English en
Cynorthwyydd Manwerthu

Beth yw’r swydd?

Fel cynorthwyydd manwerthu i fusnes bwyd, mae’n bosib y cewch eich cyflogi gan archfarchnad neu siop lysiau mawr, efallai hyd yn oed siop fwyd arbenigol neu siop delicatessen; mae hyn yn golygu y gallai eich dyletswyddau amrywio.

Chi fydd y person cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewn nifer o achosion. Byddwch yn cynnig gwasanaeth effeithiol a chwrtais, p’un ai ydych chi’n llenwi silffoedd neu’n gweithio wrth y til.

Byddwch yn helpu sicrhau bod digon o nwyddau yn y siop a’u bod yn cael eu harddangos yn briodol ac yn cael eu cylchdroi’n gywir, yn enwedig bwydydd sydd â dyddiad defnyddio byr. 

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae llawer o wahanol ddyletswyddau y gallwch fod yn eu gwneud fel Cynorthwyydd Manwerthu, gan gynnwys:

  • Trin cwsmeriaid
  • Dadlwytho llwyth o nwyddau
  • Llenwi silffoedd ac adnewyddu stoc
  • Ateb ymholiadau cwsmeriaid
  • Cynghori cwsmeriaid
  • Sicrhau bod popeth yn lân a thaclus
  • Archebu stoc
  • Delio gydag ad-daliadau
  • Delio gyda chwynion
  • Argymell cynnyrch
  • Cynorthwyo cwsmeriaid gyda’u hymholiadau

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Er mwyn bod yn gynorthwyydd manwerthu llwyddiannus bydd angen i chi ddangos eich bod yn gyfrifol iawn ac yn ddibynadwy gan fydd disgwyl i chi ddysgu am wahanol swyddi ac ymgymryd â nifer o wahanol ddyletswyddau yn ystod y sifft heb lawer o oruchwyliaeth. Mae gofyn hefyd i chi fod yn berson sy’n hapus i weithio mewn rolau gwahanol yn ôl yr angen ac yn barod i ddysgu sut i’w cwblhau’n effeithiol.

Bydd angen i chi fwynhau delio gyda chwsmeriaid a helpu pobl er nad yw pob un mor gwrtais ag y byddech yn ei obeithio; cofiwch fod y cynorthwyydd gwerthu fel arfer yn gyswllt rhwng y cwsmer a’r rheolwyr.

Wrth i chi ennill profiad, bydd disgwyl i chi ddysgu rhywfaint am ymwybyddiaeth fasnachol er mwyn cyfrannu at hyrwyddo ac arddangos cynnyrch; os ydych yn gweithio wrth y cownter cig neu bysgod mewn archfarchnad fawr bydd hefyd disgwyl i chi ddysgu gwybodaeth fanwl am y cynnyrch a gwneud awgrymiadau deallus.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Bydd eich swydd fel cynorthwyydd manwerthu yn golygu gweithio 40 awr yr wythnos ond gallai hyn fod gyda’r nos ac ar benwythnosau gan ddibynnu ar eich cyflogwr; gallai oriau gwaith fod yn hirach yn ystod cyfnodau sy’n arwain at wyliau, felly byddwch yn barod ar gyfer hyn hefyd.

Gallwch ddisgwyl bfod ar eich traed y rhan fwyaf o’r amser gan ddibynnu ar eich cyflogwr a’ch gwaith ar wahanol ddiwrnodau.

Bydd cwsmeriaid yn gofyn am eich cyngor drwy’r dydd gan amrywio o fod yn gwynion i geisio dod o hyd i gynnyrch.

Gallwch ddisgwyl i swydd cynorthwyydd manwerthu fod yn anodd ond yn foddhaol hefyd gan eich bod yn helpu pobl i gael profiad cadarnhaol wrth siopa.

Beth am y cyflog?

Bydd eich cyflog yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar eich cyflogwr; y lleiafswm cyflog ar hyn o bryd yw £7.83 yr awr ond gallai hyn fod yn llai os ydych o dan 25 ac yn dechrau fel prentis. Wrth gwrs, bydd nifer o gyflogwyr yn talu mwy i chi wrth i chi ddatblygu profiad a statws.

Fel goruchwyliwr gallwch ennill dros £20,000 y flwyddyn.

Mae’n debygol hefyd y byddwch yn cael cynnig gostyngiadau staff, bonws ayb.

Mae’r ffigurau hyn yn amrywio’n fawr ac yn adlewyrchu’r sector manwerthu ac wedi’u bwriadu fel canllaw yn unig. Dylech bob amser wirio o flaen llaw.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Nid oes unrhyw ofynion penodol ar gyfer swydd cynorthwyydd manwerthu ac efallai y bydd angen i chi ddechrau eich gyrfa yn gweithio yn y sector manwerthu, efallai fel prentis ar ôl gadael yr ysgol gydag o leiaf 5 TGAU. Cofiwch fod TGAU Saesneg a Mathemateg yn bwysig iawn a bydd nifer o fanwerthwyr yn gofyn am y rhain oherwydd mae’n debygol y bydd angen i chi gadw cofnodion a gweithio gydag arian.

Gallwch hefyd ystyried cwblhau cymwysterau perthnasol yn y coleg neu uwch brentisiaeth o bosib.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr mawr byddwch yn derbyn hyfforddiant strwythuredig i’ch galluogi i gwblhau eich gwaith yn effeithiol.

Os oes yn well gennych ddilyn llwybr mwy academaidd, gallech hefyd ystyried astudiaethau rhan amser a allai fod o fudd i ddatblygiad eich gyrfa.

Mae’r mwyafrif o gwmnïau yn hoffi ymgeiswyr sydd â phrofiad manwerthu felly gallai unrhyw waith rhan amser tra eich bod yn yr ysgol fod o fantais fawr.

Ble allaf ennill y cymwysterau hyn?

Cysylltwch â’ch cynghorydd gyrfaoedd neu goleg lleol am fwy o wybodaeth am brentisiaethau a chyrsiau addysg bellach yn gyntaf, er mwyn darganfod beth sydd fwyaf addas i’ch uchelgeisiau. 

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae yna bob math o gymwysterau y gallwch eu gwneud os hoffech chi yrfa yn y sector manwerthu.

Gallai eich cyflogwr hyd yn oed helpu i dalu am eich hyfforddiant gan y byddan nhw’n manteisio ohono hefyd!

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Mewn siop fach gallwch ddisgwyl derbyn llawer o gyfrifoldeb yn eithaf cyflym; mae gweithio gyda siop mwy o faint yn golygu bod mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a derbyn dyrchafiad a chodiad cyflog.

Wrth i chi ddatblygu mwy o brofiad gallwch edrych ar symud i swydd oruchwylio neu reoli, neu hyd yn oed swydd gwerthu neu brynu.

Ar y llaw arall, gallwch ystyried agor safle manwerthu eich hun, efallai fel cyflenwr arbenigol neu’n darparu gwasanaeth penodol i gwsmeriaid.

Mae’r sector manwerthu’n parhau i newid a datblygu gyda’r we yn dod yn bwysicach o hyd; serch hynny, mae pobl yn mwynhau siopa ac mae’r sector yn parhau i fod yn allweddol i’r economi genedlaethol.