English en
Technolegydd Datblygu

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae technolegwyr Datblygu Cynnyrch Newydd yn gweithio yn y diwydiant bwyd i greu bwyd sy’n ddiogel ac yn ddeniadol i gwsmeriaid.

Byddwch yn ymwneud â chynllunio gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd ar raddfa fawr a bydd hynny’n golygu cynhyrchu samplau a dylunio’r prosesau i allu gwneud niferoedd mawr o’r rhain heb golli unrhyw ansawdd na blas.

Gallech weithio i wella rysetiau sydd eisoes yn bodoli neu helpu gyda dyfeisio rhai newydd.

Yn aml iawn byddwch yn gweithio ochr-yn-ochr â chogyddion datblygu i gynhyrchu neu wella samplau’r gegin yn rysetiau y gellir eu cynhyrchu’n rhwydd mewn niferoedd mawr drwy ddylunio prosesau a pheirianwaith i wneud y cynhyrchion hyn.

Ac wrth gwrs mae’n rhaid gwneud hyn i gyd o fewn fframwaith rheoleiddiol caeth sy’n newid yn barhaus o ran y ffordd y cynhyrchir bwyd.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich rôl chi’n amrywio’n dibynnu ar faint y cwmni’r ydych yn gweithio iddo, yr is-sector y mae’n gweithredu ynddo ac, yn eithaf posib, y cwsmer y byddwch yn datblygu’r cynhyrchion ar eu cyfer.  Fodd bynnag, mae’r tasgau sy’n gyffredin i’r swydd yn debygol o gynnwys:

  • Addasu cynhyrchion a phrosesau cyfredol a datblygu rhai newydd
  • Ymchwilio marchnadoedd a thechnolegau’n barhaus i ddatblygu cysyniadau cynnyrch newydd                                
  • Dewis deunydd crai a chynhwysion eraill gan gyflenwyr
  • Paratoi costiadau cynnyrch i sicrhau cynhyrchion proffidiol
  • Archwilio cyflenwyr neu reoli archwiliadau mewnol gan gwsmeriaid
  • Cydlynu lansiadau cynhyrchion newydd neu gynnal treialon
  • Delio ag unrhyw ymchwiliadau i gwynion cwsmeriaid neu broblemau â chynnyrch
  • Llunio manylebau cynnyrch a gofalu y gellir gweithgynhyrchu cynhyrchion newydd yn broffidiol ac yn ddiogel
  • Gweithio gydag ystod o gydweithwyr yn y cwmni i sicrhau lansio eich cynhyrchion yn llwyddiannus a sicrhau llwyddiant eu gweithgynhyrchu
  • Datblygu’r gallu i ailadrodd prosesau i sicrhau cysondeb a diogelwch;
  • Gweithio gydag asiantaethau swyddogol sy’n archwilio bwyd a hylendid
  • Gweithio gyda pheirianneg/cynhyrchu i ddatblygu atebion i broblemau cynhyrchu wrth gynnal diogelwch bwyd yr un pryd

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Yn amlwg bydd angen i chi fod â diddordeb mewn cemeg bwydydd a gwyddoniaeth paratoi bwyd a’r cyswllt gyda’r broses o ddatblygu bwyd.

Mae’r swydd yn ymwneud â manwl gywirdeb a bydd arnoch hefyd angen sgiliau da’n ysgrifenedig ac yn llafar i baratoi adroddiadau a chyflwyno syniadau i gwsmeriaid.

Byddwch yn frwdfrydig ynglŷn â bwyd ac yn gwybod llawer iawn am yr hyn sy’n digwydd ym marchnadoedd eich cwmni.

Gan fod angen i chi ddelio â llawer o bobl yn y rôl yma, bydd angen i chi fod yn berson sy’n mwynhau cyfarfod ag eraill a thrafod syniadau newydd.

Fe ddisgwylir i chi, fel technolegydd datblygu cynnyrch newydd sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd ac effeithiau posib ar eich cwmni – a dylech hefyd fod yn daer ynglŷn â diogelwch a hylendid bwyd.

Beth alla i ddisgwyl?

Bydd eich wythnos waith yn 40 awr safonol a byddwch yn treulio llawer o amser yn y ffatri wrth i chi gadw llygad ar brosesau a gweithrediadau cynhyrchu a chynnal treialon – mae hyn, wrth gwrs, yn golygu gwisgo dillad diogelwch ar adegau.

Mewn llawer o gwmnïau mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi weithio sifftiau neu benwythnosau pan fydd y cynhyrchu’n dawelach er mwyn gallu cwblhau eich arbrofion er y bydd rhai, efallai, ag ardaloedd arbrofi pwrpasol.

Dylid disgwyl hefyd y bydd yna deithio at gwsmeriaid a chyflenwyr yn y swydd hon.

Beth am y cyflog?

Bydd eich cyflog cychwynnol tebygol rywle rhwng £19,000 a £25,000 y flwyddyn gan ddibynnu ar eich cymwysterau. Gyda phrofiad a chyfrifoldebau ychwanegol gallai fod hyd at £40,000 neu fwy y flwyddyn wrth i’ch gyrfa fynd rhagddi.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Bydd arnoch angen gradd sy’n ymwneud â bwyd fel cymhwyster o ddewis ar gyfer swydd technolegydd datblygu cynnyrch.

Wrth gwrs byddai pynciau gwyddonol perthnasol fel cemeg a microbioleg yn help hefyd.

Gallech hefyd ddringo drwy’r rhengoedd wedi i chi ddechrau, o bosib, fel cynorthwyydd datblygu sy’n golygu eich bod wedi dechrau ar ôl cwblhau cymwysterau Lefel A neu gwrs Addysg Bellach – gweler y dudalen ar wahân ar Gynorthwyydd Datblygu i gael manylion.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae graddau ôl-raddedig ar gael mewn llawer o wahanol feysydd a fyddai’n ategu eich rôl ac yn gwella datblygiad eich gyrfa.

Fe allech hefyd ystyried aelodaeth o sefydliad proffesiynol fel yr ‘Institute of Food Science and Technology’ a byddai hynny’n ddefnyddiol mewn sawl ffordd yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio, newyddion am ddatblygiadau newydd, a byddai’n dangos eich ymrwymiad i’ch gyrfa drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes. Mae’n gyffredin i dechnolegwyr bwyd symud i feysydd busnes eraill lle gall eu gwybodaeth arbenigol fod yn fantais wirioneddol.

Hefyd, tra bo cwmnïau mwy yn cynnig mwy o gyfle ar gyfer symudiadau traws-swyddogaethol, bydd cwmnïau bach a chanolig yn gyffredinol yn cynnig mwy o gyfrifoldeb yn gynt a’r cyfle i ennill sgiliau a phrofiad yn gyflym ar draws yr ystod o feysydd busnes.