Beth ydy’r gwaith yma?
Fel swyddog iechyd a diogelwch/amgylcheddol, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r rheolwr iechyd a diogelwch i ddarparu cyfeiriad a chefnogaeth i safleoedd ym meysydd iechyd a diogelwch, diogeledd a materion amgylcheddol.
Byddwch hefyd yn sicrhau bod pawb yn y cwmni’n deall eu cyfrifoldebau ac yn cydymffurfio’n llawn gyda’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a pholisïau’r cwmni sy’n gysylltiedig â’u ffyrdd o weithio.
Byddwch yn archwilio gweithdrefnau’r cwmni, yn pennu ac yn datblygu gwelliannau sy’n gwella datblygiad cynaliadwy a chyfleoedd i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Byddwch yn rhoi gwybod i bobl am gynaliadwyedd ar draws eich cwmni ac yn dylanwadu ar bolisi ac ymddygiad y cwmni - felly mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol.
Pa fath o bethau fydda i’n eu gwneud?
Byddwch yn gweithio’n agos â’r timau rheoli safle ac asiantaethau allanol i sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol ac i gyflwyno gwybodaeth ofynnol yn rhan o unrhyw drwydded a chaniatâd i weithredu. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chynaliadwyedd a moeseg.
Ymysg yr elfennau allweddol y mae angen eu darparu mae mynnu ar ymddygiad diogel i bawb sydd ar y safle, cydymffurfio â deddfwriaeth gyfreithiol, cyflawni targedau’r gwahanol safleoedd, cynhyrchu cynlluniau blynyddol a sicrhau gwelliannau parhaus.
Dyma rai o’r cyfrifoldebau fydd gennych:
- Cyfathrebu gyda a dylanwadu’n bositif ar weithredoedd y staff mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch a sicrhau eu bod yn gwybod sut i weithio’n ddiogel
- Dylunio a gweithredu systemau a phrosesau sy’n hybu ac yn amddiffyn diwylliant Iechyd a Diogelwch effeithiol drwy’r cwmni cyfan.
- Gwneud archwiliadau rheolaidd a chysylltu â chyrff allanol megis y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch
- Datblygu a gweithredu strategaethau amgylcheddol a chynlluniau gweithredu sy’n sicrhau datblygiad corfforaethol cynaliadwy
- Cymryd y rôl arweiniol wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy
- Cydlynu pob agwedd o reoli plâu, rheoli gwastraff, ailgylchu, iechyd amgylcheddol, cadwraeth ac ynni adnewyddadwy
- Arwain gweithrediad y cwmni o’i bolisïau ac arferion amgylcheddol
- Sicrhau bod y cwmni’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol
- Archwilio, dadansoddi ac adrodd am berfformiad amgylcheddol wrth gleientiaid mewnol ac allanol a chyrff rheoleiddio
- Gwneud asesiadau o effaith i bennu, asesu a gostwng risgiau amgylcheddol a chostau ariannol sefydliad.
- Hybu a chodi ymwybyddiaeth pobl o effaith problemau amgylcheddol sy’n dod i’r amlwg, p’un a ydynt yn ddeddfwriaethol neu’n arfer gorau, ynghylch y cyfrifoldeb cymdeithasol, moesegol a chorfforaethol ar bob lefel o’r sefydliad
Beth fydd pobl yn ei ddisgwyl gen i ?
Bydd disgwyl i chi sicrhau bod y cwmni’n parhau i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, sy’n arbennig o bwysig mewn gweithgynhyrchu bwyd.
Byddwch angen bod yn unigolyn eithriadol ddiwyd a chryf eich cymhelliant sy’n frwdfrydig iawn ynglŷn â helpu cydweithwyr i weithio mor effeithlon ag y bo modd – ac sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol drwy’r busnes.
Byddwch yn berson hynod drefnus sy’n un da/dda am weld y manylion y byddai eraill wedi eu methu o bosib, a bydd eich agwedd ddadansoddol a rhesymegol yn eich helpu i wneud beirniadaeth gyflym a chywir gyda ffeithiau a gwybodaeth i’w cefnogi.
Beth allaf i ei ddisgwyl?
Yn ogystal â rheoli’r gweithgareddau o ddydd i ddydd, gallwch ddisgwyl bod yn rhan o’r materion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol strategol o fewn eich cwmni a datblygu polisïau diweddaraf y cwmni.
Mae natur amrywiol y rôl yma’n cynnig cyfle i chi symud i mewn i wahanol feysydd gwaith er mwyn cael sgiliau a phrofiad newydd.
Beth am y cyflog?
Mae’r rôl yn heriol ac yn wobrwyol – ac yn hanfodol bwysig mewn cwmnïau gweithgynhyrchu a phrosesu, felly fel arbenigwr yn y maes yma bydd galw mawr amdanoch bob amser. Gallwch ddisgwyl cyflog o rhwng £30K a £50K – gyda rhai cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.
Pa gymwysterau ydw i eu hangen i gael swydd fel yma?
Mae’n debyg y bydd gennych radd mewn pwnc perthnasol megis biowyddoniaeth, peirianneg amgylcheddol, iechyd yr amgylchedd, gwyddorau amgylcheddol neu ecoleg – ac efallai eich bod wedi treulio amser fel cynghorwr iechyd a diogelwch pan oeddech yn dysgu eich sgiliau ac yn datblygu profiad.
Beth am hyfforddiant pellach?
Ymhob agwedd o’ch rôl bydd angen i chi gael hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) i ddysgu am bob datblygiad mewn deddfwriaeth a’r holl ofynion yn ymwneud â chydymffurfiad a gofynion adrodd.
Mae mynd ar gyrsiau hyfforddi mewnol ac allanol, yn cynnwys seminarau a chynadleddau perthnasol, yn ffordd effeithiol o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol ac adnewyddu eich gwybodaeth. Gall rhai cyrsiau byrion arwain at gymwysterau proffesiynol pellach.
Unrhyw beth arall y bydd angen i mi ei wybod?
Yn aml iawn mewn sefydliadau mawrion mae dwy rôl wahanol yn gwneud gwahanol rannau’r swydd yma – ond mae’n debyg mai sefydliadau llai fydd yn cyfuno’r rôl fel yma.