Felly am beth mae hyn i gyd?
Byddwch yn rhan o gynllunio, datblygu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata integredig a fydd yn hyrwyddo un math neu fwy o gynnyrch eich cwmni, neu’r cwmni ei hun.
Eich nod yw helpu i wneud yr elw gorau posib trwy gynyddu gwerthiant neu gyfran y farchnad ar gyfer amrywiaeth o gynnyrch y cwmni gan ddatblygu strategaethau gwerthiant sy’n addas ar gyfer anghenion eich cwsmeriaid.
Mae’n waith amrywiol iawn a gallwch fod ynghlwm ag ymgyrchoedd marchnata ar gyfer sawl cynnyrch gwahanol ar yr un pryd.
Beth allen i fod yn wneud?
Mae eich cyfrifoldebau’n debygol o amrywio’n ddibynnol ar faint eich cwmni, ond fe welwch bod yr amrywiaeth o dasgau canlynol yn nodweddiadol i’r swydd:
- Cysylltu gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a chyflenwyr
- Rheoli’r broses o gynhyrchu deunydd marchnata amrywiol
- Ysgrifennu a phrawfddarllen testun
- Cysylltu gyda dylunwyr ac argraffwyr
- Trefnu sesiynau tynnu lluniau
- Cynnal a diweddaru cronfeydd data o gwsmeriaid
- Trefnu a mynychu digwyddiadau
- Cyfrannu tuag at a datblygu cynlluniau a strategaethau marchnata
- Rheoli cyllidebau
- Rhedeg ymgyrchoedd marchnata drwy wahanol gyfryngau
- Gwerthuso ymgyrchoedd marchnata
- Gweithio fel rhan o dîm marchnata effeithiol
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd angen i chi fod yn berson creadigol, ond hefyd yn hynod drefnus, yn gallu rheoli sawl prosiect gwahanol ar yr un pryd, ac mae angen meddwl dadansoddol.
Bydd angen sgiliau negodi a chyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel.
Byddwch yn gallu ymdopi â phwysau a sefyllfaeodd sy’n newid yn sydyn, ac yn defnyddio eich menter eich hun i ddatrys unrhyw broblemau – neu i’w hosgoi yn y lle cyntaf.
Bydd angen sgiliau cyfrifiadurol ardderchog, yn ogystal â sgiliau ysgrifennu a llafar cryf.
Yn olaf, bydd angen digon o fynd arnoch, a pharodrwydd i weithio cymaint o oriau â sydd angen i gyflawni’r gwaith.
Beth alla i ddisgwyl?
Byddwch wedi’ch lleoli yn y swyddfa, gyda chryn dipyn o deithio i gwrdd â chwsmeriaid a chyflenwyr ac i fynychu digwyddiadau.
Er mai gweithio 9yb tan 5yp sy’n arferol, bydd cyfnodau’n aml lle bydd angen i chi weithio y tu allan i’r oriau hyn – yn enwedig wrth gydbwyso ymgyrchoedd ar gyfer cynnyrch gwahanol.
Beth am y cyflog?
Mae’n bosib y byddech yn dechrau fel hyfforddai graddedig sy’n ennill o dan £20,000 y flwyddyn – er gallwch ddisgwyl i’r ffigwr yma godi wrth i chi ddatblygu gyrfa lwyddiannus ym maes marchnata.
Gyda phrofiad pellach, gallech fod yn ennill dros £30,000.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Fel arfer, mae gradd marchnata neu radd gyda llawer o gynnwys marchnata yn ofynnol ar gyfer rôl Swyddog Gweithredol Marchnata.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig y gallech eu hystyried un ai fel dewis llawn amser wedi i chi raddio neu ar sail rhan amser fel gweithiwr cyflogedig.
Fel arall, mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael gyda chyrff proffesiynol megis y Chartered Institute of Marketing, er enghraifft y Diploma Ôl-raddedig Siartredig mewn Marchnata.
Efallai yr hoffech hefyd ystyried aelodaeth o gorff proffesiynol, a fydd yn golygu bod gennych bob amser yr wybodaeth ddiweddaraf o ran newyddion a digwyddiadau, yn ogystal â dangos eich ymroddiad i’r rôl.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?
Oes, marchnata yw un o’r dewisiadau gyrfa mwyaf poblogaidd ar gyfer graddedigion, felly disgwyliwch dipyn o gystadleuaeth!
Fodd bynnag, mae’n werth y drafferth gan fod y gwaith yn amrywiol ac yn rhoi boddhad, ac mae cyfleoedd gwych am ddyrchafiad i swyddi uwch.