English en
Technolegydd Prosesu

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Technolegydd Prosesu (a elwir weithiau’n Dechnolegydd Datblygu), chi fydd y cyswllt rhwng y gegin datblygu cynnyrch a’r llinell gynhyrchu, gyda chyfrifoldeb dros sicrhau bod cynnyrch newydd yn symud un llyfn o’r camau treialu a phrofi i’r cynhyrchu.

Golyga hyn eich bod yn sicrhau bod cynhyrchu arbrofol yn y ffatri yn cymryd lle gan adrodd ar ganlyniadau i’r holl staff perthnasol. Byddwch yn darganfod unrhyw broblemau critigol, yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant, mesur cynnyrch ac yn sicrhau bod popeth yn cydymffurfio â safonau ansawdd, diogelwch a disgwyliadau’r cwsmer.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y byddwch hefyd yn gyfrifol am brynu a threialu offer prosesu newydd – naill ai i gefnogi lansiad cynnyrch newydd neu i wneud gwelliannau i brosesau cynhyrchu presennol.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Gallai hyn amrywio gyda lefel eich cyfrifoldeb, ond mae’n debygol o gynnwys:

  • Cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygiad cynnyrch newydd o’r ochr Datblygu Cynnyrch Newydd hyd at lansio’r cynnyrch yn llwyddiannus, gan sicrhau bod cysondeb yn y cynnyrch trwy gydol y broses
  • Sicrhau bod yr holl waith yn bodloni safonau mewnol a safonau’r cwsmeriaid o ran ansawdd a diogelwch
  • Trefnu a rheoli treialon llinell gynhyrchu a gwerthuso gan sicrhau bod popeth wedi mynd yn iawn
  • Adeiladu perthynas dda  gyda’r adrannau Datblygu Cynnyrch Newydd a Chynhyrchu a staff eraill a fydd yn rhan o’r datblygiad
  • Deall prosesau cynhyrchu’r cwmni a thynnu sylw staff Datblygu Cynnyrch Newydd at unrhyw broblemau posibl ar gyfnodau cychwynnol y datblygiad
  • Hwyluso ymweliadau cwsmeriaid yn ystod treialon cynhyrchu
  • Datblygu amserlenni ymarferol ar gyfer lansiad cynnyrch
  • Cysylltu gyda chydweithwyr yn yr adran brynu i sicrhau bod yr holl stoc sy’n do di mewn ar gyfer y broses cynhyrchu cyntaf mewn lle
  • Cynnal ymchwiliadau parhaus i brosesau cynnyrch a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau os oes angen
  • Sicrhau bod gweithdrefnau a manylebau’n cael eu dogfennu’n gywir ar gyfer pob cynnyrch a’u bod ar gael ar gyfer staff perthnasol
  • Cefnogi prosesau cynhyrchu cyntaf a bod ar gael i ddatrys problemau a chynnig cyngor arbenigol yn ôl yr angen
  • Sicrhau bod yr holl gynnyrch yn cael eu costio’n fanwl yn dilyn treialon cynhyrchu a chyn cynhyrchiant llawn

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig ac yn gallu ymdrin â phroblemau a’u datrys yn eich pwysau - byddwch chi’n fath o berson sy’n sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud, beth bynnag fo’r amgylchiadau.

Byddwch yn gallu cofnodi data cymhleth a gwneud argymhellion yn seiliedig ar eich canfyddiadau. Bydd gennych sgiliau cyfrifiadur ardderchog a byddwch yn gallu cyfathrebu’n dda yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae’r swydd yn gofyn am berson sy’n drefnus iawn, yn gallu gweld y darlun ehangach ond yn parhau i ganolbwyntio ar elfennau unrhyw brosiect ar sail dydd i ddydd er mwyn sicrhau bod cynnyrch newydd yn lansio’n llwyddiannus.

Byddwch hefyd angen gallu costio cynnyrch yn gywir er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth annisgwyl yn codi pan fydd eich cynnyrch yn cyrraedd y cyfnod cynhyrchu llawn.

Yn olaf, bydd disgwyl i chi fod yn gwbl gyfarwydd â holl brosesau gweithgynhyrchu eich cwmni.

Beth alla i ddisgwyl?

Fel arfer, byddwch yn gweithio oddeutu 37.5 awr y dydd fel technolegydd datblygu a phrosesu. Fodd bynnag, pan fyddwch yn cynnal treialon cynhyrchu, mae’n bosibl y byddwch yn gweithio’n hwyr neu ar sifftiau cynnar neu dros nos neu benwythnosau, gan fod angen i’r rhain gael eu cwblhau tu allan i adegau prysur.

Byddwch yn treulio tipyn o amser yn symud rhwng y swyddfa a’r ffatri, ac mae’n bosibl y byddwch yn treulio llawer o amser mewn ardaloedd cynhyrchu yn ystod lansiadau prosiect - felly gwnewch yn siŵr eich bod y math o berson na fyddai’n malio gwisgo dillad diogelwch a glendid neu weithio mewn ardaloedd a allai fod yn oer, yn boeth, yn wlyb ac ati.

Mae’n bosibl y bydd ychydig o deithio yn rhan o’ch swydd wrth i chi gyflwyno canfyddiadau i gwsmeriaid a chwrdd â chyflenwyr cynhwysion ac offer - gallai hyn hyd yn oed gynnwys ychydig o deithio tramor er mwyn archwilio offer y mae’n bosibl y byddwch yn ei argymell ar gyfer eich cwmni os yw’n cael ei wneud dramor.

Beth am y cyflog?

Gan y bydd gennych ychydig o brofiad eisoes os ydych yn anelu at y swydd hon, a’ch bod yn debygol o fod wedi do di mewn i’r cwmni fel hyfforddai graddedig, gallech ddisgwyl ennill o leiaf £24,000 y flwyddyn mewn swydd fel hon. Gyda mwy o gyfrifoldebau, gallai godi i dros £30,000 y flwyddyn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Byddwch yn sylwi wrth edrych ar hysbysebion swyddi neu hysbysiadau am gyfleoedd dyrchafu ar gyfer swyddi technolegydd prosesu bod cwmnïau eisiau ychydig (neu lawer) o brofiad blaenorol, naill ai o fewn y cwmni neu mewn swydd debyg iawn yn rhywle arall. Yn ogystal, er y byddai eich cyflogwyr yn y mwyafrif o achosion yn chwilio am addysg ar lefel gradd, mae’n bosibl y byddwch wedi dechrau gweithio gyda llai o gymwysterau ond eich bod wedi cwblhau astudiaethau ar sail rhan amser wrth ddatblygu profiad.

Beth am hyfforddiant pellach?

Os ydych wedi cyrraedd lefel gradd neu gyfwerth, mae’n bosibl y byddech yn dymuno ystyried un o’r ystod eang o gymwysterau lefel Meistr, a bydd un o’r rhain yn debygol iawn o fodloni eich gofynion a’ch dyheadau.

Mae’n bosibl y byddai eich cwmni yn talu i chi fynychu cyrsiau arbenigol yn ymwneud â’ch swydd a fydd yn ehangu eich lefel sgiliau ac yn eich gwneud yn well yn eich gwaith.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae’r rôl hon yn bwysig iawn i bob gweithgynhyrchwyr bwyd, yn enwedig y rhai hynny sy’n gweithredu ar raddfa fawr. Bydd angen i chi sicrhau bod modd gwneud cynnyrch newydd mewn modd proffidiol fel bod eich cwmni’n gwneud elw - gan arwain at gamau gyrfa uchel iawn eu proffil pan fyddwch yn ei wneud yn dda.