Felly am beth mae hyn i gyd?
Bwriad eich swydd fel rheolwr marchnata yw cynllunio a chyflwyno’r ffyrdd gorau i hyrwyddo cynnyrch eich cwmni er mwyn gwneud yr elw mwyaf.
Byddwch yn defnyddio eich creadigrwydd a’ch arbenigedd i sicrhau bod cynnyrch newydd eich cwmni yn cael eu lansio’n llwyddiannus, a sicrhau bod gwerthiant cynnyrch sy’n bodoli eisoes yn cael eu cynnal neu’n tyfu.
Mae’r swydd hon yn cynnwys popeth y byddech wedi’i ddisgwyl, gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a chydlynu’r holl weithgareddau marchnata a hyrwyddo ar gyfer eich ystod o gynnyrch.
Os ydych yn berson creadigol a threfnus, dyma’r swydd i chi.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Bydd union ddyletswyddau eich swydd yn dibynnu ar faint eich cwmni a’r sector yr ydych yn gweithio ynddo ond bydd y canlynol yn gyffredin i’r rhan fwyaf o swyddi rheolwyr marchnata:
- Cynnal ymchwil i’r farchnad a nodi strategaethau hyrwyddo posib ac ennill troedle newydd i’ch cynnyrch yn y farchnad
- Datblygu a chyflwyno’r strategaeth farchnata ar amser ac o fewn y gyllideb
- Arwain a chymell tîm o swyddogion gweithredol a chynorthwywyr marchnata
- Cysylltu â chydweithwyr, cwsmeriaid, a chontractwyr er mwyn sicrhau bod yr holl waith yn mynd rhagddo’n effeithiol
- Mesur a gwerthuso llwyddiant yr ymgyrchoedd a chyflwyno’r canlyniadau i uwch reolwyr y cwmni
- Datblygu strategaethau newydd i gynnyrch yn gyson a sicrhau bod y rhain yn bodloni amcanion cyffredinol y cwmni
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Mae hon yn rôl heriol a chymhleth a bydd angen ichi fod yn greadigol a threfnus tu hwnt. Byddwch yn deall ymddygiad cwsmeriaid a byddwch yn gallu synhwyro pa anghenion defnyddwyr nad ydynt wedi cael eu bodloni. Yn ogystal, bydd gennych sgiliau rhyngbersonol da ac yn rheolwr da sydd wedi hen arfer cyfathrebu gyda phob math o gydweithwyr, cwsmeriaid, a chontractwyr allanol.
Bydd eich dealltwriaeth, eich gafael ar y Saesneg, eich sgiliau dylanwadu, blaenoriaethu a’ch sgiliau rheoli cyllideb yn wych, a bydd rhaid i chi lunio briffiau hyrwyddo, ysgrifennu deunydd ar gyfer cylchgronau a mannau gwerthu ar-lein, comisiynu cefnogaeth allanol a phrawf ddarllen a llofnodi gwaith pobl eraill.
Fel rheolwr, bydd disgwyl i chi allu cymell eich tîm i gyflawni’r canlyniadau gorau posib ar gyfer eich cwmni.
Ar gyfer rôl rheolwr marchnata, byddwch yn treulio eich amser yn gweithio i ystod o derfynau amser felly mae angen i chi fod yn rhywun sy’n gallu rheoli a delio â sefyllfaoedd lle mae llawer o bwysau.
Bydd hefyd angen i chi fod yn ddigon hyderus i werthu syniadau newydd a gwreiddiol i uwch reolwyr y cwmni.
Beth alla i ddisgwyl?
Mae nifer o rolau rheolwyr marchnata wedi’i lleoli mewn swyddfeydd, ac er mai 9yb tan 5yh yw’r oriau craidd, dylech ddisgwyl treulio llawer o amser yn gweithio tu hwnt i’r oriau hyn ac yn teithio i gwrdd â chwsmeriaid, asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus ac yn y blaen.
Wrth i derfyn amser nesáu, gall eich oriau gweithio gynyddu’n sylweddol, ac efallai bydd rhaid i chi weithio gyda’r nos neu ar benwythnosau.
Fel rheolwr marchnata, mae’r rôl yn un uchel ei broffil gyda llawer o gyfrifoldeb am berfformiad y cwmni, felly byddwch yn derbyn llawer o sylw. Bydd angen i chi allu ymdopi â phwysau wrth ichi weithio i geisio gwneud eich strategaeth ar gyfer cynnyrch yn lwyddiant – ond mi fydd hyn yn foddhaol iawn.
Beth am y cyflog?
Gall cyflogau fod yn amrywiol tu hwnt yn unol â sectorau gwahanol a gofynion y cwmni unigol, ond ni fydd rheolwr marchnata sydd wedi bod yn gyfrifol am ymgyrchoedd llwyddiannus yn ennill llai na £35,000 gyda chyfartaledd ychydig yn uwch na hyn.
Gyda dyrchafiad neu gyfrifoldeb ychwanegol mae’n debygol y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu i dros £50,000 y flwyddyn, ac mae cyfarwyddwyr marchnata fel arfer yn ennill dros £75,000, er mai canllaw yn unig yw hwn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Byddwch fwy na thebyg wedi ennill gradd mewn pwnc megis marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, busnes, economeg neu bwnc tebyg er mwyn dechrau mewn marchnata yn hyfforddai graddedig, ac fel arfer bydd angen i chi feddu ar o leiaf tair i bum mlynedd o brofiad fel swyddog marchnata cyn i chi ennill rôl rheolwr marchnata.
Dylech hefyd gofio bod cyflogwyr yn debygol o fod â mwy o ddiddordeb yn eich llwyddiant blaenorol, eich profiad, a’ch gwybodaeth am y diwydiant yn hytrach na’ch cymwysterau ffurfiol ar gyfer swyddi ar lefel rheoli.
Mae cyrsiau sy’n cynnig lleoliad profiad gwaith yn hynod ddefnyddiol, ac os yr ydych wedi bod yn gweithio mewn warws yn eich blwyddyn o brofiad gwaith, yna bydd hyn yn rhoi dechrau da ichi yn eich swydd.
Beth am hyfforddiant pellach?
Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth marchnata a sgiliau rheoli da pan fyddwch yn dechrau gweithio fel rheolwr marchnata, ond mae ystod o gymwysterau ychwanegol y gallwch eu hystyried ar sail rhan amser, ac mae’r rhain yn cynnwys:
Mae yna ystod o gyrsiau ar gael gan gyrff proffesiynol megis y Sefydliad Marchnata Siartredig, er enghraifft y Diploma mewn Cyfathrebu Marchnata sydd ar gael ar sail dysgu o bell.
Efallai y byddai’n syniad i chi ystyried ymaelodi â chorff proffesiynol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion a’r wybodaeth am y digwyddiadau diweddaraf, yn ogystal ag arddangos eich ymrwymiad i’ch rôl.
Yn olaf, gallai ymrwymiad i gynnal datblygiad proffesiynol ac aelodaeth â’r CIM roi’r cyfle ichi ymgeisio am statws Marchnatwr Siartredig. Mae hyn yn dangos eich bod yn weithiwr marchnata proffesiynol profiadol a chymwys.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Er bod rôl rheolwr marchnata yn golygu llawer o straen a gwaith caled, mae’n hynod o foddhaol.
Mae rôl marchnata wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth i gyfryngau digidol ehangu ac wrth i gysylltu â chwsmeriaid trwy ddulliau traddodiadol ddod yn anoddach. Pan fyddwch yn ychwanegu hyn at y potensial twf a diogelwch cymharol swyddi cynhyrchu bwyd, gallwch weld bod llwyth o gyfleon gyrfa gwych i rywun sy’n ystyried swydd fel arbenigwr marchnata.