English en
Prynwr dan Hyfforddiant

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel prynwr dan hyfforddiant, byddwch yn  gweithio gyda’r adran brynu ac yn adrodd yn ôl i’r Prynwr ac i staff uwch eraill.

Byddwch chi’n treulio llawer o’ch amser yn dod i ddeall y prosesau a ddefnyddir gan y cwmni fel eich bod yn deall anghenion eraill yn llwyr a dod yn ymwybodol o bwysigrwydd prynu i lwyddiant y busnes.

Er mwyn mireinio eich sgiliau, byddwch yn derbyn un neu fwy o gyfrifon nad ydynt yn hanfodol i’r busnes; bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu profiad defnyddiol. Byddwch hefyd yn ymwneud ag ymchwil i ganfod cynnyrch amgen a phrisio cystadleuwyr a fydd hefyd yn ehangu eich dealltwriaeth o rôl y prynwr.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich swydd fel prynwr dan hyfforddiant yn debygol o gynnwys y rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau hyn:

  • Sicrhau bod yr holl ddeunydd yn cael eu prynu ar amser, yn unol â’r gofynion, ac am y pris gorau posib
  • Rheoli amrediad o gyflenwyr ar y cyd â’r prynwr
  • Datblygu perthynas gytundebol hir dymor
  • Cysylltu gyda staff cynllunio a chynhyrchu i ddeall y busnes
  • Cydlynu cludiant a chynnal lefelau stoc addas ar gyfer eich cynnyrch
  • Ymchwilio cyflenwyr amgen a phrisiau cystadleuwyr
  • Dysgu sut i gyllidebu a rhagweld cyllideb yn gywir
  • Bod yn rhan o dîm sy’n mynychu digwyddiadau amrywiol

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd disgwyl i chi ddysgu’r swydd yn sydyn a dod yn aelod effeithiol o dîm prynu’r cwmni.

Bydd angen i chi fod yn unigolyn trefnus a hyderus sy’n mwynhau treulio amser yn ymdrin â phobl.

Er eich bod dan hyfforddiant, byddwch yn derbyn llawer o gyfrifoldeb yn eithaf buan fel  eich bod yn gallu dysgu eich swydd.

Bydd angen i chi ddysgu i ymdopi gyda gweithio mewn amgylchedd dan bwysedd yn sydyn iawn.

Beth alla i ddisgwyl?

Byddwch wedi eich lleoli yn y swyddfa gan amlaf ond yn treulio llawer o amser gyda staff o ar draws y cwmni wrth i chi ddod i ddeall sut mae’r systemau busnes yn gweithio a sut y gall eich penderfyniadau effeithio eraill.

I ddechrau, byddwch yn gweithio oriau swyddfa nodweddiadol ac wythnos 40 awr, ond gall hyn ddibynnu ar anghenion eich cyflogwr.

Beth am y cyflog?

Bydd prynwr dan hyfforddiant wedi graddio yn debygol o ddechrau ar ba bynnag gyfradd y mae’r cwmni wedi eu cytuno ar gyfer y swyddi.

Oherwydd hyn, dylech ddisgwyl ennill ffigwr o £17,500 ac uwch.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Byddwch yn debygol o fod wedi dechrau gyda’r cwmni ar ôl graddio a dechrau bywyd yn yr adran brynu fel hyfforddai Ar gyfer cwmni bwyd, mae galw mawr am radd yn ymwneud â bwyd a busnes gan gyflogwyr, ond gallai profiad blaenorol o brynu mewn bwyd hefyd fod yn fanteisiol.

Beth am hyfforddiant pellach?

Fel prynwr dan hyfforddiant, byddwch yn cael eich annog i ddilyn cyrsiau a chymwysterau wedi’u trwyddedu drwy Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi a allai fod yn gychwyn cysylltiad cydol oes gyda hyfforddiant ym maes prynu.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, cofiwch fod swydd prynwr dan hyfforddiant yn ymwneud â phrofi eich hunan mewn amgylchedd dan bwysau, ac nad oes yr un dau ddiwrnod yr un fath; os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl, dyma’r swydd i chi.

Mae hon yn swydd ddelfrydol ar gyfer dysgu a deall popeth am y cynnyrch a’r prosesau a ddefnyddir yn eich busnes.