English en

BETH YW HYFFORDDEIAETH?

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddiant addysgiadol sy’n seiliedig yn y gwaith ar gyfer pobl rhwng 16 a 24. Mae’n darparu sgiliau a phrofiad gwerthfawr i ddechrau eu gyrfa mewn amgylchedd gwaith.

Cafodd y rhaglenni hyn eu creu er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg profiad sy’n ddisgwyliedig gan gyflogwyr. Gallai fod yn ffordd i bobl ifanc gael troed yn y drws ar gyfer cael swydd. 

BETH YW’R MANTEISION?

  • Mae’n gyfle gwych i ychwanegu at CV pobl ifanc trwy ddatblygu profiad a sgiliau trosglwyddadwy
  • Bydd yn rhoi mantais i’ch plentyn ac yn ei roi mewn sefyllfa dda mewn cyfweliad o’i gymharu ag ymgeiswyr eraill
  • Mae cymorth gyda Mathemateg a Saesneg ar gael fel rhan o’r hyfforddeiaeth
  • Mae cyfarwyddo gydag amgylchedd gwaith yn brofiad gwerthfawr a fydd yn paratoi eich plentyn ar gyfer cyflogaeth llawn amser
  • Mae’n bosib y bydd swydd barhaol ar gael gan rai cyflogwyr

YDY FY MAB/MERCH YN GYMWYS AR GYFER HYFFORDDEIAETH?

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n ymgeisio am hyfforddeiaeth:

  • Fod yn ddi-waith/ gweithio llai na 16 awr yr wythnos
  • Heb fod â llawer o brofiad gwaith
  • Bod rhwng 16 a 24
  • Heb fod â chymhwyster dros lefel 3

A FYDD FY MHLENTYN YN CAEL EI DALU?

Dim o reidrwydd ond bydd y mwyafrif o leiaf yn cefnogi eu hyfforddeion gyda chostau teithio a phryd bwyd.

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i’r rheiny sy’n gymwys o ganlyniad i’w sefyllfaoedd ariannol neu anabledd ayb.

Am fwy o wybodaeth am hyfforddeiaeth ewch i https://www.gov.uk/guidance/traineeships