English en
Dylunydd Deunydd Pacio

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Dylunydd Deunydd Pacio, byddwch yn gyfrifol am greu pecynnau deniadol ac ymarferol ar gyfer cynnyrch bwyd a gynhyrchir gan eich cwmni.

Byddwch yn debygol o dreulio tua thraean i hanner eich amser yn dylunio’r pecynnau – a’r gweddill yn gweithio ar gostau cynhyrchu, cwrdd â’ch cydweithwyr i drafod eich gwaith a chwrdd â chwsmeriaid i fireinio’r hyn yr ydych yn ei ddylunio.

Bydd eich gallu i weithio fel rhan o dîm o fewn cwmni bwyd mawr a deall y busnes bwyd yr un mor bwysig â’ch gallu dylunio arbennig.

Beth allen i fod yn wneud?

O ddydd i ddydd, byddwch chi’n gyfrifol am y canlynol:

  • Datblygu pecynnau cynradd ac eilradd ar gyfer cynnyrch newydd
  • Cychwyn cymhwyso deunydd a fformat deunydd pecynnu newydd
  • Cynnal astudiaethau oes silff a gwneud argymhellion yn seiliedig ar y canlyniadau
  • Rheoli profi’r deunyddiau pacio gyda labordai annibynnol i sicrhau bod deunydd pecynnu’n cwrdd ag amodau
  • Dilyn holl weithdrefnau diogelwch bwyd y cwmni a rheoliadau’r llywodraeth
  • Perfformio eich rôl mewn modd sy’n hybu a gofalu am ddiogelwch bwyd
  • Cysylltu gydag uwch reolwyr i sicrhau bod gofynion cyfreithiol a moesol y cwmni’n cael eu dilyn

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Fel dylunydd deunydd pacio, bydd angen dealltwriaeth dda o hanfodion y cynnyrch yr ydych yn gweithio arno a’ch bod yn gallu gweithio o fewn y canllawiau fel y cawsant eu llunio ym manyleb pecynnu’r cynnyrch.

Pan fydd cynnyrch newydd yn cael ei greu, byddwch yn ymwneud â’r tîm sy’n edrych ar sut i becynnu’r cynnyrch.

Mae dealltwriaeth o dechnoleg cynhyrchu a gwyddor bwyd yn hanfodol fel eich bod yn deall rhinweddau’r hyn sydd wedi ei ddatblygu - bydd hyn yn effeithio ar y modd y bydd angen ei bacio neu ei lapio.

Byddwch yn gyfrifol am elfennau gweledol y cynnyrch wedi’i bacio ac yn dod o hyd i’r opsiynau mwyaf economaidd sydd ar gael ar gyfer y deunydd pacio.

Gallwch hefyd fod yn ymwneud â datblygiad dulliau pecynnu newydd, astudiaethau oes silff ac ati.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl bod yn rhan o dîm mwy sy’n gyfrifol am ddatblygu cynnyrch newydd - o’r ystyriaeth gychwynnol i’r arddangosfa ar safle’r cwsmer.

Mae hon yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad gan eich bod yn gallu gweld canlyniadau eich gwaith bob tro y byddwch yn cerdded i mewn i brif archfarchnad!

Beth am y cyflog?

Mae’r cyflog yn codi gyda phrofiad a lleoliad, ond er eich bod yn dechrau ar gyflog is, bydd dylunydd deunydd pacio gyda phrofiad nodweddiadol yn ennill rhwng £25,000 a £27,000 y flwyddyn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Dylech ystyried cyrsiau gradd mewn Technoleg Bwyd a Gwyddor Bwyd a phynciau perthnasol eraill, yn enwedig y cyrsiau sy’n cynnig modiwlau mewn pecynnu.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae cyrsiau gradd ôl-raddedig ar gael mewn Pecynnu.

Gellir crynhoi’r sgiliau angenrheidiol fel a ganlyn:

  • Dealltwriaeth o gyllidebu sylfaenol
  • Gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth eang o’r broses pecynnu a’r prosesau yn ymwneud â chynnal a chadw
  • Gwybodaeth arbenigol mewn rheoliadau diogelwch bwyd cenedlaethol a rhanbarthol
  • Gallu i gydbwyso anghenion pecynnu cynnyrch – gan gynnwys ecolegol, economaidd, gwell oes silff, atyniad gweledol ac effeithlonrwydd cludo

A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?

Mae dylunwyr deunydd pacio yn nodweddiadol yn gweithio mewn cyfuniad o labordy, swyddfa a ffatrïoedd prosesu. Maent yn aml yn gweithio oriau gwaith wythnosol safonol, er eu bod weithiau yn gweithio oriau sifft, gan ddibynnu ar anghenion eu cyflogwr, a phan fo cyfleusterau prosesu ar gael i brofi dyluniad.

Os oes gennych chwilfrydedd deallusol, yn mwynhau defnyddio offer i gyflawni tasgau sydd angen manylder, ac yn hoffi cyfuniad o waith technegol a chreadigol, yna gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi!