Felly am beth mae hyn i gyd?
Fel aelod medrus o’r tîm gweithgynhyrchu bwyd, byddwch chi wrth wraidd cynhyrchu rhai o’r bwydydd enwog sy’n cael eu hysbysebu bob dydd ar y teledu.
Fel gweithiwr medrus, byddwch wedi derbyn hyfforddiant penodol a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich swydd i’r safon uchaf posib.
Yn y diwydiant bwyd, mae’r math o bobl fedrus angenrheidiol yn cynnwys cigyddion, pobyddion, technegwyr peiriannau, peirianwyr a gwneuthurwyr caws. Ond mae’r diwydiant mor amrywiol fel y gallwch fod yn cynhyrchu cacennau, iogwrt, bysedd pysgod, bariau siocled neu ddiodydd diet - yn wir, bron a bod unrhyw fwyd wedi ei bacio neu lapio allwch chi ei ddychmygu.
Byddwch chi’n gyfrifol am wella’r broses cynhyrchu a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn hwylus.
Beth allen i fod yn wneud?
Gan fod pob bwyd yn cael eu cynhyrchu’n wahanol, gallech fod yn gweithio mewn dulliau gwahanol – er enghraifft, mewn ffatri gig, gallech fod yn gweithio fel cigydd sy’n gyfrifol am dorri, diesgyrnu a pharatoi carcasau yn unol â gofyn y cwsmer.
Fel technegydd medrus, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod llinellau cynhyrchu yn derbyn cyflenwad cyson o ddeunyddiau crai a bod yr holl beiriannau’n rhedeg ar eu cyflymder cywir.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod camau rheoli hanfodol mewn lle wrth gynhyrchu’r bwyd.
Mae cwmnïau bwyd yn dueddol o weithredu amrywiaeth o batrymau sifft i gwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid. Gan ddibynnu ar y sifftiau y byddwch yn eu dewis neu’n derbyn, os nad ydych ar sifft dydd safonol gallech fod yn gweithio ddydd neu nos, neu ar benwythnosau. Os ydych yn dewis gweithio oriau anghymdeithasol, byddwch fel arfer yn derbyn mwy arian am wneud hynny.
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod safonau glanweithdra ac ansawdd o’r radd flaenaf yn cael eu cynnal bob amser.
Byddwch hefyd yn sicrhau bod eich swydd yn cael ei gyflawni’n gywir ac yn gyflym yn unol â disgwyliadau’r cwmni.
Dylech fwynhau:
- Gweithio fel rhan o dîm
- Cyflawni eich tasgau’n dda
- Dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau
- Datblygu dealltwriaeth dda o iechyd a diogelwch a rheolau glanweithdra sylfaenol
- Adnabod problemau
- Canolbwyntio ar wneud nifer benodol o weithgareddau’n dda
- Bod yn gywir gyda sylw i fanylder
- Gweithio’n hyblyg
Beth am y cyflog?
Mae cyflogau gweithwyr yn y diwydiant bwyd a diod yn amrywio o gwmni i gwmni ond yn dechrau o oddeutu £13,000 y flwyddyn. Os ydych yn dda yn eich swydd ac yn meddu ar yr agwedd iawn, mae codiad cyflog a dyrchafiad yn debygol iawn o ddod i’ch rhan.
Mae nifer o weithwyr medrus yn derbyn tâl uwch am eu sgiliau, felly mae gweithwyr medrus yn debygol o ennill mwy na’r £13,000 uchod. Er enghraifft, bydd cigyddion medrus sy’n derbyn tâl bonws am yr hyn y maent yn ei gynhyrchu yn ennill ymhell dros £20,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Bydd cyflogwyr yn disgwyl i chi gyflawni rhai cymwysterau TGAU neu gymwysterau cyfwerth, ond nid mewn unrhyw bwnc penodol (er, mae Mathemateg a Saesneg bob amser yn ddefnyddiol).
Mae pob gweithiwr mewn cwmnïau bwyd yn derbyn hyfforddiant diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch yn ystod eu cyfnod anwytho, ond mae safon addysg resymol (5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) yn debygol iawn o wella eich rhagolygon gyrfa.
Hefyd, gall profiad blaenorol mewn swyddi medrus penodol fod yn bwysig – mae’r rhain yn cynnwys pobyddion, cigyddion, arbenigwyr caws a chynnyrch llaeth.
Beth am hyfforddiant pellach?
Bydd eich cyflogwr eisiau i chi ddod yn fwy effeithiol yn eich rôl ac yn debygol iawn o ddarparu hyfforddiant ychwanegol.
Bydd hyn yn eich cynorthwyo i ddod yn fwy arbenigol yn eich swydd yn ogystal ag arwain at well rhagolygon gyrfa a chyflog.
Fel gweithiwr medrus, dylech ddisgwyl hyfforddiant penodol sy’n fanteisiol i chi yn eich rôl yn ogystal â chymwysterau Lefel 2 a Lefel 3; bydd y rhain yn eich rhoi gam ymlaen ar gyfer dyrchafiad o fewn y cwmni.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?
Oes, cofiwch y byddwch yn derbyn llawer o hyfforddiant os ydych yn dangos potensial, gan olygu y byddwch yn ennill mwy o arian ac yn gwneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i’ch cyflogwr.
Mae’r diwydiant bwyd yn un o’r cyflogwyr lleol mwyaf ac mae cwmnïau ar gael ledled Gogledd Iwerddon. Golyga hyn fod llwyth o gyfleoedd i chi symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes bwyd gyda nifer o gyflogwyr - po fwyaf medrus ydych chi, y gorau oll!