Beth yw’r swydd?
Byddwch chi, fel Rheolwr Pecynnu, yn gyfrifol am yr holl waith sy’n ymwneud â phecynnu o fewn eich cwmni, felly byddwch yn arwain adran sy’n darparu gwybodaeth pecynnu, datblygiadau pecynnu newydd, rheoli stoc, rhagolygu a rheoli perthynas gyda chwsmeriaid yn gywir ac yn amserol.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Bydd nifer o agweddau gwahanol i’ch swydd gan gynnwys rheoli tîm o arbenigwyr datblygu a dylunio pecynnau. Byddwch yn goruchwylio eu gwaith ac yn sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol.
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod popeth yn mynd yn ei flaen yn esmwyth gan gynnwys darparu a diweddaru manylebau yn unol â rheoliadau newydd, goruchwylio’r holl arbrofi ar ddeunydd newydd, cyfathrebu â chysylltiadau mewnol ac allanol, gwneud cyflwyniadau i gwsmeriaid ac yn y blaen.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Bydd gofyn bod gennych wybodaeth ymarferol o’r holl adrannau rydych chi’n gweithio gyda nhw, er enghraifft, marchnata a chynhyrchu.
Pe bai unrhyw broblemau’n codi, mae’n bwysig eich bod yn medru eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.
Bydd angen gwybodaeth dechnegol wych arnoch.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Bydd gennych amserlen brysur gan y byddwch yn rheoli adran brysur ac amlwg – wrth i’r diwydiant bwyd barhau i dyfu a thechnoleg pecynnu a dulliau newydd yn cynnig ffyrdd newydd o gyflwyno a gwarchod cynnyrch, mae datblygiadau cynnyrch newydd hefyd yn parhau i dyfu - a bydd angen pecyn penodol ar bob cynnyrch newydd.
Fel nifer o swyddi eraill yn y sector bwyd, mae’r rôl hon yn un foddhaol iawn. Nid pawb sy’n medru cerdded mewn i archfarchnad ac edrych ar fwrdd hysbysebion neu wylio hysbysebion ar y teledu a gweld eu gwaith wedi’i arddangos- ond fe allwch chi!
Beth am y cyflog?
Mae hon yn rôl ar lefel uwch sy’n hanfodol i’r sector cynhyrchu bwyd ac yn cymryd nifer o flynyddoedd o brofiad cyn y byddwch yn addas ar gyfer y swydd, hyd yn oed pan fyddwch yn hollol gymwys.
Bydd y cyflog yn amrywio yn ôl cwmni ond gallwch ddisgwyl ennill rhwng £30,000 a £40,000. Bydd rhai rolau o fewn yr un cwmni yn talu mwy ac eraill yn talu llai, felly canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn.
Pa gymwysterau sydd eu hangen?
Mae hon yn swydd ar gyfer rhywun sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad ond dylai eich gradd gychwynnol ymwneud â bwyd a/neu fusnes.
Dylech ystyried cwblhau gradd Technoleg Bwyd a Gwyddor Bwyd, yn enwedig y cyrsiau hynny sy’n cynnig modiwlau sy’n ymwneud â phecynnu.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae eich cwmni’n debygol o roi cyfle i chi gwblhau cymwysterau rhan amser neu weithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus a fydd yn eich helpu i fod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus yn eich swydd.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Mae rôl y Rheolwr Pecynnu yn bwysicach nag erioed gan fod pecynnu arloesol yn hanfodol i’r agenda cynaliadwyedd mewn perthynas ag ailgylchu ac osgoi gwastraff.
Bydd galw mawr am eich arbenigedd!