Beth yw’r swydd?
Mae rôl marchnatwr manwerthu yn hanfodol i les ariannol unrhyw sefydliad gan ei fod yn penderfynu pa gynnyrch i’w brynu a’r ffordd orau i’w arddangos.
Bydd angen i chi wybod am gynnyrch sy’n newydd ar y farchnad, pa gynnyrch fydd cwsmeriaid yn ei hoffi ac, wrth gwrs, pa rai fydd yn gwneud elw i’ch cyflogwr a’i gadw ar y blaen.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y penderfyniad terfynol ar y math o eitemau fydd yn cael eu prynu ar gyfer manwerthu ac yn gosod y cyfyngiadau i brynwyr y cwmni wrth gaffael yr eitemau hyn.
Mae nifer o farchnatwyr manwerthu yn arbenigo mewn un maes, fel bwyd neu ffasiwn, felly maen nhw’n dod yn arbenigwyr yn eu gwaith.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Gallai eich rôl fel marchnatwr manwerthu amrywio yn ôl cwmni ond bydd yn debygol o gynnwys y dyletswyddau canlynol:
- Cydweithio’n agos â phrynwyr a marchnatwyr eraill i gynllunio ystod cynnyrch
- Cyfarfod â chyflenwyr, dosbarthwyr a dadansoddwyr
- Rheoli cyllidebau
- Archebu nwyddau
- Rhagolygu gwerthiant ac elw a dadansoddi perfformiad
- Trafod prisiau, niferoedd ac amodau cyflenwi
- Rheoli lefelau a dosbarthiad stoc
- Archebu nwyddau a delio â phroblemau cyflenwi
- Gosod gostyngiad prisiau/bargeinion arbennig fel sy’n addas
- Gwneud rhagolygon a chyflwyniadau ariannol i uwch reolwyr
- Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd hyrwyddo a hysbysebu
- Gosod prisiau a thargedau gwerthiant i siopau unigol
- Dadansoddi perfformiad cystadleuwyr
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Er mwyn bod yn farchnatwr effeithiol bydd angen i chi fod â llawer o brofiad marchnata a’r gallu i ddadansoddi tueddiadau’r farchnad ac ymddygiad prynu’r defnyddwyr.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwych arnoch i weithio gyda’ch cydweithwyr a chyflenwyr allanol. Mae rhan o’r gwaith hefyd yn cynnwys gwneud cyflwyniadau i uwch reolwyr felly bydd angen yr hyder i lwyddo arnoch yn ogystal â sgiliau technegol (fel TG).
Mae ymwybyddiaeth fasnachol a’r gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau effeithiol yn nodweddion hanfodol o swydd masnachwr gan fod yna adegau pan fyddwch yn gweithio o dan straen mawr; mae sgiliau rhifedd a dadansoddi da hefyd yn angenrheidiol wrth i chi lunio cyllidebau a ffigurau gwerthiant.
Wrth gwrs, bydd angen i chi fod yn berson trefnus iawn sy’n medru gweithio ar eich liwt eich hun wrth gynnal trafodaethau a chyfathrebu’n effeithiol.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Fel marchnatwr byddwch yn gweithio oriau swyddfa’n bennaf, rhwng 8am a 6pm; wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd angen i chi weithio oriau hirach a theithio i gwrdd â chyflenwyr a chynhyrchwyr.
Ar adegau byddwch yn gweithio’n annibynnol ac ar adegau eraill byddwch yn gweithio gydag aelodau tîm i gyflawni nod.
Gallwch ddisgwyl gweithio i derfynau amser tynn a fydd yn gwneud y gwaith yn drwm felly bydd angen i chi fod yn drefnus a brwdfrydig iawn.
Byddwch yn gyfrifol am gyllidebau mawr, sydd hefyd yn ychwanegu straen.
Beth am y cyflog?
Fel arfer, bydd marchnatwr yn dechrau ei yrfa mewn rôl ar lefel is neu rôl cynorthwyydd gyda chyflog ddisgwyliedig rhwng £16,000 a £25,000; wrth i chi ddatblygu profiad gallai godi i tua £30,000 y flwyddyn.
Gallai uwch farchnatwyr manwerthu profiadol iawn ddisgwyl ennill dros £40,000 ac os ydych yn arwain tîm neu adran, mae’n bosib y byddwch yn ennill dros £80,000.
Canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a gallai amrywio yn ôl lleoliad, maint y cyflogwyr a sector manwerthu.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Nid oes unrhyw ofynion penodol ond bydd yn rhaid i raddedigion ac unigolion nad ydynt yn raddedigion, ymgeisio am swydd ar lefel mynediad, fel cynorthwyydd gweinyddol er enghraifft.
Er y bydd cyflogwyr yn ystyried ymgeiswyr o bob math o gefndiroedd, bydd gan y rheiny sydd â chymwysterau mewn busnes a rheoli fantais.
Mae gan nifer o farchnatwyr manwerthu graddau cyfrifeg, cyllid, busnes neu farchnata ac mae’n bosib y bydd rhai adwerthwyr am recriwtio graddedigion yn benodol. Gallai rhai cwmnïau mawr recriwtio graddedigion dan hyfforddiant fel rheolwyr a byddai sgiliau marchnatwr yn un o nifer y byddwch yn eu dysgu wrth i chi ehangu eich gwybodaeth am holl agweddau manwerthu.
Gallai’r cymwysterau canlynol fod yn ddefnyddiol os oes gennych ddiddordeb:
- Cyfrifeg a rheolaeth ariannol
- Astudiaethau busnes
- Economeg
- TGCh
- Marchnata
- Mathemateg neu ystadegaeth
- Rheolaeth manwerthol
Bydd cyflogwyr manwerthol yn gofyn am sgiliau rhifedd da a phrofiad perthnasol felly gallai unrhyw waith rhan amser mewn siop fod yn ddefnyddiol yn enwedig gyda manwerthwyr mawr.
Bydd rhai swyddi marchnatwr cynorthwyol yn gofyn am ganlyniadau Lefel A da felly cadwch lygad allan am y rhain hefyd.
Gallwch hefyd ystyried astudio cwrs gweithrediadau manwerthu yn y coleg ac mae nifer o brentisiaethau ar gael hefyd.
Nid yw cymhwyster ôl-radd yn angenrheidiol er bod yna gyrsiau ar gael.
Ble allaf ennill y cymwysterau hyn?
Mae nifer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau sy’n ymwneud â’r pynciau uchod ac mae dewis amrywiol iawn ar gael.
Os hoffech astudio cymhwyster manwerthu mwy arbenigol gallwch ystyried y canlynol:
- BSc Marchnata a Rheolaeth Manwerthol ym Mhrifysgol Roehampton;
- BA Rheolaeth Manwerthol ym Mhrifysgol Bournemouth;
- BSc (Anrh) Rheoli Marchnata Manwerthol ym Mhrifysgol Leeds Beckett;
- BSc (Anrh) Marchnata gyda Manwerthu ym Mhrifysgol South Bank Llundain;
- BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Manwerthu) ym Mhrifysgol Christchurch Caergaint;
- BA (Anrh) Prynu a Marchnata Ffasiwn ym Mhrifysgol Solent Southampton.
Mae Prifysgol Falmouth, mewn partneriaeth â’r Fashion Retail Academy, yn cynnig graddau dwy flynedd mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys BA (Anrh) Prynu a Marchnata.
Mae amrywiaeth o gyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau hefyd ar gael a bydd angen i chi edrych ar brosbectysau ar-lein am y wybodaeth ddiweddaraf.
Cofiwch mai enghraifft o’r hyn sydd ar gael rydym wedi’u rhestru a bod cymwysterau eraill ar gael hefyd; edrychwch mewn prosbectysau a chwilwyr cyrsiau am y manylion diweddaraf.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae yna nifer o feysydd o fewn manwerthu a phan fyddwch yn ystyried hyfforddiant a chymwysterau pellach bydd angen i chi gadw eich cynlluniau tymor hir mewn cof; bydd hyn yn eich helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar gyfer eich arbenigedd dewisol os oes gennych arbenigedd.
Ar y llaw arall, os ydych wedi graddio neu fod gennych nifer o flynyddoedd o brofiad, gallwch ddechrau un o’r cyrsiau ôl-radd amrywiol sydd ar gael ledled y DU er mwyn datblygu eich sgiliau a gwella eich rhagolygon gyrfa.
Gallai aelodaeth o gorff proffesiynol fel y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi fod yn ddefnyddiol gan fod ganddynt ystod o gymwysterau perthnasol sy’n addas i’ch swydd fel marchnatwr manwerthu.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, cofiwch, os ydych yn gweithio i gwmni mawr mae’n debygol y byddwch yn gyfrifol am ystod o nwyddau tra bod y rheiny sy’n cael eu cyflogi gan fusnesau bach yn gwneud gwaith mwy amrywiol gan gynnwys prynu.
Cofiwch, hefyd, pan fyddwch yn chwilio am swydd marchnatwr adwerthu, eich bod yn sicrhau eich bod yn ymchwilio i’r swydd yn ddigonol gan fod disgwyliadau gwahanol gan wahanol gyflogwyr, a dydych chi ddim eisiau sioc ddiangen!