English en
Llaeth: Peiriannydd Cynnal a Chadw

Beth ydy’r gwaith yma?

Fel peiriannydd cynnal a chadw byddwch yn dod yn gwbl gyfrifol am ran arbennig o offer eich safle i sicrhau ei fod yn parhau i berfformio’n ddi-dor, ac ymestyn ei oes weithredol. Byddwch yn blaenoriaethu’r gwaith cynnal a chadw’n ddeallus, ac yn amseru’r gwaith i amharu cyn lleied ag y bo modd ar y gwaith cynhyrchu – gan gwblhau gwaith calibradu, gwasanaethu a chynnal peirianyddol yn gyflym ac effeithlon – ond yn bwysicach na dim, yn ddiogel.

Pa fath o bethau fydda i’n eu gwneud?

Nid yw dau ddiwrnod yr un fath i beiriannydd cynnal a chadw, oherwydd byddwch yn gwneud cymysgedd amrywiol o waith ymatebol a gwaith wedi’i gynllunio. Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn gwneud popeth y gallwch i sicrhau nad yw pethau’n mynd o’i le, ond pan fyddent, bydd angen i chi fynd at wraidd y broblem yn gyflym, ei datrys a gweithio i sicrhau nad yw’n digwydd eto – a hyn oll i gael y cynhyrchiad gorau a lleihau’r oedi gymaint ag y bo modd.

Beth fydd pobl yn ei ddisgwyl gen i?

Bydd pawb yn disgwyl i chi wneud gwelliannau cyson i’r ffordd mae’r offer yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal a’i gadw – o fewn y meysydd penodol yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt. Byddwch yn gwneud gwaith monitro cyflawn i amserlen y cytunwyd arni er mwyn sicrhau bod offer trydanol ac offer arall yn effeithlon ac yn ddiogel. Drwy gydol yr amser yma, byddwch yn sicrhau eich bod yn cadw’n dynn at yr holl safonau diogelwch bwyd.

Beth allaf i ei ddisgwyl?

Bydd rôl y peiriannydd cynnal a chadw’n gyffrous ac yn heriol am fod angen gweithio gyda thechnoleg sy’n tyfu drwy’r amser. Mae darn newydd o offer i ddysgu amdano drwy’r adeg, ac mae’r darganfyddiadau newydd mewn awtomatiaeth yn gofyn am beirianwyr o’r radd uchaf ar draws y diwydiant cyfan.

Eich sialens fwyaf fydd deall y nifer enfawr o wahanol ddarnau o offer ar y safle, deall ac ymdrin â phenderfyniadau naill ai i drwsio neu brynu offer newydd, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser i gadw at yr amserlenni cynhyrchu.

Beth am y cyflog?

Mae bod yn beiriannydd cynnal a chadw’n yrfa gweddol drwm ond hynod wobrwyol, - gyda chyflogau’n amrywio o £30 i £42K yn dibynnu ar eich profiad. Ond am fod prinder sgiliau yn niwydiant bwyd a diod y Deyrnas Unedig, gallwch ddisgwyl i’r cyflogau cychwynnol fod yn uwch nag ydynt mewn diwydiannau eraill. Gyda’r profiad cywir, mae eich posibiliadau gyrfaol yn enfawr.

Pa gymwysterau ydw i eu hangen i gael swydd fel yma?

Bydd TGAU da mewn mathemateg a gwyddoniaeth o fantais i chi a gallai Lefel A mewn mathemateg, ffiseg, cemeg neu fywydeg fod yn ddefnyddiol. Ond, gallwch fynd i mewn i’r maes peirianneg bwyd gyda chymwysterau TGAU da eraill os byddwch yn dilyn llwybr addysg alwedigaethol, gyda chymwysterau galwedigaethol o goleg addysg bellach neu’n astudio mewn swydd yn rhan o Brentisiaeth Peirianneg.

Beth am hyfforddiant pellach?

Byddwch yn parhau i hyfforddi er mwyn cael sgiliau o’r lefel uchaf ar y safle a gyda’r peiriannau, yn ogystal â datblygu eich sgiliau craidd fel y bo’n ofynnol – ac hefyd byddwch yn helpu i ddatblygu peirianwyr, Prentisiaid a staff cynhyrchu eraill.

Hefyd mae digonedd o gyfle i chi gael hyd yn oed fwy o hyfforddiant, wrth i offer newydd ddod i mewn ac wrth i reoliadau newid. Mae hefyd lawer o feysydd y gallwch arbenigo ynddynt, megis awtomatiaeth, gwasanaethau’r safle a rheoli prosiectau.

Unrhyw beth arall y bydd angen i mi ei wybod?

Mae hon yn swydd wobrwyol os ydych yn hoffi gwaith datrys problemau ymarferol a does dim ofn gennych dorchi’ch llewys a chael baw ar eich dwylo.

Mae cyfleoedd o bob math i symud ymlaen yn eich gyrfa a, chyn belled ag y gallwn ei weld i’r dyfodol, bydd galw bob amser am staff cynnal a chadw mewn cwmnïau bwyd.