English en
Rheolwr y Gadwyn Gyflenwi

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae hon yn rôl sy’n hanfodol ar gyfer proffidioldeb parhaus y cwmni.

Fel Rheolwr Cadwyn Gyflenwi, byddwch yn arwain y tîm sy’n trosglwyddo’r holl gynnyrch a gynhyrchir gan eich cwmni i’r defnyddiwr yn y pen draw; yn y sector bwyd, bydd hyn yn cynnwys un ai archfarchnadoedd mawr neu fusnesau dosbarthu a chyfanwerthu.

Yn ogystal, byddwch yn gyfrifol am drefnu’r deunyddiau crai a sicrhau eu bod yn cyrraedd ar amser ac yn bodloni’r gofynion.

Yn fyr, byddwch yn gyfrifol am symudiad yr holl gynnyrch trwy’r busnes, o fewnbynnau deunyddiau crai, i’r prosesu, ac ymlaen at y cwmser yn y pen draw.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda swyddogion pwrcasu, staff y warws a chlerciaid cludiant i sicrhau bod yr holl gynnyrch yn cyrraedd cyrchfannau ar amser ac mewn cyflwr perffaith.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich dyletswyddau’n eang ac yn seiliedig ar y canlynol:

  • Cynllunio strategaeth cadwyn gyflenwi effeithio ar gyfer eich cwmni, mewn cydweithdrediad â chyfarwyddwyr y cwmni o bosib
  • Cefnogi adrannau cynhyrchu a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau mewn lle ar yr adeg iawn er mwyn sicrhau gwasanaeth di-dor
  • Goruwchwylio symudiad cynnyrch i’r cyrchfannau terfynnol a’r siopau
  • Sicrhau bod rhestrau stoc yn gywir a lleihau lefelau stoc
  • Gwerthuso ac archwilio perfformiad contractwyr yn erbyn trefniadau a gytunwyd
  • Monitro data a sicrhau bod gwybodaeth yn gywir
  • Cynllunio amserlenni ar gyfer dosbarthu
  • Gweithio’n agos gyda chyflenwyr a chwsmeriaid i wella arferion gwaith a sicrhau’r effeithlonrwydd gorau am y costau gorau posib
  • Arwain tîm mawr o staff a sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyrraedd
  • Cyfathrebu gofynion ac amcanion i reolwyr a staff allweddol ym maes pwcasu, logisteg a dosbarthu.
  • Negodi cytundebau gyda chyflenwyr a cwmnïau cludiant trydydd parti
  • Cyfrifo cyfanswm costau’r gadwyn gyflenwi’n gywir o ran prosiectau newydd arfaethedig.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd angen i chi fod yn reolwr a threfnydd medrus iawn er mwyn ymdopi â chymhlethdodau rôl fel rheolwr y gadwyn gyflenwi.

Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur a bydd angen sgiliau datrys problemau. Bydd eich sgiliau ymdrin â phobl yn ddatblygedig iawn hefyd er mwyn gallu ysgogi eich staff i gyflawni targedau anodd o fewn amserlenni tynn.

Beth alla i ddisgwyl?

Ar y lefel hon, byddwch yn gweithio yn ystod y dydd, fel arfer rhwng 8yb a 6yh, er gallwch ddisgwyl derbyn galwadau ffôn wrth i broblemau godi ar unrhyw adeg.

Byddwch yn treulio mwyafrif eich amser yn y swyddfa a bydd angen teithio ychydig i ymweld â chwsmeriaid a chyflenwyr er mwyn cynnal perthynas weithio effeithiol.

Beth am y cyflog?

Gan ddibynnu ar eich rôl yn union a’r amrediad o gyfrifoldebau, gallech fod yn ennill ymhell dros £40,000, er mae’n debyg y byddwch yn dechrau ar lefel is ac yn gweithio eich ffordd i fyny’r rhengoedd i swydd rheolwr y gadwyn gyflenwi.

Gall uwch reolwyr y gadwyn gyflenwi ennill hyd at £60,000, ac os byddwch yn gweithio mewn cwmni mawr fel cyfarwyddwr y gadwyn gyfleniw, mae’n bosib y byddwch yn ennill mwy fyth.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Os ydych yn dymuno dechrau gyrfa mewn rheolaeth cadwyn gyflenwi, byddwch yn debygol o fod wedi dechrau mewn rôl hyfforddai graddedig, a byddwch wedi bod yn astudio cwrs gradd a fydd yn eich rhoi ar y blaen yn y rôl.

Mae’n bosib hefyd eich bod wedi dechrau gyda’r cwmni mewn rôl ar lefel is, er enghraifft fel clerc cludiant, ac efallai eich bod wedi gweithio eich ffordd hyd at lefelau goruchwyliwr a rheolaeth.

Yn yr achos hon mae’n bosib eich bod wedi astudio cymwysterau a gynigir gan CILT (Chartered Institute of Logistics and Transport) sy’n amrywio o lefel 2 hyd lefel 6.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae amrywiaeth o opsiynau posib y gallech eu hystyried, gan gynnwys cymwysterau CILT, sydd â nifer o opsiynau posib ar bob lefel; golyga hyn y gallech ddewis o ystod eang i fodloni eich gofynion eich hun.

Mae CILT UK hefyd yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant ar lefel uwch, megis y Diploma Proffesiynol Lefel 5 mewn Logisteg a Chludiant, wedi’i anelu at reolwyr y gadwyn gyflenwi.

Gallech hefyd ddewis o ystod eang o gymwysterau rheolaeth ôl-raddedig a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich gyrfa i’r cam nesaf.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae hon yn rôl sy’n hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd felly mae’n gyfle gwych i gynorthwyo gyda datblygiad gyrfa.