Felly am beth mae hyn i gyd?
Mae cogydd datblygu’r cwmni yn arbenigo mewn datblygu cynnyrch bwyd newydd.
Mae hyn yn digwydd fel arfer wrth dreialu gwahanol ryseitiau ar gyfer cynnyrch sy’n cadw eu blas, edrychiad a’u gwead ar ôl iddynt gael eu prosesu, eu gwerthu gan yr adwerthwr ac yna’i ail-gynhesu gan y cwsmer.
Fel cogydd datblygu, byddwch yn cydweithio’n agos gyda staff datblygu cynnyrch newydd eraill a byddwch hefyd yn gwneud ymchwil i’r cynnyrch yn ogystal â’r farchnad posibl ar ei gyfer.
Byddwch yn berson sy’n cadw golwg ar ddatblygiadau’r dyfodol a thueddiadau cwsmeriaid a bydd gennych ddiddordeb mawr mewn bwyd!
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae hon yn aml yn rôl amrywiol iawn gyda dyletswyddau’n dibynnu ar y cwmni sy’n eich cyflogi a’r sector y mae’r busnes yn gweithio ynddo, ond bydd y swydd fel arfer yn cynnwys:
- Llunio ryseitiau newydd a ryseitiau sydd eisoes yn bodoli sy’n cadw eich cwmni gam o flaen eu cystadleuwyr
- Argymell cynnyrch newydd a gweithio gyda staff datblygu cynnyrch newydd er mwyn trawsnewid syniadau bwyd yn gynnyrch ymarferol
- Cysylltu gyda chydweithwyr yn yr adrannau masnachol, cynhyrchu a thechnegol
- Cysylltu gyda chyflenwyr i sicrhau bod eich cwmni’n ymwybodol o’r cynhwysion newydd sy’n dod i’r farchnad
- Adnabod marchnadoedd arbenigol a chyfleoedd lle gall cynnyrch presennol gael eu haddasu a lle gellir datblygu cynnyrch newydd
- Cynnal treialon gyda chwsmeriaid a phaneli blasu ar gyfer cynnyrch newydd arfaethedig
- Cyflwyno cynnyrch newydd i gwsmeriaid masnachol posibl
- Sicrhau bod modd gweithgynhyrchu cynnyrch newydd mewn modd proffidiol sy’n bodloni gofynion diogelwch bwyd
- Gwerthuso llwyddiant cynnyrch newydd yn eu marchnadoedd
- Ymchwilio’r farchnad yn barhaus ac aros gam o flaen tueddiadau’r farchnad
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd disgwyl i chi feddu ar brofiad o weithio mewn bwytai o ansawdd uchel a meddwl creadigol, ynghyd â’r gallu a’r brwdfrydedd i ddatblygu cynnyrch arloesol ar ran eich cwmni.
Bydd angen i chi fod yn gallu datblygu ryseitiau sy’n gallu cael eu coginio gan ddefnyddio prosesau gweithgynhyrchu bwyd, gan sicrhau ar yr un pryd bod y ryseitiau hyn yn arloesol ac yn greadigol.
Golyga hyn bod angen dealltwriaeth o dechnegau a pheiriannau cynhyrchu ar raddfa fawr, yn ogystal â rhinweddau ac oes silff gwahanol gynhwysion yn ogystal â chostau, materion technegol ac ati.
Mae’n bwysig eich bod yn berson sy’n dda gyda phobl, sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da gan y byddwch yn siarad gydag amrywiaeth o bobl er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn eich syniadau – nid eich cydweithwyr yn unig, ond cyflenwyr a chwsmeriaid posibl hefyd.
Mewn nifer o achosion bydd disgwyl i chi gwrdd â therfynau amser tynn, felly byddwch yn gyfforddus mewn sefyllfaoedd dan bwysau ac yn gallu gweithio’n effeithiol.
Beth alla i ddisgwyl?
Gallwch ddisgwyl gweithio oriau eithaf rheolaidd; yn enwedig o’i gymharu â’r oriau y buoch yn eu gweithio mewn bwyty!
Mae’n debygol y bydd angen i chi deithio tipyn fel rhan o’r swydd er mwyn cwrdd â chyflenwyr a chwsmeriaid ac mae’n bosibl y byddwch yn synnu darganfod faint o’ch amser y byddwch yn ei dreulio mewn cyfarfodydd y tŷ allan i’r gegin ddatblygu.
Beth am y cyflog?
Mae gan y rhan fwyaf o gogyddion datblygu brofiad diwydiannol ac mae cyflog cychwynnol ar lefel oddeutu £25,000 yn adlewyrchu hynny – gan godi tipyn wrth i chi ddangos llwyddiant!
Gyda hanes da o lwyddiant, mae’n bosibl y gallech fod yn ennill ymhell dros £40,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Mae’n debygol iawn y byddwch yn gogydd profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant er mwyn gweithio yn y swydd hon, er mae’n bosibl eich bod wedi’ch penodi gyda gradd mewn technoleg bwyd neu ddatblygiad cynnyrch bwyd.
Gallai eich cymwysterau gynnwys diploma City & Guilds mewn coginio proffesiynol, sydd ar gael ar lefel 1, 2, a 3 ymysg eraill o blith amrywiaeth eang sydd ar gael.
Ym mhle fydden i’n cael y cymwysterau hyn?
Mae cymwysterau arlwyo a choginio ar gael ym mhob un o’r Colegau Addysg Bellach a byddant wedi eich paratoi ar gyfer dechrau gweithio mewn bwyty neu gegin gwesty er mwyn dysgu am y diwydiant.
Gallech hefyd astudio ar gyfer gradd BSc mewn Rheoli Celfyddyd Coginio pe byddech yn dymuno astudio ar lefel Addysg Uwch.
Beth am hyfforddiant pellach?
Gellir astudio nifer o’r cyrsiau sydd ar gael ar lefel Addysg Bellach ar sail rhan amser yn ystod eich swydd gyntaf. Gallech symud ymlaen i astudio sawl un o’r rhain er mwyn cynyddu eich profiad yn y gwaith gyda chymhwyster.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Ar gyfer swydd fel cogydd datblygu, dylech nodi y bydd y rhan fwyaf o gwmnïau yn gofyn am gogyddion profiadol, felly mae angen i chi fod yn barod i weithio’n galed a sicrhau’r cyfuniad cywir o gymwysterau cyn ystyried ymgeisio am swydd fel hon.
Ond cofiwch bod lefel y boddhad yn y swydd hon yn ei gwneud yn werth yr holl ymdrech – wedi’r cyfan, beth allai fod yn well na gweld cynnyrch a ddatblygwyd gennych chi ar silffoedd y prif archfarchnadoedd?