Beth yw’r swydd?
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith cynnal a chadw dydd i ddydd o fewn y cwmni sy’n golygu trefnu i drwsio offer yn ogystal â chynllunio gwaith cynnal a chadw ataliol.
Chi fydd y cysylltiad rhwng y tîm cynnal a chadw a’r adran gynhyrchu a chi fydd yn trefnu contractwyr allanol os oes angen.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Mae’n debygol y bydd gennych amrediad eang o ddyletswyddau:
- Cydlynu gyda’r adran gynhyrchu
- Cynllunio gwaith cynnal a chadw ataliol
- Trefnu amserlenni staff cynnal a chadw
- Cydweithio â chontractwyr allanol
- Sicrhau ansawdd y gwaith cynnal a chadw
- Gosod esiampl gadarnhaol ar gyfer staff eraill yr adran
- Archebu stoc a sicrhau bod cyflenwad addas wrth law
- Goruchwylio gwaith cynnal a chadw dydd i ddydd
- Adrodd problemau at y rheolwr peirianwaith
- Sicrhau bod gwaith papur yn gywir ac yn gyfredol
- Sicrhau eich bod yn cyflawni targedau a’r gyllideb ac adrodd ar unrhyw amrywiant
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Yn ogystal â phrofiad sylweddol o waith cynnal a chadw bydd hefyd angen i chi fwynhau gweithio gyda phobl oherwydd bydd yn defnyddio llawer o’ch amser yn y swydd.
Er nad ydych yn y ffatri bellach efallai byddwch yn dal wedi eich lleoli mewn ardal sy’n agos iawn at y ffatri ac efallai bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ffatri o dro i dro. Pan fydd pethau’n torri efallai bydd rhaid i chi gymryd cip olwg ar y broblem oherwydd chi fydd yn atebol am yr amser segur!
Beth allaf ei ddisgwyl?
Yn gyffredinol, byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos gydag ychydig bosibilrwydd o oriau ychwanegol yn enwedig pan fydd camau ataliol cynnal a chadw yn digwydd ar raddfa fawr.
Bydd eich swyddfa’n agos iawn at yr ardaloedd cynhyrchu/gweithdai cynnal a chadw ac efallai bydd angen i chi dreulio ychydig o amser bob diwrnod yn y ffatri gan ddibynnu ar beth sy’n digwydd; pan fyddwch yn y swyddfa gallwch ddisgwyl fod yn eistedd o flaen cyfrifiadur, felly byddwch yn barod am hynny hefyd.
Beth am y cyflog?
Mae hyn yn amrywio yn ôl cwmni gyda’r cyfartaledd cyflog tua £25,000.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Mwy na thebyg bydd gennych chi brofiad blaenorol o weithio mewn rôl cynnal a chadw a llawer o gymwysterau a phrofiad yn barod.
Mae’n debygol y bydd eich cymwysterau’n dechrau gyda Phrentisiaeth mewn pwnc sy’n ymwneud â pheirianneg fel peirianneg drydanol neu beirianneg fecanyddol.
Neu efallai eich bod wedi mynychu’r coleg ar ôl TGAU am gwpwl o flynyddoedd i astudio’n llawn amser.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae yna nifer o ddewisiadau ar eich cyfer a fydd yn gwella eich gyrfa.
Bydd nifer o gyrsiau ar gael drwy Goleg Addysg Bellach leol neu efallai y byddwch yn ystyried cynyddu eich cymhwyster drwy astudio gradd neu radd sylfaen ar sail rhan amser.
Edrychwch ar wefannau Prifysgolion a Cholegau am fanylion ar gyrsiau rhan amser sy’n ymwneud â pheirianneg a chymwysterau sy’n ymwneud â busnes a rheoli yr hoffech eu hystyried o bosib; bydd y rhain yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau i chi ac o bosib yn fuddiol i’ch uchelgeisiau gyrfa.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, mae rôl Cydlynydd Cynnal a Chadw mewn cwmni bwyd yn rôl bwysig oherwydd bod eich arbenigedd mewn rheoli’r adran o ddydd i ddydd yn golygu bod gan staff uwch amser i gwblhau gwaith strategol ar ran y cwmni.
Efallai bydd yn dal yn rhaid i chi wneud gwaith ymarferol neu oruchwylio’r gwaith cynnal a chadw gan ddibynnu ar strwythur y tîm cynnal a chadw.