English en
Rheolwr Rhwydwaith TG

Beth allaf fod yn ei wneud?

Er bod union gyfrifoldebau’r swydd yn dibynnu ar y systemau sydd gan eich cyflogwr ar waith, bydd yn cynnwys nifer o’r canlynol:

  • Arwain a rheoli tîm o dechnegwyr TG
  • Awgrymu gwelliannau i’r system
  • Rheoli data’r cwmni
  • Gweithredu a diweddaru mesurau diogelwch y rhwydwaith TG
  • Cynllunio amserlenni’r gwaith cynnal a chadw ataliol
  • Monitro ac adrodd ar berfformiad y rhwydwaith TG a’r defnydd ohono
  • Rheoli twf a datblygiad y rhwydwaith TG
  • Datrys problemau cymhleth
  • Cydweithio â staff o wahanol adrannau i sicrhau bod yr holl systemau’n gweithio’n iawn.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Byddwch yn debygol o fod yn weithiwr TG proffesiynol profiadol sydd â sgiliau rheoli ac arwain da. Bydd disgwyl i chi feddu ar y canlynol yn benodol:

  • Gwybodaeth drylwyr o systemau TG, yn enwedig y rheiny sy’n cael eu defnyddio gan eich cwmni
  • Sgiliau rhyngbersonol a phrofiad o gyflwyno gwybodaeth i grwpiau
  • Profiad o ddatrys problemau a rheoli prosiect
  • Arbenigedd mewn trafod a gweithio mewn tîm
  • Y gallu i weithio o dan bwysau terfynau amser

Beth allaf ei ddisgwyl?

Byddwch wedi eich lleoli yn swyddfa TG y cwmni ac yn gyffredinol yn gweithio 40 awr yr wythnos, er y gallai hyn amrywio os yw eich cwmni’n gweithio sifftiau neu dros y penwythnosau.

Gallai eich oriau hefyd fod yn hirach ar ôl gosod system newydd.

Beth am y cyflog?

Gallai’r cyflog cychwynnol ar gyfer y swydd hon fod rhwng £23,000 a £27,000 gan ddibynnu ar eich profiad a’ch lefelau arbenigedd.

Yna, gallai hyn godi hyd yn oed yn fwy gyda phrofiad ac os ydych yn derbyn swydd strategol uwch, gallwch ddisgwyl ennill dros £50,000. 

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Er mwyn bod yn rheolwr rhwydwaith, bydd angen profiad perthnasol a hanes o lwyddiant, er enghraifft, mewn rôl peiriannydd rhwydwaith neu dechnegydd TG (ewch i swydd ddisgrifiad y Technegydd TG am fanylion pellach).

Byddai profiad o oruchwylio neu reoli hefyd yn ddefnyddiol.

Efallai y bydd eich cwmni yn edrych am raddedigion o dan hyfforddiant ar gyfer y swydd rheolwr rhwydwaith TG ac mae pynciau perthnasol yn cynnwys graddau BSc Cyfrifiadureg, technoleg gwybodaeth, peirianneg gyfrifiadurol neu dechnoleg gwybodaeth busnes.

Gallwch hefyd ystyried gradd sy’n cyfuno cyfrifiadura a busnes.

Gallai rhai cwmnïau cynhyrchu bwyd hefyd eich ystyried ar gyfer y swydd os oes gennych gymwysterau mewn pwnc ar wahân i TG, gan gymryd fod gennych brofiad a sgiliau perthnasol yn y maes hwn.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae hyn yn dibynnu, i ryw raddau, ar eich cymwysterau pan fyddwch yn dechrau’r swydd.

Serch hynny, rydym yn eich cynghori i gwblhau rhai o’r cymwysterau gan fod y diwydiant yn datblygu’n gyflym iawn a byddwch yn cael eich gadael ar ôl os nad ydych yn diweddaru eich gwybodaeth am y newidiadau diweddaraf.

Awgrym arall yw ystyried ymaelodi gyda chorff proffesiynol, fel y Sefydliad Siartredig TG sy’n cynnig rhaglenni achrededig ac yn medru eich helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn ffordd strwythuredig.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, os byddwch yn gweithio i un o’r cynhyrchwyr bwyd mawr, mae’n debygol y bydd gennych fwy nag un rhwydwaith i’w rheoli a gallwch fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a datblygu systemau newydd - yn enwedig os oes gan eich cwmni gystadleuwyr a bod yn rhaid i chi sicrhau bod y systemau’n cydweddu â’i gilydd.

Mae nifer o swyddi ar gael i’r rheiny sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol - mae hon yn yrfa posib gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith cyfrifiadurol.