English en
Datblygwr Pecynnu

Felly am beth mae hyn i gyd?

Chi fydd arbenigwr eich cwmni o ran adnabod a datblygu technoleg a dyluniadau pecynnu newydd o’r syniadau cychwynnol hyd at ei gyflwyno’n ymarferol.

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o dechnolegau pecynnu amrywiol i sicrhau bod y pecynnau a ddatblygir gennych yn bodloni safonau trwyadl.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Byddwch yn treulio eich amser yn dylunio cydrannau pecynnu a datblygu systemau pecynnu ar gyfer cynnyrch newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli.

Bydd hyn yn cynnwys drafftio amserlenni prosiectau, cyfrifo costau’r pecynnau a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu. Bydd gweithio ar y cyd gydag adrannau eraill megis marchnata, datblygiad technegol a chynnyrch yn hanfodol mewn rôl fel hon.

Byddwch hefyd yn dylunio ac yn cynnal profion effeithiol o’ch gwaith er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion.

Byddwch yn gyfrifol am lunio manylebau technegol a phrosesu ar gyfer eich gwaith er mwyn sicrhau bod dyluniadau a gweithgareddau terfynol yn gweithio’n esmwyth.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Mae’n debygol y byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd er mwyn gweithio ym maes datblygu pecynnu - fel arfer mewn pwnc sy’n ymwneud â gwyddoniaeth neu fwyd.

Mae hon yn rôl brysur a chyfrifol gan y byddwch yn debygol o fod yn ymwneud  nifer o brosiectau ar yr un pryd – yn enwedig gan fod y cynnyrch newydd sy’n cael eu datblygu yn y diwydiant yn niferus ac yn amrywiol.

Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da yn bwysig gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm a byddwch yn cael tipyn o gyswllt gyda chyflenwyr deunyddiau yn ogystal.

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y pecynnau a ddatblygir gennych yn addas, yn gost effeithiol, ac yn hyrwyddo eich cwmni a’r cynnyrch yn effeithiol.

Beth alla i ddisgwyl?

Fel datblygwr pecynnu, byddwch yn berson sy’n mwynhau creu pethau, ond byddwch hefyd yn un sydd â meddwl technegol gyda sylw at fanylion.

Bydd hefyd angen i chi gadw gwybodaeth gyfredol am dechnoleg pecynnu newydd a sut y bydd yn effeithio ar gynnyrch eich cwmni.

Beth am y cyflog?

Mae hon yn rôl arbenigol iawn sy’n gofyn am lefel uchel o arbenigedd a bydd eich cyflog yn adlewyrchu hynny.

Mae’n debygol y byddwch yn cychwyn ar gyflog dros £20,000 a bydd yn cynyddu’n gyflym wrth i chi fagu profiad.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Fel man cychwyn, dylech ystyried cwblhau gradd mewn Technoleg Bwyd neu Wyddor Bwyd ac unrhyw bynciau cysylltiedig, yn enwedig y cyrsiau hynny sy’n cynnig modiwlau mewn meysydd sy’n ymwneud â phecynnu.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae graddau ôl-raddedig ar gael ym maes Pecynnu

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae hon yn rôl amrywiol iawn lle byddwch yn treulio ambell ddiwrnod wrth eich desg yn gweithio ar fanylebau, ac eraill yn profi yn y labordy neu yn y ffatri – does dim perygl i chi ddiflasu!