Felly am beth mae hyn i gyd?
Fel Cydlynydd Technegol, byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol i’r rheolwyr ac i staff adran dechnegol y cwmni bwyd a diod.
Byddwch yn sicrhau bod ochr dechnegol busnes y cwmni’n rhedeg yn ddi-drafferth, sy’n golygu gweithio gyda chydweithwyr ac adrannau eraill o fewn y busnes yn ogystal â chyflenwyr a chwsmeriaid.
Byddwch yn aelod allweddol o’r tîm technegol, gan sicrhau bod unhryw broblemau’n cael eu datrys yn sydyn ac yn ymateb i unrhyw broblemau a all godi.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae tasgau penodol y Cydlynydd Technegol yn amrwyiol a byddant yn ddibynnol ar ffactorau megis maint yr adran a’r swyddogaethau mae’r Rheolwr Technegol angen i chi eu cyflawni.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau canlynol yn eithaf nodweddiadol o’r rôl:
- Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Rheolwr Technegol ac aelodau erailll yr adran
- Cysylltu gydag adrannau eraill, cyflenwyr a chwsmeriaid
- Ymchwilio i gwynion
- Sicrhau bod y staff technegol yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gweithdrefnau
- Rheoli’r llif gwybodaeth i mewn ac allan o’r adran
- Cydlynu’r holl wybodaeth arolygu a chasglu data ystadegol ynghyd
- Paratoi adroddiadau technegol
- Cynrychioli’r adran Dechnegol fel bo’r angen
- Llunio manylebau a gweithdrefnau gweithredu safonol
- Gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i’r system
- Sicrhau bod pob cronfa ddata’n cael ei cynnal a’u diweddaru
- Cydlynu archwiliadau cwsmeriaid
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Mae’r rôl hon yn gofyn am berson sy’n gallu gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol ar yr un pryd, tra’n parhau i allu canolbwyntio – felly bydd angen sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog arnoch.
Bydd angen i chi allu cyfathrebu gwybodaeth yn dda a bod yn hyderus wrth ymdrin â’ch uwch reolwyr yn ogystal â chwsmeriaid a chyflenwyr.
Byddwch yn arbenigwr ar holl gynnyrch a systemau eich cwmni er mwyn gallu cyflawni’r swydd yn effeithiol – golyga hyn fod gennych brofiad ymarferol.
Bydd angen i chi allu cyflwyno eich hun yn effeithiol bob amser a dangos eich bod yn frwdfrydig ac yn llawn egni.
Beth alla i ddisgwyl?
Mae hon yn swydd amrywiol gyda nifer o elfennau’n digwydd ar yr un pryd.
Byddwch yn gweithio yn ystod oriau swyddfa ond yn treulio amser yn y ffatri, gan olygu y byddwch yn aml yn gwisgo dillad amddiffynnol. Gallwch hefyd ddisgwyl cwrdd â chwsmeriaid, felly gall teithio fod yn rhan o’r swydd hefyd.
Gan eich bod yn cynhyrchu adroddiadau a gwneud argymhellion, gallwch hefyd ddisgwyl gwneud cyflwyniadau i uwch reolwyr o dro i dro.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu Saesneg o safon uchel a hynny’n ysgrifenedig ac ar lafar a bydd angen i chi allu dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chrynhoi data’n effeithiol.
Beth am y cyflog?
Mae cyflog ar gyfer swydd Cydlynydd Technegol oddeutu £22,000 y flwyddyn gan ddibynnu ar eich profiad a’ch meysydd cyfrifoldeb.
Gyda sawl blwyddyn o brofiad, gallwch fod yn ennill hyd at £28,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Er mwyn gallu cael y swydd Cydlynydd Technegol, mae’n debygol eich bod eisoes yn archwilydd ansawdd profiadol – felly byddwch eisoes yn deall gweithdrefnau a systemau ansawdd y cwmni. Efallai eich bod wedi dechrau ar eich gyrfa fel gweithiwr ffatri cyn symud ymlaen at rôl dechnegol. Neu efallai eich bod wedi dod i mewn i’r cwmni fel hyfforddai graddedig ac wedi cael profiad archwilio wrth i chi ddysgu am y swyddi gwahanol o fewn y cwmni.
Felly, mae’r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y swydd hon yn debygol o fod yn gyfuniad o’ch cymwysterau lefel mynediad ynghyd â sgiliau a phrofiad a ddatblygwyd o fewn yr amgylchedd dechnegol.
Mae’n debygol y bydd gennych gymwysterau Lefel A yn ymwneud â gwyddoniaeth megis Cemeg a Bioleg. Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau bellach yn gofyn am radd mewn maes perthnasol megis:
- Bioleg
- Cemeg
- Microbioleg
- Technoleg Bwyd/Gwyddor Bwyd
Gall hefyd fod yn bosib i chi ddechrau ar drywydd y rôl hon trwy Brentisiaeth a allwch ei gychwyn ar ôl cwblhau TGAU. Bydd angen pynciau Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch. Fel arall, gallech ystyried astudio ar gyfer Tystygrif neu Ddiploma Cenedlaethol mewn sefydliad Addysg Bellach.
Beth am hyfforddiant pellach?
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn derbyn hyfforddiant rheolaidd gan eich cyflogwr, ond gallech ystyried cwblhau Prentisiaeth Uwch sy’n bosib ei gwblhau ochr yn ochr â’r gwaith.
Mae hefyd nifer o gyrff proffesiynol megis y Sefydliad Ansawdd Siartredig sy’n rhoi arweiniad ar gymwysterau a allai eich cynorthwyo gyda’ch gyrfa.
Ym mhob achos, mae’n syniad da i edrych ar brosbectysau Addysg Uwch ac Addysg Bellach neu Golegau i weld beth sydd ar gael ar adegau penodol, fel y galllwch fanteisio ar y cyfle i ennill gwell cymwysterau a gyrru’ch gyrfa yn ei flaen.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes, mae hon yn swydd brysur sy’n rhoi llawer o foddhad, ac sy’n creu cyswllt rhwng swydd archwilio mewn amgylchedd ffatri a swydd goruchwyliwr neu reolwr technegol.
Gall y profiad y byddwch yn ei ennill yn ymwneud â swyddogaethau technegol eich cwmni, yn ogystal â dysgu am ymdrin â chyflenwyr a chwsmeriaid hefyd eich rhoi ar drywydd gyrfa gyffrous mewn rheolaeth technegol.