English en
Archwilydd/Technegydd Sicrhau Ansawdd

Felly am beth mae hyn i gyd?

Yn y swydd hon byddwch yn gyfrifol dros sicrhau bod y broses gweithgynhyrchu bwyd yn cydymffurfio gyda phob manyleb diogelwch ac ansawdd.

Golyga hyn y byddwch yn rhan o dîm sy’n monitro popeth o’r cynhwysion amrwd sy’n dod i mewn hyd at y cynnyrch gorffenedig wedi’i becynnu.

Noder, er bod rôl yr archwilydd a’r technegydd wedi’u cyfuno mewn nifer o gwmnïau, mewn rhai achosion fe welwch eu bod ar wahân o ran y canlynol:

Y Technegydd Sicrhau Ansawdd sy’n gwneud y gwiriadau a’r profi rheolaidd, ac mae rôl yr Archwilydd Sicrhau Ansawdd yn cynnwys gwirio’r cofnodion SA a sicrhau bod system ansawdd y cwmni’n cael ei gweithredu’n gywir.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd union natur y swydd yn amrywio o gwmni i gwmni ond gallwch ddisgwyl cyflawni nifer o’r swyddogaethau canlynol:

  • Sicrhau bod gofynion y cwsmer a gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni
  • Gwirio deunydd crai a chynhwysion sy’n dod i mewn
  • Sicrhau bod offer mesur pwysau a thymheredd wedi’u graddnodi’n gywir
  • Gwirio labeli cynnyrch
  • Cynnal archwiliadau rheolaidd
  • Adrodd ar unrhyw broblemau diffyg cydymffurfiaeth
  • Casglu samplau ar gyfer profi mewn labordy
  • Cefnogi’r tîm cynhyrchu i gyflawni ac i gofnodi’n gywir, a sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch bwyd y cwmni

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Er mwyn gweithio fel Archwilydd Ansawdd, bydd angen i chi fod yn berson gofalus iawn sy’n mwynhau gwaith manwl.

Bydd angen i chi allu deall holl ofynion y cwmni a’r cwsmeriaid yn llawn er mwyn gallu adnabod a chywiro unrhyw broblemau sy’n codi wrth gynhyrchu.

Fel rhan o dîm bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da, a hynny’n llafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig; wrth gwrs, byddwch yn dal i dreulio llawer o amser yn gweithio ar eich menter eich hun, yn enwedig wrth weithio sifft.

Bydd angen personoliaeth gref arnoch gan y bydd gofyn i chi wneud penderfyniadau amhoblogaidd lle nad yw pawb yn gytûn o dro i dro.

Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rheoli amser a threfnu personol ar lefel uchel er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud a’i gofnodi’n gywir.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl treulio llawer o amser mewn ardaloedd cynhyrchu o fewn y ffatri er y byddwch yn treulio peth amser yn y swyddfa hefyd er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gweithdrefnau sicrhau ansawdd ac yn cofnodi eich gwybodaeth yn gywir.

Gan fod eich rôl yn ymwneud yn helaeth â’r broses gynhyrchu, mae’n debygol iawn y bydd disgwyl i chi weithio sifftiau a goramser pan fo angen.

Beth am y cyflog?

Gall amrywio o le i le a natur y swydd - mae gan nifer o Archwilwyr Ansawdd brofiad ymarferol yn y ffatri fel gweithwyr llinell ac wedi ymgymryd â’r rôl Archwilydd Ansawdd er mwyn datblygu eu gyrfa. Golyga hyn y bydd cyflog yn unol â chyflog gweithiwr profiadol fel man cychwyn.

Felly, gallwch ddisgwyl derbyn £14,000 - £15,000 a mwy.

Cofiwch mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau hyn ac fe fyddant yn amrywio.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Fe welwch fod cyflawni 5 TGAU Gradd C ac uwch yn eich rhoi mewn sefyllfa dda os ydych am wneud cais am y swydd hon o lawr y ffatri - yn enwedig os oes gennych un neu fwy o gymwysterau TGAU mewn pwnc STEM.

Mae pob cwmni bwyd yn darparu hyfforddiant anwytho mewn diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch, ond gobeithio y byddwch wedi manteisio ar y cymwysterau pellach a gynigir gan nifer o gyflogwyr gweithgynhyrchu.

Mae hynny’n debygol o gynnwys cymhwyster lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd a HACCP a thystysgrif ymwybyddiaeth COSHH o bosib hefyd.

Fel arall, gallech fod wedi cwblhau rhaglen Brentisiaeth yn llwyddiannus neu hyd yn oed gymwysterau Lefel A neu radd sylfaen.

Ble fuaswn i’n cael y cymwysterau hyn?

Bydd nifer o gyflogwyr  un ai’n cynnig cymwysterau bwyd yn fewnol neu’n anfon staff sy’n dymuno symud ymlaen i golegau lleol neu ddarparwyr preifat.

Wrth gwrs, ni ddylech ddisgwyl i hyn ddigwydd ohono’i hun, yn hytrach bydd angen i chi ddangos i’ch rheolwyr eich bod yn awyddus i’ch datblygu eich hunan a’ch rhagolygon gyrfa.

Cysylltwch â’ch colegau lleol i holi am gyrsiau rhan amser a allwch eu hastudio a fyddai’n eich cynorthwyo gyda’ch gyrfa.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae nifer o gymwysterau ar gael i ddatblygu eich gyrfa – os hoffech symud ymlaen i faes rheolaeth, bydd angen i chi ystyried dilyn cymhwyster ar Lefel Uwch.

Byddai Gradd Sylfaen (FdSC) mewn Gweithgynhyrchu Bwyd neu Iechyd a Maetheg Bwyd yn un awgrym.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae hon yn swydd bwysig iawn o fewn unrhyw gwmni gweithgynhyrchu bwyd gan y bydd eich sgiliau archwilio yn sicrhau bod pob cynnyrch yn cydymffurfio â deddfwriaeth, yn cael eu gwneud yn iawn i gyd-fynd â’r gofynion, ac yn cael eu cynhyrchu mewn modd cost effeithiol.