English en
Rheolwr Sicrhau Ansawdd

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae Rheolwyr Sicrhau Ansawdd yn sicrhau bod y broses gweithgynhyrchu bwyd yn ddiogel trwy fonitro a rheoli’r broses cynhyrchu o dderbyn cynhwysion amrwd hyd at becynnu’r cynnyrch gorffenedig. Maent yn sicrhau bod pob agwedd o brosesu yn cwrdd â safonau llym o ran ansawdd a hylendid.

Fel Rheolwr Sicrhau Ansawdd, chi fyddai’n gyfrifol am sefydlu prosesau asesu ansawdd sy’n cynnal y safonau hyn.

Gan ddibynnu ar faint y cwmni, byddwch hefyd yn debygol o fod yn rheoli tîm o dechnegwyr ansawdd.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich swydd yn amrywiol iawn ond bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Mesur perfformiad yn erbyn safonau mewnol ac allanol megis y rhai a gynhelir gan y Consortiwm Adwerthu Prydeinig (BRC) a gofynion Hazardous Analysis and Critical Control Point (HACCP)
  • Adolygu polisïau presennol a chynllunio sut i wella systemau rheoli ansawdd
  • Gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
  • Archwilio a phrofi cynnyrch a phrosesau cynhyrchu
  • Sicrhau bod holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni safonau cenedlaethol a rhyngwladol
  • Sicrhau bod yr holl staff yn gymwys i allu cyflawni eu swyddi yn iawn
  • Cadw cyswllt agos gyda rheolwyr ac adrannau eraill
  • Rheoli tîm o dechnegwyr ansawdd a sicrhau cysondeb o fewn dulliau gweithredu gan y tîm

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Fel Rheolwr Sicrhau Ansawdd, bydd gennych brofiad blaenorol o’r swydd hon ar lefel Technegydd Sicrhau Ansawdd a bydd eich cymhwyster sylfaenol fwy na thebyg yn gysylltiedig â’r diwydiant bwyd.

Bydd gennych ddealltwriaeth dda o wahanol safonau a gofynion deddfwriaethol sy’n effeithio sector y diwydiant yr ydych yn gweithio ynddo.

Bydd angen i chi fod yn unigolyn diwyd gyda hunan-gymhelliant sy’n frwdfrydig dros gynorthwyo cydweithwyr i weithio mor effeithiol â phosib.

Bydd gennych agwedd rhesymegol a dadansoddol at eich gwaith.

Byddwch yn berson sy’n gallu gwneud penderfyniadau sydyn a chywir a’u cefnogi gyda ffeithiau a gwybodaeth.

Fel rheolwr, bydd disgwyl i chi arwain tîm, felly bydd profiad blaenorol mewn rôl arweiniol yn fanteisiol yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n broffesiynol ac yn ddeallus. 

Beth alla i ddisgwyl?

Mae’r swydd hon yn un dwys ond diddorol iawn, ac yn ogystal â gweithgareddau o ddydd i ddydd, dylech barhau i ddiweddaru eich gwybodaeth ynglŷn â newidiadau i safonau sy’n effeithio ar eich swydd.

Os oes gennych ddealltwriaeth o bwysigrwydd ansawdd i gwsmeriaid a busnesau, sylw at fanylder ac os ydych yn gyfathrebwr da, gallai hwn fod yn yrfa ddelfrydol ar eich cyfer.

Beth am y cyflog?

Fel canllaw, mae cyflogau fel arfer yn amrywio rhwng £23,000 a £35,000 y flwyddyn, gan ddibynnu ar faint y sefydliad a lefel cyfrifoldeb. Gall uwch reolwyr ennill rhwng £40,000 a £50,000.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Bydd angen profiad blaenorol mewn rheoli prosiect a/neu reoli ansawdd er mwyn dod yn rheolwr ansawdd a bydd derbyn gradd neu gymhwyster ôl-raddedig mewn rheoli ansawdd neu astudiaethau busnes yn cynnig mantais wrth anelu at y math hwn o swydd.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae cymwysterau proffesiynol ar gael ar gyfer Rheolwyr Ansawdd a staff. Mae’n bosib y gallech hefyd helpu eich potensial ar gyfer dyrchafiad trwy astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol a gynigir gan sefydliadau megis y Sefydliad Ansawdd Siartredig (CQI) a’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). 

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Rydych yn debygol o fod wedi’ch lleoli yn y swyddfa, ond mae’n bosib y byddwch yn treulio peth amser yn gwirio gwaith mewn labordy rheoli ansawdd neu ar y llinell cynhyrchu. Gallech fod yn gweithio oriau sifft wedi’u hymestyn dros yr wythnos a phenwythnosau, ond fel arfer byddech yn gweithio oriau swyddfa nodweddiadol o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y rhan fwyaf o gwmnïau.