoldeb oherwydd efallai y byddwch yn gweithio tu allan i oriau’r swyddfa felly ni fydd gennych bob amser y staff cefnogi y byddech yn ei ddisgwyl yn ystod y dydd. Mae hyn yn golygu y bydd raid i chi fod yn hyderus a dyfeisgar i ddatrys problemau wrth iddynt godi.

Pa fath o bethau fydda i’n eu gwneud?

Byddwch yn cefnogi rheolwr gweithrediadau’r safle a’r tîm arweinwyr ymhob gweithgaredd sy’n ymwneud â chynhyrchu – gan gymryd y cyfrifoldeb uniongyrchol am weithredoedd y safle cyfan tu allan i oriau’r swyddfa.

Byddwch yn rheoli’r holl staff gweithrediadau o fewn y broses, yn gyrru gwaith tîm da ar draws y gwahanol swyddogaethau ac yn sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad yn cael ei ddarparu ar y lefelau priodol.  

Byddwch yn goruchwylio’r broses gynhyrchu ac yn sicrhau bod popeth yn eich maes chi o gyfrifoldeb yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda staff cynnal a chadw a thîm o oruchwylwyr er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd effeithlon ac yn cwrdd â’r safonau gofynnol o ran ansawdd.

Beth fydd pobl yn ei ddisgwyl gen i?

I fod yn rheolwr shift mewn cwmni gweithgynhyrchu bwyd, bydd raid i chi fod yn drefnus a chydwybodol, gyda sgiliau arwain da a’r gallu i wneud y penderfyniadau cywir yn gyflym mewn sefyllfa o bwysedd mawr.

Byddwch yn gallu cymell pobl yn frwdfrydig a bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch hefyd yn gallu dadansoddi a chynllunio’n effeithiol er mwyn cydbwyso blaenoriaethau.

Beth allaf i ei ddisgwyl?

Mae llawer o gwmnïau bwyd yn gweithredu ar fwy nag un shifft felly gallech fod yn gweithio gyda’r nos neu dros nos, a gallai eich shifft newid yn rheolaidd neu gallai fod yn un parhaol.

Byddwch yn cael eich cyflogi dros wythnos o 40 awr, er y bydd cyfleoedd i chi gael gwaith goramser hefyd o bosib os byddwch eisiau hynny.

Bydd raid i chi wisgo dillad diogelwch ar gyfer eich gwaith a byddwch yn treulio’ch amser bron i gyd yn y lle cynhyrchu.

Beth am y cyflog?

Mae’r gwaith yn heriol ond bydd y cyflog yn adlewyrchu hynny. Gallwch ddisgwyl ennill rhwng £35k a £55K – yn dibynnu ar eich profiad, a bydd digon o gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa.  Gyda’r prinder sgiliau yn niwydiant bwyd a diod y Deyrnas Unedig, gallwch ddisgwyl i’r cyflogau cychwynnol fod yn uwch nag ydynt mewn diwydiannau eraill. Gyda’r profiad cywir, mae eich posibiliadau gyrfaol yn enfawr.

Pa gymwysterau ydw i eu hangen i gael swydd fel yma?

Mae nifer o gymwysterau y gallech eu hystyried a fydd yn eich rhoi chi ar y blaen wrth gychwyn gyrfa mewn gweithgynhyrchu bwyd, ac mae’r rhain yn debygol o ymwneud yn benodol â naill ai bwyd neu fusnes.

Ond os nad oes gennych y mathau yma o gymwysterau does dim rhaid i hynny fod yn rhwystr. Mae cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd yn penodi graddedigion bob blwyddyn ac mae ganddynt gymaint o ddiddordeb yn safon y graddedigion sy’n hyfforddi i fod yn rheolwyr ag sydd ganddynt yn natur benodol eich cymhwyster.

Beth am hyfforddiant pellach?

Byddwch yn gweld bod eich cyflogwr yn rhoi cymaint o hyfforddiant i chi ag y byddwch ei angen i ddatblygu eich gyrfa ac mae llawer o gyrsiau rhan amser ar gael sy’n berthnasol i fwyd ac hefyd i fusnes.

Unrhyw beth arall y bydd angen i mi ei wybod?

Gallai hon fod yn rôl oruchwylio neu efallai bod gennych gylch gwaith ehangach gyda thîm sy’n cynnwys goruchwylwyr a gweithredwyr - byddwch yn gweld hynny pan fyddwch yn gwneud cais am swydd!