Felly am beth mae hyn i gyd?
Chi fydd yr uwch reolwr sy’n gyfrifol am bob agwedd dechnegol o weithgynhyrchu bwyd yn eich cwmni (neu uned fusnes atodol) gan gynnwys systemau ansawdd a diogelwch bwyd. Chi hefyd fydd yr un sy’n sicrhau bod pob proses yn cyflawni gofynion cyfreithiol.
Byddwch yn rheoli gweithgareddau adran dechnegol y cwmni o ddydd i ddydd ac yn datblygu tîm o staff sicrhau ansawdd a hylendid. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda datblygiadau strategol y cwmni ac yn gweithredu fel uwch gynrychiolydd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Mewn gwirionedd, bydd popeth sy’n cael ei ystyried yn dechnegol o fewn y cwmni’n dod o dan eich adain chi – ansawdd, hylendid, labordai, labelu a materion deddfwriaethol ac yn y blaen.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Bydd eich gwaith yn seiliedig ar weithgareddau Sicrhau Ansawdd gyda chyfrifoldeb technegol ychwanegol am bethau megis rheoli hylendid y cwmni a rheolaeth labordy i adlewyrchu natur ehangach y swydd.
Gallwch ddisgwyl cyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Cyfeirio system rheoli ansawdd y cwmni i sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau megis y rhai a osodir gan y Consortiwm Adwerthu Prydeinig (BRC) a gweithdrefnau Hazard Analysis and Critical Control Point (HACCP) wrth ymdrin â bwyd
- Adolygu polisïau presennol a chynllunio sut i wella systemau rheoli ansawdd
- Gweithredu gwelliannau i systemau
- Cynrychioli’r busnes gyda phob mater yn ymwneud â thechnoleg
- Sicrhau bod pob aelod staff yn gymwys i gyflawni eu swydd yn iawn ac yn gallu datblygu yn eu swyddi
- Rheoli hylendid, ansawdd a gweithgareddau labordy’r cwmni
- Cydweithio’n agos gydag uwch reolwyr y cwmni, cyflenwyr a chwsmeriaid
- Cytuno ar ffigyrau’r gyllideb a rheoli’r gyllideb dechnegol
- Cefnogi adrannau eraill o fewn y cwmni yn ôl yr angen
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Fel Rheolwr Technegol, mae’n debygol eich bod eisoes wedi ennill profiad helaeth o reoli prosesau technegol o fewn y sector bwyd ac mae’n debygol iawn mai gradd yn ymwneud â bwyd yw eich cymhwyster sylfaenol.
Bydd angen i chi arbenigo mewn gwahanol safonau a gofynion deddfwriaethol sy’n effeithio sector y diwydiant yr ydych yn gweithio ynddo.
Byddwch yn berson sy’n gallu gwneud penderfyniadau sydyn a chywir, gan gefnogi’r syniadau gyda ffeithiau a gwybodaeth heb golli ffocws ar y manylion.
Byddwch yn berson trefnus iawn a bydd gennych gymhelliant eithriadol. Bydd angen i chi fod ar flaen y gad i allu gweithio’n effeithiol.
Fel rheolwr, bydd disgwyl i chi arwain tîm felly mae profiad yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n broffesiynol a chymwys yn nodweddion allweddol.
Beth alla i ddisgwyl?
Mae swydd Rheolwr Technegol yn ddwys iawn. Gallwch fod yn gweithio oriau hir ac yn aml yn teithio i gwrdd â chyflenwyr a chwsmeriaid.
Gallwch ddisgwyl i nifer o faterion amrywiol gyrraedd eich desg ar unrhyw bryd a bydd angen i chi allu ymdrin â phwysau a gwneud penderfyniadau gyda goblygiadau pellgyrhaeddol. Bydd angen i chi fod yn arbenigwr ar bob dim yr ydych yn ymdrin ag ef - nid yw cymhwysedd yn unig yn ddigon ar gyfer y swydd hon.
Beth am y cyflog?
Fel aelod uwch o’r tîm rheoli, mae’n bosib y byddwch yn ennill dros £50,000 y flwyddyn. Er mai canllaw yw’r ffigwr hwn, mae’n rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sy’n mynd gyda’r rôl.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
I gael swydd y Rheolwr Technegol, mae angen i chi ddangos profiad helaeth o fewn un o’r meysydd technegol.
O ran cymwysterau, bydd angen i chi fod wedi graddio ym maes bwyd yn y lle cyntaf cyn symud ymlaen at gymhwyster ôl-raddedig mewn rheoli ansawdd neu astudiaethau busnes.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae nifer o gymwysterau proffesiynol ar gael ar gyfer Rheolwyr Technegol, er enghraifft gradd MSc mewn Materion Rheoliadol yn ymwneud â Bwyd.
Gallech hefyd helpu eich potensial ar gyfer dyrchafiad trwy astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol a gynigir gan sefydliadau megis y Sefydliad Ansawdd Siartredig.
Mae aelodaeth o’r sefydliadau hyn hefyd yn dangos eich ymroddiad i’ch swydd.
Yn ogystal â hynny, gallech ystyried cwblhau cymhwyster MBA a fydd yn ychwanegu ystod eang o wybodaeth i gyd-fynd â’ch gwybodaeth dechnegol a darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer dyrchafiad.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Bydd rôl y Rheolwr Technegol yn amrywio gyda maint y cwmni - mewn busnes llai, gallai’r swydd fod yn ymarferol, ond byddai angen cymryd rôl fwy strategol mewn cwmni mwy o faint gyda llawer mwy o weithwyr ac adrannau.