English en
Planner

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Cynlluniwr Cynhyrchu mewn cwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y cynnyrch cywir yn cael eu gwneud mewn modd effeithlon ac i’r ansawdd gorau cyn eu cludo at gwsmeriaid.

Golyga hynny y byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl, o’r gwerthu hyd at y cynhyrchu er mwyn creu amserlen cynhyrchu addas.

Bydd rhaid i chi hefyd sicrhau bod yr holl ddeunyddiau crai mewn lle’n barod i’w defnyddio gan eich cydweithwyr cynhyrchu yn unol â’ch amserlenni.

Mewn cwmni bach, gallai rôl y cynlluniwr fod yn gyfuniad o weithgareddau eraill, ond mewn sefydliad mwy, mae’n debygol y byddwch yn rhan o dîm cynllunio.

Eich cyfrifoldeb yn y pen draw yw sicrhau a chyrraedd lefel o 100% o ran gwasanaeth cwsmeriaid.

Beth allen i fod yn ei wneud?

 

Mae union rôl cynlluniwr yn amrywio ond mae’n debygol o gynnwys y tasgau canlynol:

  • Creu amserlenni cynhyrchu dyddiol ar gyfer adrannau cynhyrchu
  • Rhagweld gofynion cwsmeriaid yn y tymor hwy a chynnal system rhagolygon addas ar gyfer y tymor hwy
  • Monitro perfformiad cynhyrchiant er mwyn sicrhau nad yw’r albwn gwirioneddol yn llai na’r cynllun a gytunwyd
  • Cyfathrebu gydag adrannau gwerthu, storio, cynhyrchu a thechnegol ac ati er mwyn sicrhau bod yr holl gynhyrchiant yn dilyn y cynllun
  • Datrys problemau a mynd i’r afael ag unrhyw faterion a allai godi o ganlyniad i brinder deunyddiau/llafur, peiriannau’n torri lawr ac ati
  • Cysylltu gyda staff logisteg o ran amseroedd anfon
  • Briffio uwch reolwyr ynglŷn â rhagolygon
  • Monitro unrhyw waith sydd ar y gweill neu waith a gwblhawyd yn flaenorol er mwyn cylchdroi stoc ac felly i leihau gwastraff

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Rhan pwysicaf eich rôl fydd y gallu i gynhyrchu amserlenni cywir i’w defnyddio gan eich cydweithwyr yn yr adran gynhyrchu – mae hynny’n golygu y bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r broses gynhyrchu.

Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog fel bod pawb yn ymwybodol o’r hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchiant llwyddiannus, yn ogystal â’u dyletswyddau unigol o fewn y broses.

Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod popeth wrth law o ran deunyddiau crai a phobl, neu ni fydd hyd yn oed y cynlluniau gorau’n llwyddo.

Ar ben hynny bydd angen i chi allu datrys problemau’n sydyn heb gynhyrchu’n ormodol, ynghyd â gwneud penderfyniadau effeithiol.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl gweithio wythnos 40 awr o hyd, a hynny fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond mae’n bosib y bydd angen gweithio tu allan i’r oriau hyn, un ai ar y safle neu oherwydd galwad brys.

Byddwch yn treulio mwyafrif eich amser yn y swyddfa, er byddwch yn debygol o dreulio ychydig amser yn y ffatri yn monitro’r hyn sy’n digwydd.

Beth am y cyflog?

Gall Cynllunwyr ennill unrhyw beth rhwng £22,000 a £30,000 gan ddibynnu ar leoliad a phrofiad, er mae’n bosib y bydd hyfforddai’n ennill llai.

Gallai uwch gynlluniwr cynhrychu ennill ymhell dros £30,000 y flwyddyn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Nid oes cymwysterau penodol ar gyfer cynlluniwr cynhyrchu – mewn nifer o achosion mae cynllunwyr wedi cael profiad blaenorol o weithio mewn rôl gynhyrchu ac wedi dod yn gyfarwydd iawn â systemau cynhyrchu yn y ffatri. Neu mae’n bosib eu bod yn hyfforddai sydd wedi graddio’n ddiweddar sydd wedi cael cyfle i brofi amrywiaeth o swyddi.

Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau sy’n gobeitho recriwtio cynllunwyr yn nodi bod angen profiad blaenorol mewn rôl debyg.

Beth am hyfforddiant pellach?

Byddwch yn derbyn hyfforddiant gan eich cyflogwr, yn enwedig os bydd eich swydd yn golygu defnyddio rhaglen gyfrifiadurol unigryw sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich cwmni. Bydd yr hyfforddiant hwn fel arfer yn cael ei ddarparu trwy ddysgu gan gydweithwyr mwy profiadol.

Gallech hefyd ystyried cymwysterau arbenigol megis y rhai a gynigir gan CILT (Chartered Institute of Logistics and Transport) e.e. Dyfarniad Lefel 5 mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi a Chyflenwadau.

Gallai cynllunwyr profiadol, gyda’r cymwysterau iawn,ystyried dyrchafiad i rôl Rheolwr Cynhyrchu; neu fel arall, mae’n bosib y byddech yn cael eich dyrchafu i rôl cynllunio mwy strategol, yn hytrach na gweithrediadau o ddydd i ddydd.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae rôl cynlluniwr yn eithriadol o bwysig o fewn unrhyw gwmni gweithgynhyrchu bwyd gan fod y gallu i gynhyrchu cynnyrch cost effeithiol yn galluogi eich cyflogwr i aros gam o flaen y cystadleuwyr!

Wrth gwrs, mae hynny’n golygu y byddwch yn aml yn gweithio mewn sefyllfaoedd dan bwysau, felly cofiwch geisio peidio â chynhyrfu a chadw meddwl clir bob amser!