English en

datblygu cynnyrch newydd
Mae cogydd datblygu’r cwmni yn arbenigo mewn datblygu cynnyrch bwyd newydd.
Mae hyn yn digwydd fel arfer wrth dreialu gwahanol ryseitiau ar gyfer cynnyrch sy’n cadw eu blas, edrychiad a’u gwead ar ôl iddynt gael eu prosesu, eu gwerthu gan yr adwerthwr ac yna’i ail-gynhesu gan y cwsmer.

Categori: Datblygu Cynnyrch Newydd
Mwy
Yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, bydd maethegydd fel arfer yn gweithio o fewn adran datblygu cynnyrch newydd y cwmni.
Mae’r rôl yn ymwneud â chynghori ynglŷn â chynnwys maethol y cynnyrch sydd un ai’n gwbl newydd, neu’n cael eu haddasu ymhellach i ychwanegu gwerth neu’n unol â newidiadau i’r gyfraith.
Byddwch yn sicrhau bod labeli’r cynnyrch a honiadau maeth yn addas bob amser a byddwch hefyd yn ymwneud yn aml â gwaith hyrwyddo ar ran eich cwmni - sy’n golygu cyfrannu at lenyddiaeth sy’n arddangos gwerth maeth y cynnyrch.

Categori: Datblygu Cynnyrch Newydd
Mwy
Byddwch yn ymdrin â phob agwedd o ddod â chynnyrch newydd i’r farchnad – o’r cysyniad cyntaf i lansiad y cynnyrch.
Chi fydd cyswllt allweddol y cwsmer ar gyfer pob mater yn ymwneud â’r cynnyrch yr ydych yn gweithio arno, gan roi gwybod iddynt am unrhyw ddeilliannau a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.
Yn ogystal â chynnyrch newydd, byddwch hefyd yn gyfrifol am wella cynnyrch presennol, ac yn arwain tîm o dechnegwyr a chogyddion a fydd yn eich helpu i gyflawni’r gwaith.

Categori: Datblygu Cynnyrch Newydd
Mwy
Mae technolegwyr Datblygu Cynnyrch Newydd yn gweithio yn y diwydiant bwyd i greu bwyd sy’n ddiogel ac yn ddeniadol i gwsmeriaid.
Byddwch yn ymwneud â chynllunio gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd ar raddfa fawr a bydd hynny’n golygu cynhyrchu samplau a dylunio’r prosesau i allu gwneud niferoedd mawr o’r rhain heb golli unrhyw ansawdd na blas.

Categori: Datblygu Cynnyrch Newydd
Mwy