Beth yw’r swydd?
Fel rheolwr brand i gwmni bwyd, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud argraff gadarnhaol a pharhaol ar gwsmeriaid gydag un neu’n fwy o gynnyrch y cwmni, a fydd yn arwain at gynnydd yn y gwerthiant.
Byddwch yn datblygu, gweithredu a goruchwylio strategaethau penodol sy’n cynyddu proffil y cynnyrch rydych yn gyfrifol amdanynt.
Pwrpas y swydd yw cynllunio a darparu’r neges briodol ar gyfer eich cynnyrch a rhoi’r strategaethau brand priodol ar waith, o’r dechrau i’r diwedd.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Mae’r swydd yn debygol o amrywio yn ôl cwmni ond, bydd eich cyfrifoldebau mwy na thebyg yn cynnwys y canlynol:
- Dadansoddi ac ymchwilio’n fanwl i’r farchnad
- Datblygu strategaethau cynnyrch a’u cyflwyno i uwch-reolwyr y cwmni i’w cymeradwyo
- Gweithio gyda chyllidebau penodol
- Goruchwylio holl ymgyrchoedd marchnata eich cynnyrch, o’u dylunio i’w cwblhau
- Cydweithio gydag arbenigwyr eraill fel dylunwyr pecynnau, staff gwerthu a’r rheiny sy’n gyfrifol am hysbysebu
- Cwrdd â chwsmeriaid a threfnu grwpiau ffocws i brofi eich strategaethau
- Monitro’r ymatebion i’ch strategaeth ar ôl ei weithredu a ffigurau gwerthiant
- Gwerthuso llwyddiant rhaglenni ac awgrymu newidiadau a gwelliannau os oes angen
- Datblygu strategaethau newydd yn barhaus er mwyn eu gweithredu
- Arwain tîm bychan o arbenigwyr a sicrhau’r canlyniadau gorau posib
- Monitro tueddiadau’r farchnad a sicrhau bod eich cynnyrch yn parhau’n brif frand o fewn ei segment o’r farchnad.
- Monitoring all market trends and making sure your product stays as brand leader within its market segment.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Mae hon yn swydd sydd â llawer o gyfrifoldebau a phwysau a bydd eich llwyddiant yn effeithio’n gadarnhaol ar lawer o bobl.
Y peth cyntaf y byddwch ei angen yw’r gallu i ddadansoddi marchnadoedd ar gyfer eich cynnyrch ac yna datblygu strategaethau addas i’w gwerthu – bydd angen rhoi sylw i fanylder a bod yn drefnus iawn yn ogystal â meddwl yn greadigol.
Bydd disgwyl i chi gyfathrebu’n dda gan y byddwch yn delio gyda nifer o bobl drwy’r adeg. Hefyd, bydd angen i chi fod yn wrandäwr da a bod yn gyfarwydd â thueddiadau cwsmeriaid, oherwydd gallai hyn roi llawer o syniadau ar gyfer gwella a syniadau newydd.
Bydd angen i chi drefnu eich amser eich hun yn dda yn ogystal ag amser y rheiny rydych yn eu rheoli gan fod gennych nifer o flaenoriaethau.
Yn olaf, bydd angen i chi fod yn berson cystadleuol gan fod y swydd yn ymwneud â gwneud eich cynnyrch yn fwy adnabyddus na’ch cystadleuwyr.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Yn bennaf, byddwch yn gweithio yn swyddfeydd y cwmni, ond mae’n bosib y bydd angen i chi deithio dipyn - yn enwedig os oes gan eich cwmni sawl safle gwahanol.
Bydd eich oriau gwaith yn cynyddu pan fydd gennych ymgyrch bwysig, digwyddiad neu lansiad cynnyrch, felly byddwch yn barod ar gyfer hyn!
Ar yr adegau hyn, gallwch dreulio llawer o’ch amser yn teithio i fynychu digwyddiadau fel arddangosiadau a chyfleoedd eraill i arddangos eich cynnyrch.
Beth am y cyflog?
Gall Rheolwr Brand sy’n newydd i’r swydd ennill rhwng £20,000 a £25,000 y flwyddyn, ond bydd hyn yn cynyddu gyda phrofiad a llwyddiant.
Ar lefel uwch, gallwch ddisgwyl ennill dros £50,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Bydd nifer o gyflogwyr yn gofyn am gymhwyster gradd ac ychydig o flynyddoedd o brofiad cyn eich ystyried am swydd Rheolwr Brand a bydd y graddau hyn, fel arfer yn berthnasol i’r swydd – er enghraifft, marchnata, economeg ac yn y blaen. Wrth gwrs, ar gyfer y sector bwyd, byddai’n fantais pe baech yn medru cwblhau gradd sy’n cyfuno gwybodaeth am fwyd a marchnata.
Efallai y byddwch wedi dechrau eich gyrfa yn y diwydiant mewn rôl sydd ar lefel is gan gwblhau amrywiaeth o gymwysterau marchnata wrth i’ch gyrfa ddatblygu.
Mae dechrau mewn rôl ar lefel is hefyd yn eich helpu i benderfynu sut yn union rydych chi am i’ch rôl i ddatblygu.
Of course you may have entered the industry in a more junior role and taken a variety of marketing qualifications as your career has progressed. Starting from a more junior level also helps you to decide how exactly you want your role to develop.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae amrywiaeth o gyrsiau ôl-radd y gallwch eu hystyried, naill ai’n llawn amser ar ôl i chi raddio neu ar sail rhan amser wrth i chi weithio.
Ar y llaw arall, mae yna amrywiaeth o gyrsiau ar gael gan gyrff proffesiynol fel Sefydliad Siartredig Marchnata, er enghraifft, Diploma mewn Cyfathrebu Marchnata sydd ar gael ar sail dysgu o bell.
Efallai y byddwch am ystyried aelodaeth o gorff proffesiynol, a fydd yn golygu bod gennych bob amser y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau yn ogystal â dangos eich ymrwymiad at y rôl.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, gyda chynnydd yn y sector cynhyrchu bwyd, mae swyddi fel y Rheolwr Brand yn dod yn gynyddol bwysig gan y bydd angen i chi fedru llunio a gweithredu strategaethau sy’n gwerthu mwy o gynnyrch eich cwmni chi na chynnyrch tebyg eich cystadleuwyr.
Felly, os ydych chi’n gystadleuol a brwdfrydig, dyma’r swydd i chi!