Beth ydy’r gwaith yma?
Fel peiriannydd shifft, byddwch chi ar y rheng flaen yn sicrhau bod offer yn gweithio’n esmwyth er mwyn osgoi unrhyw doriad neu oedi yn y gwaith. Mae’n rôl amrywiol iawn a fyddwch chi byth yn gwybod pwy fydd eich angen chi nesaf. Ond, byddwch ar gael bob amser i ymateb ar unwaith i unrhyw broblem sy’n eich wynebu, yn gyflym ac yn effeithiol, gan roi diogelwch yn gyntaf bob tro.
Pa fath o bethau fydda i’n eu gwneud?
Bydd pob dydd yn wahanol, ond gallai eich gwaith gynnwys:
- Mynd i ymdrin â sefyllfa lle mae’r gwaith wedi stopio neu rywbeth wedi torri er mwyn helpu i ailgychwyn y broses a’i chadw’n rhedeg
- Gwasanaethu offer a pheiriannau a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt i’w harbed rhag torri
- Ymateb ar unwaith i offer diffygiol sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchu
- Trwsio diffygion neu drefnu i gael rhai newydd os oes eu hangen
- Gwneud diagnosis o ddiffygion yn gyflym er mwyn eu trwsio
- Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith i’r rheolwyr a’r staff cynhyrchu
- Gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol i gwblhau’r gwaith
- Gweithio’n rhan o dîm o beirianwyr
- Gweithio y tu hwnt i ddiwedd y shifft os bydd raid er mwyn gorffen trwsio offer sydd wedi torri.
Beth fydd pobl yn ei ddisgwyl gen i?
Bydd angen i chi fod yn beiriannydd rhagweithiol, sydd bob amser yn chwilio am ffyrdd ymarferol ac arloesol o wella’r ffordd y mae offer yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal a’i gadw, er mwyn sicrhau nad oes cymaint o oedi’n digwydd yn y gwaith.
Bydd angen i chi lynu’n dynn at yr holl safonau diogelwch bwyd, felly byddai cefndir mewn gweithgynhyrchu bwyd o fantais enfawr – ar ôl treulio amser fel ffitiwr, trydanwr neu dechnegydd gyda sgiliau niferus mewn amgylchedd tebyg.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda pheiriannwyr, technegwyr, staff cymorth a gweithredwyr, gan roi’r manylion diweddaraf i bawb bob amser ynglŷn â gwaith cynnal a chadw sydd ar y gweill ac unrhyw achos annisgwyl o oedi. Byddwch hefyd yn rhoi amseriadau cywir iddynt ar gyfer y gwaith trwsio, sy’n golygu eu bod yn gallu cynllunio’n effeithiol a chynhyrchu’n effeithlon.
Beth allaf i ei ddisgwyl?
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm a chi fydd yn gyfrifol am yr holl waith trwsio a’r gwaith cynnal a chadw ar draws y busnes cyfan i arbed offer rhag torri.
Yr her fwyaf yn y rôl yma yw datrys problemau o dan bwysau. Mae nifer enfawr o ddarnau o offer i ddysgu a gofalu amdanynt, a byddwch yn gweithio yn erbyn y cloc i gadw at yr amserlen gynhyrchu.
Beth am y cyflog?
Mae cyflog peirianwyr shifft yn ddeniadol iawn. Maent yn cychwyn ar £30k ond gallent godi i £42K yn dibynnu ar brofiad. Mae peiriannydd shifft da werth ei bwysau mewn aur - ac mae’r cyflog yn adlewyrchu hynny.
Pa gymwysterau ydw i eu hangen er mwyn cael swydd fel yma?
Prentisiaeth o bosib mewn pwnc sy’n berthnasol i beirianneg, megis peirianneg drydanol neu fecanyddol.
Neu efallai eich bod wedi bod i’r coleg ar ôl eich TGAU am gwpwl o flynyddoedd ac wedi astudio’n llawn amser am gymwysterau megis tystysgrifau a diplomâu BTEC.
Beth am hyfforddiant pellach?
Byddwch yn parhau i hyfforddi er mwyn cael sgiliau o’r lefel uchaf ar y safle a gyda’r peiriannau, yn ogystal â datblygu eich sgiliau craidd fel y bo’n ofynnol – ac hefyd byddwch yn helpu i ddatblygu peirianwyr, Prentisiaid a staff cynhyrchu eraill.
Mae llawer iawn o gymwysterau ac opsiynau hyfforddi ar gael i chi fel peiriannydd – gallwch gymryd cyrsiau arbenigol sy’n eich helpu i wneud eich swydd yn well (megis y rheiny sy’n cael eu cynnig gan weithgynhyrchwyr offer). Neu efallai eich bod eisiau ystyried cymwysterau ar lefel meistr a allai fod yn berthnasol i’ch gwaith, neu sy’n rhoi sail ehangach o wybodaeth i chi am reolaeth ac arweiniad.
Unrhyw beth arall y bydd angen i mi ei wybod?
Gallech ddisgwyl llawer o amrywiaeth yn y swydd oherwydd, pa mor dda bynnag yw eich cynlluniau cynnal a chadw i arbed diffygion, mae pethau’n siŵr o dorri’n ddifrifol ar brydiau a bydd hyn yn gofyn eich sylw llawn.