English en
Arolygydd Hylendid Cig

Beth yw’r swydd?

Fel Arolygydd Hylendid Cig, byddwch yn gweithio mewn lladd-dy neu ffatri brosesu cig ac yn sicrhau bod y cig yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel ac yn unol â’r cyfreithiau perthnasol.

Byddwch yn sicrhau bod yr anifeiliaid a’r dofednod byw yn iach ac yn archwilio pob carcas i sicrhau nad oes unrhyw glefydau yn bresennol.

Byddwch hefyd yn sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn uchel ac yn cael eu cynnal, eu bod yn derbyn y gofal priodol ac yn cael eu cludo’n ddiogel.

Mae’n rhaid i unrhyw weithrediadau rydych chi’n eu hawgrymu cael eu rhoi ar waith yn syth.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae’n debygol y bydd eich tasgau’n amrywio o ddydd i ddydd ond byddant yn cynnwys y canlynol:

  • Archwilio anifeiliaid byw a gwirio bod ganddynt y dull adnabod priodol ac nad oes ganddynt glefydau
  • Sicrhau lefelau uchel o hylendid a diogelwch mewn lladd-dai, ffatrïoedd prosesu a storfeydd oer
  • Archwilio amgylchiadau lles anifeiliaid
  • Sicrhau bod pob proses yn ddi-boen
  • Gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliant
  • Cofnodi a chasglu data ac ysgrifennu adroddiadau
  • Helpu gydag archwiliadau post mortem ar garcasau
  • Goruchwylio gwaredu cig sy’n anaddas i’w fwyta
  • Cadw gwybodaeth gyfredol am reoliadau a chynghori cwmnïau ar y newidiadau
  • Gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl
  • Sicrhau bod sgil gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu trin a’u gwaredu’n ddiogel

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd disgwyl i chi fedru delio gyda phob math o bobl wahanol gan gynnwys bridwyr anifeiliaid, staff lladd-dai a ffatrïoedd, arolygwyr eraill, cigyddion a manwerthwyr; mae hyn yn golygu person sy’n cyfathrebu’n effeithiol a hyderus, sy’n medru adeiladu perthynas waith dda a datrys problemau wrth iddynt godi.

Bydd angen i chi fedru ysgrifennu adroddiadau manwl a deall materion deddfwriaethol er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniadau effeithiol pan fo angen.

Bydd sefyllfaoedd anodd yn codi yn eich swydd weithiau a bydd angen sgiliau cyfathrebu diplomataidd arnoch i’w datrys.

Hefyd, bydd angen gwybodaeth eang o’r sector prosesu cig. 

Beth allaf ei ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl gweithio rhwng 37 a 40 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener ond gallai hyn amrywio ac efallai y bydd angen gweithio dros yr oriau hyn i gwrdd â therfyn amser; hefyd, efallai y bydd angen i chi weithio y tu allan i oriau gwaith arferol os ydych yn ymweld â lladd-dy neu ffatri brosesu.

Gallwch ddisgwyl treulio amser yn teithio o un safle arolygu i’r llall, felly mae trwydded yrru a defnydd o gar yn ddefnyddiol; ar y llaw arall, os ydych chi’n arolygu llinell gynhyrchu efallai y byddwch yn sefyll yn yr un man am amser hir.

Bydd angen i chi fod y heini  i fedru codi a symud carcas cig trwm; ac weithiau bydd yr amgylchiadau gwaith yn boeth neu’n oer a bydd disgwyl i chi wisgo dillad diogelu fel esgidiau, het ac oferôl.

Nid yw hon yn swydd addas ar gyfer rhywun sydd ddim yn hoff o arogleuon cryf ac amgylchiadau swnllyd!

Beth am y cyflog?

Gallai Arolygydd dan hyfforddiant ennill dros £17000 y flwyddyn a bydd hyn yn codi i £20,000 - £27,000 wrth i chi ennill profiad. Gallai Uwch Arolygwyr ennill hyd at £30,000 y flwyddyn.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Er mwyn bod yn Arolygydd Hylendid Cig, bydd angen Tystysgrif Lefel 2 Hyfedredd mewn Archwilio Cig Dofednod a Diploma Lefel 4 Hyfedredd mewn Archwilio Cig gan Y Sefydliad Brenhinol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus.

Mae gofynion mynediad y rhain yn cynnwys TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ogystal â phrofiad o weithio yn y diwydiant.

Ar y llaw arall, gallech gyflawni’r gofynion hyn drwy Brentisiaeth a fydd yn eich darparu â’r sgiliau technegol ac ymarferol angenrheidiol yn ogystal â chymwysterau perthnasol.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Ar gyfer Prentisiaethau a chyrsiau addysg bellach, cysylltwch â’ch cynghorydd gyrfaoedd neu goleg lleol yn y lle cyntaf i weld beth sydd ar gael sy’n berthnasol i’ch nod.

Mae nifer o gwmnïau cig yn cyflogi Prentisiaid ac mae hyn yn ffordd dda o ddatblygu profiad yn ogystal â chymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant.

Beth am hyfforddiant pellach?

Ar ôl i chi dderbyn swydd Arolygydd Hylendid Cig, mae’n debyg y bydd disgwyl i chi gwblhau cyrsiau hyfforddiant mewnol neu gyrsiau hyfforddiant byr er mwyn eich diweddaru ar y newidiadau cyfreithiol, deddfwriaethol a gweithdrefnol.

Mae yna nifer o wahanol gyrsiau y gallwch eu hystyried a fydd yn gwella eich rhagolygon gyrfa; mae’r rhain yn cael eu darparu drwy’r Sefydliad Brenhinol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus ac eraill.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, peidiwch ag anghofio bod angen rhywfaint o brofiad yn y diwydiant arnoch cyn y byddwch yn medru ystyried bod yn Arolygydd Hylendid Cig; mae cwmnïau cig coch bob amser yn edrych am bobl ifanc brwdfrydig sy’n barod i weithio’n galed i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Mae hon yn rôl bwysig iawn gan mai chi fydd yn gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd sy’n prynu cynnyrch cig.

Wrth i chi ddod yn fwy profiadol ac ennill cymwysterau pellach, gallwch ddatblygu i fod yn oruchwyliwr neu reolwr yn y sector bwyd-amaeth neu weithio i gorff fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd efallai.