Beth yw’r swydd?
Fel Bragwr Technegol, chi fydd yn gyfrifol am reoli cynhyrchiant lager, cwrw, cwrw du a stowt a sicrhau bod yr holl gynnyrch o’r ansawdd gorau.
Os byddwch yn gweithio i fragdy bach, mae’n bosib y byddwch yn goruchwylio’r broses gyfan, o gaffael deunydd crai i becynnu’r cynnyrch gorffenedig; mewn bragdy mwy o faint, byddwch naill ai’n rheoli rhan benodol o’r broses neu ambell un o’r cynnyrch.
Byddwch hefyd yn datblygu, profi a chynhyrchu cwrw newydd i gwrdd â galw’r farchnad.
Beth allaf fod yn ei ddisgwyl?
Er y gallwch fod yn gyfrifol am yr holl gynhyrchiant neu arbenigo mewn un maes, bydd eich rôl yn debygol o gynnwys y canlynol:
- Prynu deunydd crai fel hopys, burum a grawn
- Cydweithio â chyflenwyr i sicrhau bod deunydd crai ar gael
- Gwirio amodau bragu ac ansawdd y cynnyrch
- Gweithio gyda thechnegwyr labordy sy’n cymryd samplau o’r cynnyrch
- Cadw cofnodion manwl o’r broses gynhyrchu er mwyn sicrhau cysondeb
- Sicrhau fod yr holl offer yn cael eu glanhau a’u cynnal a chadw’n briodol
- Llunio cyllidebau a rheoli lefelau stoc
- Datblygu a phrofi cwrw newydd
- Rheoli personél er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant a’r effeithiolrwydd gorau posib
- Goruchwylio’r broses pacio
- Gwneud gwelliannau technegol a defnyddio TG
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Bydd angen gwybodaeth wyddonol dda arnoch a bydd angen i chi fod yn gyfarwydd ag iaith dechnegol bragu.
Bydd angen i chi ddangos sgiliau arwain da, ymwybyddiaeth fasnachol, a’r gallu i wneud penderfyniadau os ydych am lwyddo fel Bragwr Technegol.
Mae hwn yn waith ymarferol felly bydd angen i chi fod yn heini ac yn hapus i weithio mewn amgylchedd sy’n medru bod yn boeth, yn llaith ac yn swnllyd - mae hyn yn golygu y bydd angen i chi wisgo dillad diogelwch.
Bydd angen i chi fod yn greadigol er mwyn datblygu cwrw tymhorol ac arbenigol.
Ar wahân i hyn, bydd disgwyl i chi feddu ar nodweddion rheolwr llwyddiannus, gan gynnwys sgiliau trefnu, cyfathrebu, datrys problemau ac yn y blaen.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Gallwch ddisgwyl gweithio tua 40 awr yr wythnos, a gallai hyn gynnwys gwaith sifft gan ddibynnu ar union natur y rôl. Gallai eich oriau gwaith hefyd ddibynnu ar y broses sy’n digwydd ar adegau penodol.
Er y bydd llawer o’ch amser yn cael ei dreulio yn y ffatri, gallwch hefyd ddisgwyl treulio ychydig o’ch amser yn gwneud gwaith swyddfa fel cofnodi data a delio gyda chyflenwyr, rheolwyr a phersonél.
Os oes yna argyfwng gallwch ddisgwyl cael eich galw i mewn i’r gwaith ar fyr rybudd, yn enwedig os ydych yn gweithio i fragdy bach nad ydynt yn gwneud gwaith sifft.
Erbyn hyn, mae yna nifer o fragdai micro wedi’u sefydlu ledled y DU felly, gallwch weithio’n agos i adref; serch hynny efallai y bydd angen i chi symud os ydych chi’n chwilio am swydd gyda busnes bragu ar raddfa fawr.
Beth am y cyflog?
Bydd y gyfradd gyflog yn amrywio yn ôl lleoliad a chyflogwr, ond gan amlaf gallwch ddisgwyl dechrau rhwng £18,000 a £24,000 y flwyddyn.
Gyda phrofiad a chyfrifoldeb gallai hyn godi i £35,000 y flwyddyn gyda’r bragwyr mwyaf profiadol yn ennill dros £40,000.
Bydd rhai cyflogwyr mawr yn darparu buddiannau eraill ar ben eich cyflog.
Canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a dylech bob amser wirio gydag unrhyw ddarpar gyflogwr.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Er mwyn ennill swydd fel Bragwr Technegol, bydd mwy na thebyg angen gradd arnoch mewn pwnc perthnasol. Er enghraifft:
- Gwyddor Bwyd neu Dechnoleg Bwyd
- Peirianneg Gemegol neu Gemeg
- Microbioleg
- Bioleg neu Wyddor Fiolegol
- Biocemeg
Os hoffech astudio sgiliau bragu penodol, gallwch ystyried gradd anrhydedd mewn Bragu a Distyllu.
Mae gan rai bragwyr mawr gynlluniau recriwtio graddedigion, ond mae llefydd yn brin a bydd angen i chi edrych ar wefannau cwmnïau am fanylion ar sut i ymgeisio.
Byddai profiad mewn amgylchedd bragu’n ddefnyddiol hefyd, ac ar ôl cwblhau gradd wyddonol gallwch ystyried cyrsiau sy’n benodol i fragu.
Ble allaf ennill y cymwysterau hyn?
Mae’r cyrsiau gwyddonol sydd wedi’u rhestru uchod yn gyffrfedin iawn a bydd gennych nifer o opsiynau ym mhob rhan o’r DU.
Ar y llaw arall, mae’r cwrs BSc Bragu a Distyllu dim ond ar gael yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Bragu a Distyllu ym Mhrifysgol Heriot Watt.
Os ydych yn cael ei derbyn fel person graddedig o dan hyfforddiant gyda chwmni bragu mawr, yna byddwch yn cael cynnig hyfforddiant sgiliau dwys ym mhob agwedd o’r broses fragu.
Mae’r Sefydliad Bragu a Distyllu hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant sy’n addas ar gyfer dechreuwyr a bragwyr profiadol.
Beth am hyfforddiant pellach?
Gallwch ystyried cymhwyster ôl-radd fel y cam nesaf, ac mae Prifysgolion Nottingham a Sheffield yn cynnig cymwysterau bragu.
Fel y soniwyd uchod, mae’r Sefydliad Bragu a Distyllu’n cynnig cyrsiau uwch sy’n arwain at gymhwyster Meistr Bragu.
Gallai ymaelodi â’r sefydliad hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich rhagolygon gyrfa gan ddatblygu eich profiad a’ch diweddaru ar ddatblygiadau’r sector.
Mae Brewlab hefyd yn cynnig cyrsiau o ddechreuwyr mewn bragu i Ddiploma 9 wythnos mewn Technoleg Bragu Brydeinig. Mae cyrsiau ar-lein hefyd ar gael.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, mae twf mawr wedi bod yn y sector bragu micro yn ddiweddar; mae hyn yn golygu fod mwy o gyfleoedd ar gael ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau a phrofiad - os ydych yn 18 neu’n hŷn gallwch edrych am fragwr micro a fydd yn barod i chi eu cysgodi yn y gwaith; gallai hyn fod yn ychwanegiad arbennig i’ch CV a bod yn ddechrau da ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Gyda phrofiad gallwch fod yn uwch fragwr neu’n gyfarwyddwr technegol, neu gallwch sefydlu eich bragdy micro eich hun.