Felly am beth mae hyn i gyd?
Mae rheolwyr Gweithgynhyrchu’n gyfrifol am gynllunio’r agwedd gweithgynhyrchu mewn cwmnïau bwyd. Mae’r rôl hon hefyd yn gofyn am sgiliau sylweddol yn ymwneud â rheoli adnoddau dynol, rheoli perfformiad a chynllunio strategol.
Mae’n rhaid i reolwyr gweithgynhyrchu fod yn gyfarwydd â’r ystod o brosesau bwyd o fewn eu cwmni a bod yn gallu asesu effaith ariannol eu penderfyniadau ar y busnes.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae swydd y rheolwr gweithgynhyrchu’n cynnwys ystod eang o ddyletswyddau sy’n cynnwys rheoli pobl, prosesau ac adnoddau eraill megis adnoddau ffisegol neu ariannol er mwyn cyrraedd targedau cynhyrchiant.
Mae’r swydd yn golygu y byddwch yn arwain tîm mawr o bobl a bydd gennych reolaeth lwyr o fwyafrif y gylchred cynhyrchu - gan gynnwys logisteg, cynllunio, ansawdd, cynnal a chadw ac adnoddau dynol, yn ogystal â gweithgynhyrchu wrth gwrs.
Byddwch yn treulio llawer o’ch amser yn cydlynu’r holl weithgareddau uchod er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant gorau posib a bod pob targed yn cael ei gyrraedd neu ei or-gyrraedd.
Mae gwybodaeth ynglŷn â thechnegau gwelliant parhaus amrywiol hefyd yn bwysig ar y lefel hon fel eich bod mewn sefyllfa i yrru’r gwelliannau yn eu blaen.
Mae’r rôl yn hanfodol i lwyddiant y cwmni a byddwch yn debygol iawn o fod yn adrodd i gyfarwyddwr gweithrediadau neu rywun tebyg, felly bydd angen sgiliau cyflwyno ardderchog.
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Fel rheolwr gweithgynhyrchu bydd disgwyl i chi arwain eich tîm o reolwyr, arweinwyr tîm a gweithwyr er mwyn sicrhau’r holl allbynnau a ddisgwylir o’ch adran. Byddwch hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad eich staff gan gynnwys mewnbwn i ddewis pwy sy’n cael eu cyflogi – yn ogystal â rheoli perfformiad staff er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau.
Byddwch yn berson sy’n gallu meithrin amgylchedd weithio gadarnhaol lle bydd pobl yn cael eu hysgogi ac yn teimlo’n hapus yn eu gwaith ac yn teimlo’n gyfrifol ac yn atebol am yr hyn maent yn ei wneud. Bydd rheolwr gweithgynhyrchu hefyd yn gweithredu system lle bo’r holl brosesau a chostau’n cael eu hadolygu’n barhaus er mwyn sicrhau’r gwerth gorau bob amser.
Yn ogystal, bydd angen gwybodaeth ynglŷn â phob gweithdrefn sy’n berthnasol i’ch cyfrifoldebau fel eich bod yn gallu sicrhau bod eich cwmni’n cydymffurfio â rheoliadau perthnasol ac yn gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch ayyb.
Beth alla i ddisgwyl?
Bydd angen sgiliau trefnu ac arwain ardderchog er mwyn ymdopi gyda gofynion y rôl hon ac i allu cadw’ch pen pan fyddwch dan bwysau.
Bydd gennych gefnogaeth tîm mawr o unigolion a’ch cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eu bod yn gweithio’n esmwyth gyda’i gilydd er mwyn cyflawni eu holl dargedau.
Gallwch hefyd ddisgwyl y bydd y cyfarwyddwr uwch eich pen yn holi am ddiweddariadau ynglŷn â chynnydd – nid ffigyrau cynhyrchiant yn unig, ond hefyd ar dargedau eraill a all fod wedi’u gosod gan Fwrdd y cwmni.
Gallai hynny gynnwys rheoli absenoldeb a chyflawni targedau diogelwch a lleihau gwastraff.
Beth am y cyflog?
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae cyflogau blynyddol ar y lefel hon o reolaeth yn dda, ac er eu bod yn amrywio o gwmni i gwmni, mae’n debyg y byddwch yn ennill dros £70,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Mae rôl y Rheolwr Gweithgynhyrchu’n un ar lefel uchel ac mae’n debyg y bydd gennych sawl blwyddyn o brofiad cyn y gallwch ymgeisio ar gyfer y math hwn o waith.
Nid oes unrhyw reswm pam na allwch gyflawni rôl ar lefel uchel fel Rheolwr Gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, po uchaf yw lefel eich cymwysterau pan fyddwch yn ymuno â’r cwmni, cyntaf yn y byd y byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer swyddi rheolaeth ar y lefel hon.
Os ydych yn anelu at y lefel hon, byddem yn awgrymu’n gryf y dylech ystyried dilyn un ai cwrs gradd yn ymwneud â bwyd neu gwrs sy’n ymwneud â busnes neu weithgynhyrchu.
Bydd unrhyw un o’r rhain yn gychwyn da, o bosib fel rheolwr iau neu hyfforddai graddedig yn y lle cyntaf. Gydag ymrwymiad ac agwedd benderfynol, does dim i’ch rhwystro rhag cyrraedd yn uwch.
Beth am hyfforddiant pellach?
Yn unol â phob swydd yn y sector bwyd, unwaith y byddwch wedi ymuno, cewch gyfle i dderbyn yr hyfforddiant gofynnol i’ch gwneud chi’n well yn eich swydd. Ar y lefel hon, mae’n bosib y byddech yn ystyried y math o lwybrau hyfforddiant a datblygiad ychwanegol, megis MBA (Master of Business Administration), a fyddai’n eich paratoi ymhen amser i gymryd rôl ar lefel uwch swyddog gweithredol, cyfarwyddwr neu ar lefel Bwrdd.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes – mae teitlau swydd Rheolwr Gweithgynhyrchu, Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwr Gweithrediadau’n ymgyfnewidiol, felly gwiriwch union ffocws unrhyw rôl y byddwch yn ymgeisio amdani.