Felly am beth mae hyn i gyd?
Byddwch yn ymdrin â phob agwedd o ddod â chynnyrch newydd i’r farchnad – o’r cysyniad cyntaf i lansiad y cynnyrch.
Chi fydd cyswllt allweddol y cwsmer ar gyfer pob mater yn ymwneud â’r cynnyrch yr ydych yn gweithio arno, gan roi gwybod iddynt am unrhyw ddeilliannau a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.
Yn ogystal â chynnyrch newydd, byddwch hefyd yn gyfrifol am wella cynnyrch presennol, ac yn arwain tîm o dechnegwyr a chogyddion a fydd yn eich helpu i gyflawni’r gwaith.
Beth allen i fod yn wneud?
Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn debygol o gynnwys y canlynol:
- Arwain Adran Datblygu Cynnyrch Newydd y cwmni a sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod fel rhan hanfodol o lwyddiant y cwmni
- Sicrhau bod pob cynnyrch newydd wedi eu costio’n gywir
- Drafftio a diweddaru gweithdrefnau Datblygu Cynnyrch Newydd y cwmni a sicrhau bod yr holl staff yn cydymffurfio’n llawn
- Cadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â newidiadau mewn deddfwriaeth ac ymchwil newydd
- Cyrchu deunyddiau a chynhwysion newydd
- Dehongli gweithdrefnau newydd a sicrhau bod y staff perthnasol yn deall unrhyw newidiadau i sicrhau bod pob cynnyrch yn cydymffurfio ac yn gyfreithiol
- Rheoli sawl prosiect a staff
- Sicrhau bod pob cynnyrch newydd o fewn ffiniau technegol, pris a chynhyrchiant
- Cynnal ymchwil maeth yn ôl y galw
- Drafftio a chymeradwyo manylebau a dogfennau cynnyrch
- Cysylltu gyda chydweithwyr mewn adrannau gwahanol
- Cymryd cyfrifoldeb dros drosglwyddo cynnyrch i staff datblygu proses
- Cyflwyno cynnyrch newydd i gwsmeriaid posib
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Byddwch chi’n berson hynod frwdfrydig ynglŷn â bwyd a’ch rôl wrth helpu i ddatblygu cynnyrch newydd.
Bydd angen ychydig o brofiad rheoli pobl er mwyn cael y gorau o’ch tîm o dechnegwyr. Bydd hyn yn ogystal â’ch sgiliau cyfathrebu ardderchog o gymorth i chi wrth ymdrin ag adrannau eraill, yn ogystal â chyflenwyr a chleientiaid.
Byddwch chi’n berson trefnus iawn. Byddwch yn mwynhau gweithio trwy brosesau heb gymryd y llwybr byrraf, gan sicrhau bod popeth yn cael ei gofnodi’n gywir ar bob achlysur.
Ar yr un pryd, byddwch yn treulio amser yn ymchwilio i’r farchnad, yn cadw llygad ar eich cystadleuwyr ac yn chwilio am syniadau newydd i gadw eich cwmni ar flaen y gad.
Beth alla i ddisgwyl?
Peidiwch â disgwyl gweithio wythnos safonol o 40 awr, ond disgwyliwch dipyn o amrywiaeth a chyfrifoldeb – byddwch yn treulio llawer o’ch amser yn gweithio mewn ceginau prawf neu ardaloedd ffatri, felly bydd dillad diogelwch yr un mor gyfarwydd â siwt busnes.
Fel rheolwr adran, bydd llawer o gyfrifoldeb ar eich ysgwyddau. Byddwch yn gyfforddus gyda therfynau amser a straen ac yn drefnus bob amser er mwyn mynd i’r afael â materion cyn iddynt achosi problemau.
Gallwch ddisgwyl eithaf tipyn o deithio yn y swydd hon gan y byddwch yn teithio o gwmpas yn cwrdd â chyflenwyr cynhwysion yn ogystal â’r cleientiaid yr ydych yn datblygu’r cynnyrch newydd ar eu rhan.
Beth am y cyflog?
Bydd angen tipyn o brofiad arnoch i gael y swydd rheolwr, a bydd hyn fwy na thebyg wedi ei feithrin fel hyfforddai graddedig, ac yna technegydd datblygu.
Fel rheolwr, byddwch yn debygol o ennill o leiaf £30,000 i £40,000 y flwyddyn. Gall hyn godi’n sylweddol wrth i chi gael mwy o brofiad a mwy o gyfrifoldeb.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Yn aml, bydd gradd yn ymwneud â bwyd yn gymhwyster angenrheidiol ar gyfer swydd Rheolwr Datblygu Cynnyrch Newydd.
Wrth gwrs, gallai pynciau perthnasol eraill megis cemeg a microbioleg fod yn fanteisiol hefyd.
Gallwch fod wedi dringo’r ysgol wedi i chi gychwyn fel cynorthwyydd datblygu – gan olygu eich bod wedi dechrau ar ôl cwblhau cymwysterau Lefel A neu astudiaethau Addysg Bellach – gweler y dudalen Cynorthwyydd Datblygu ar wahân am fanylion pellach.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae graddau ôl-raddedig ar gael mewn nifer o feysydd gwahanol a fydd yn cyd-fynd â’ch rôl ac yn ategu at ddatblygiad eich gyrfa.
Gallwch hefyd ystyried aelodaeth o sefydliad proffesiynol megis Sefydliad Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg, a bydd hyn yn ddefnyddiol mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys cyfleoedd rhwydweithio, newyddion am ddatblygiadau newydd, ac i ddangos eich ymrwymiad i’ch gyrfa drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?
Oes, mae hon yn swydd anodd ond yn un sy’n rhoi boddhad – wedi’r cyfan, pwy sydd ddim eisiau gweld cynnyrch sydd wedi ei ddyfeisio a’i ddatblygu ganddynt eu hunain wedi’i gynhyrchu mewn niferoedd mawr ac yn cymryd eu lle ar silffoedd archfarchnadoedd ledled y wlad?
Mae’n bosib y bydd llwyddiant ym maes Datblygu Cynnyrch Newydd yn arwain at ddyrchafiad mewnol i rôl dechnegol ehangach – mae hynny i fyny i chi wrth gwrs, a’ch ymdrech i gyrraedd eich nod o ran gyrfa.